Bydd yn Ailgylchwr Gwych a helpu Cymru i gyrraedd y brig – 8 GAIR O GYNGOR

Mae dinasyddion Cymru ar flaen y gad gyda’n hailgylchu gwych. A dweud y gwir, ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Ond mae arnom angen eich help chi i gyrraedd rhif un.

Mae mwy na 90% ohonon ni’n ailgylchu’n rheolaidd, ond gyda’n hanner ni yn dal i fethu ailgylchu popeth posibl, mae mwy y gallwn ei wneud. Pe bai pob un ohonom yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu dim ond un peth ychwanegol bob dydd, byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr.

Bydd yn ailgylchwr gwych, gwarchod y blaned a helpu Cymru i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu drwy wneud y canlynol:

1. Os yw wedi’i wneud o blastig, ac yn siâp potel, ailgylcha ef
Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ailgylchu. Mewn gwirionedd, mae mwy nag 88% ohonon ni’n ailgylchu poteli plastig fel poteli diodydd, nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi. Cofia’i wagio, ei wasgu a rhoi’r caead yn ôl arno cyn ei ailgylchu. Gellir gadael y chwistrell ar boteli glanhau. 

2. Rhoi rinsiad cyflym iddo
Cofia rinsio potiau, tybiau a chynwysyddion yn gyflym cyn eu hailgylchu; gan gofio tynnu unrhyw haenau plastig. Does dim angen eu golchi’n drylwyr, ac mae eu rhoi yn y peiriant golchi llestri’n mynd dros ben llestri – ac yn gwastraffu ynni!

3. Ailgylcha ganiau erosol o bob ystafell
Gellir ailgylchu metelau ailgylchadwy fel caniau erosol dro ar ôl tro heb i ansawdd y deunydd ddirywio. Cofia ailgylchu’r caniau erosol gwag o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi, fel chwistrell gwallt, diaroglydd a gel eillio. Mae ailgylchu cyn lleied â dau gan erosol yn arbed digon o ynni i bweru set DJ am un awr.

4. Ailgylcha dy holl wastraff bwyd
Pan gaiff ei ailgylchu, mae dy wastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy. Buasai dim ond un croen banana’n creu digon o ynni i wefru dau ffôn smart. Er bod 90% ohonon ni’n ailgylchu ein gwastraff bwyd, mae rhywfaint o fwyd yn dal i gyrraedd y bin sbwriel. Cofia bod modd ailgylchu gwastraff fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, esgyrn a chrafion llysiau a ffrwythau.

5. Tynna’r bwyd oddi ar ddeunydd pacio wedi’i wneud o gardbord
Tynna ddarnau o fwyd oddi ar ddeunydd pacio o bapur a chardbord cyn eu hailgylchu. Er enghraifft, galli gynnwys y bocs pitsa, ond iti wneud yn siŵr bod unrhyw fwyd wedi cael ei dynnu oddi arno.

6. Defnyddia’r prawf crychu
Ansicr a ellir ailgylchu darn o bapur? Rho gynnig ar ei grychu yn dy law. Os nad yw’n bownsio’n ôl, yna gellir ei ailgylchu. Mae hwn yn brawf da i’w wneud gyda phapur lapio. Ac os wyt ti am ailgylchu cardiau pen-blwydd, rhwyga unrhyw ddarnau gyda llwch llachar arno i ffwrdd yn gyntaf.

7. Cofia ei wasgu
Gwasga boteli plastig a chaniau’n gyflym – mi wnaiff hynny arbed lle yn dy gynhwysydd ailgylchu a’u gwneud yn fwy effeithlon i’w cludo. Gwasga eitemau ffoil at ei gilydd yn ysgafn i’w helpu i fynd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.

8. Os nad wyt ti’n siŵr, gwiria
Os nad wyt ti’n siŵr os, sut, neu ymhle y galli ailgylchu eitem, galli edrych ar Leolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu yn https://walesrecycles.org.uk/cy/lleoliad-ailgylchu-1. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw rhoi dy god post i mewn a bydd yr ateb yn ymddangos.

Galli ddysgu mwy am yr ymgyrch gwych i helpu Cymru i gyrraedd y brig ar y wefan www.byddwychailgylcha.org.uk