Mae Profi Olrhain Diogelu’n hanfodol i lwyddiant i barhau i reoli COVID-19 yng Ngwent

Yn ôl adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (POD) wedi bod yn sylfaen i’r ymyrraeth COVID-19 ledled Cymru. Asgwrn cefn y Gwasanaeth yng Ngwent yw’r bartneriaeth rhwng y 5 awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
 
Mae’r bartneriaeth gref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar draws Casnewydd, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent wedi rhoi lefelau uchel o ddiogelwch i’n cymunedau ac mae Profi Olrhain Diogelu Gwent wedi cynnig glasbrint ar gyfer cydweithio yn y rhanbarth.
 
Mae’r adroddiad hefyd yn casglu bod Profi, Olrhain, Diogelu yn rhan hanfodol o’r camau i gyfyngu ar Covid-19 a lleihau’r angen am gyfyngu ar fywydau pobl.
Mae hefyd yn casglu y bydd y rhaglen POD yn parhau i fod yn arf allweddol ym mrwydr Cymru â’r firws am beth amser i ddod, waeth beth yw’r cynnydd gyda brechlynnau.
 
Ymhlith canfyddiadau allweddol eraill yr adroddiad mae:

• Wrth i staff yn y sector cyhoeddus a symudwyd i’r Gwasanaeth symud yn ôl i’w swyddi arferol, mae angen cynnal gweithlu POD cydnerth â sgiliau.
• Mae cyfyngiadau clo wedi cynnig atebion dros dro yn unig i reoli trosglwyddiadau ac mae rhaglen POD yn arf allweddol wrth reoli’r firws.
• Mae’r rhaglen POD wedi dangos gallu gwasanaethau cyhoeddus i gydweithio a gwneud hynny’n gyflym i gwblhau gwaith.  Wrth i sylw symud at atebion gwahanol i’r pandemig, mae’n bwysig bod y dysgu cadarnhaol o’r rhaglen yn cael ei gadw a’i ddefnyddio o ran sut bydd partneriaid yn cydweithio yn y dyfodol.
• Yn fwyaf pwysig, mae gan y cyhoedd rôl bwysig iawn o hyd o ran atal y firws rhag lledaenu trwy ddilyn cyfarwyddyd a hunan-ynysu pan fo angen.  Dyw’r cynnydd gyda brechlynnau ddim yn dileu’r angen i’r cyhoedd helpu yn y ffyrdd yma.
 
Dywedodd Eryl Powell, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Heb amheuaeth,  mae llwyddiant y Gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yng Ngwent wedi digwydd oherwydd partneriaethau cryf rhwng y pum awdurdod lleol yng Ngwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.  Mae cydweithwyr ar draws y rhanbarth wedi ymrwymo’n ddygn at wasanaethau cyhoeddus integredig ac mae defnyddio gwybodaeth o’n cymunedau wedi bod yn rhan allweddol o lwyddiannau POD Gwent. 
 
"Wrth i ni weld dechrau llacio’r cyfyngiadau, mae’r Gwasanaeth profi Olrhain Diogelu mor bwysig nawr ag erioed ac rydym yn annog pobl sydd â symptomau COVID-19 neu’n sy’n teimlo’n sâl yn gyffredinol i fynd am brawf a hunan-ynysu am 10 diwrnod os bydd y canlyniadau’n gadarnhaol. Rydym wedi ymrwymo at roi cefnogaeth i’r rheiny sy’n gorfod ynysu er mwyn cadw Gwent yn ddiogel.”
 
Mae adroddiad llawn Archwilio Cymru i’w weld trwy fynd at:
https://wao.gov.uk/sites/default/files/publications/track-trace-protect-Eng_0.pdf