Gŵyl Banc Dechrau Mai 2022 Trefniadau Gwasanaeth

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am ddydd Gwener 29 Ebrill 2022 ac yn ail-agor am 8am ddydd Mawrth 3 Mai 2022.

Gellir cysylltu â’r gwasanaeth Argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd gwasanaeth larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau o 5pm ddydd Llun 2 Mai 2022 a bydd yn ail-agor am 9am ddydd Mawrth 3 Mai 2022.

Yn ystod cyfnod y Pasg gellir cysylltu â Thîm Dyletswydd Argyfwng Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Taliadau a Budd-daliadau

Os dymunwch wneud taliad, bydd y llinell talu awtomedig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/home/

Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, yn cynnwys casgliadau cewynnau/glanweithdra a gwastraff gwyrdd yn parhau fel arfer. Gofynnir i chi roi eich gwastraff ac ailgylchu allan i’w gasglu erbyn 7am ar ddyddiad y casgliad ac i dorri lawr unrhyw eitemau cardfwrdd mawr cyn iddynt gael eu casglu.

Bydd y Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi ar agor fel arfer. Mae ymweliadau i New Vale drwy apwyntiad yn unig. Cewch eich troi ymaith os nad oes gennych apwyntiad. Mwy o wybodaeth – https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/

Gwasanaeth Cofrestru

Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Llun 2 Mai 2022. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 3 Mai 2022 drwy apwyntiad yn unig.

Hybiau Cymunedol

Bydd Hybiau Cymunedol sydd mewn llyfrgelloedd canol tref ar gau ddydd Llun 2 Mai 2022.

Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.