Gofod swyddfa newydd hyblyg ar gael yng Nglynebwy yn y dyfodol agos

Bydd gwaith ar y Box, hyb newydd o safleoedd swyddfa hyblyg  a gynlluniwyd yn bwrpasol a’u trawsnewid o gynwysyddion llongau, cael ei gwblhau yn fuan ar hen safle’r Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy.

Mae’r datblygiad o 21 o unedau manyleb uchel yn amrywio o 159tr.sg. hyd at 220tr.sg. ar gyfer gwasanaethau ariannol, proffesiynol a defnydd busnes yn ychwanegiad newydd a chyffrous i bortffolio eiddo y Cyngor.

Cafodd yr unedau unigryw hyn, a gafodd eu rhan-gyllido gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, eu lleoli o amgylch safle cynaliadwy, bywiog a defnydd cymysg a ddaw hefyd yn gartref i Gampws Thales a’r hyb technoleg ym Mlaenau Gwent.

Mae’r unedau yn berffaith ar gyfer busnesau modern a chreadigol gyda naws technoleg sydd naill ai’n dechrau arni, yn cyflymu twf eu busnes neu’n barod am eu gofod swyddfa cyntaf. Cynigir nifer o unedau mewn amgylchedd sy’n rhoi preifatrwydd, diogelwch a gofod penodedig ond gyda budd amgylchedd waith agored a hamddenol yn agos at entrepreneuriaid o’r un anian.

Mae’r unedau eu hunain yn rhoi amgylchedd modern a cymunol gyda seddi cysurus, cegin ac ystafelloedd y gellir eu harchebu, yr amgylchedd perffaith ar gyfer unrhyw fusnes entrepreneuraidd uchelgeisiol.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:

“Rwy’n falch i gefnogi’r safle flaengar yma a fydd gobeithio yn cefnogi datblygu busnesau newydd ac entrepreneuraidd yn yr ardal. Diolch i’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae’n rhoi sylfaen wych i Flaenau Gwent ar gyfer ysgogi gweithgaredd economaidd newydd a datblygu cyfleoedd wrth i ni ddechrau adfer o Covid. Gobeithiaf weld y safle’n ffynnu gyda entrepreneuriaid y dyfodol pan fydd yn llwyr weithredol yn yr haf.”

Ychwanegodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae’r safle blaengar ac unigryw hwn yn enghraifft wych o sut y gall y rhaglen Trawsnewid Trefi helpu i gefnogi busnesau i ddatblygu a thyfu ac yn enghraifft gref o’r buddion hirdymor y gall adfywio dod â hwy i gymunedau Cymru.

“Bydd y Box yn cael effaith drawsnewidiol ar fusnesau bach, gweithwyr llawrydd ac entrepreneuriaid lleol yng Nglynebwy sy’n gobeithio sefydlu eu menter busnes eu hunain neu ehangu i ofod swyddfa, gan roi hwb hanfodol i’r economi lleol.”