Ailethol Arweinydd y Cyngor ac Aelodau’r Cabinet yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Blaenau Gwent heddiw (dydd Iau 25 Mai 2023).

Cafodd y Cynghorydd Stephen Thomas o’r Blaid Lafur ei ailethol yn ffurfiol fel Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Corfforaethol a Pherfformiad. Ailetholwyd y Cynghorydd Helen Cunningham yn Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd.

Ailetholwyd y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol y Cyngor. Mae’r Aelod Llywyddol yn:

  • cadeirio cyfarfodydd y Cyngor
  • cynnal trefn er mwyn diogelu hawliau Aelodau yn sicrhau y caiff busnes y Cyngor ei gynnal yn deg ac yn ddiduedd
  • hyrwyddo ymgysylltu democrataidd ac arweinyddiaeth.

Y Dirprwy Aelod Llywyddol fydd y Cynghorydd David Wilkshire unwaith eto.

Mae Aelodau Cabinet y Cyngor a’u portffolios perthnasol yn parhau fel sy’n dilyn:

  • Arweinydd ac Aelod Cabinet Corfforaethol a Pherfformiad – Cynghorydd Stephen Thomas
  • Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd – Cynghorydd Helen Cunningham
  • Aelod Cabinet Pobl ac Addysg – Cynghorydd Sue Edmunds
  • Aelod Cabinet Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cynghorydd  Haydn Trollope
  • Aelod Cabinet Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd – Cynghorydd John C. Morgan

Ar gael ei ail-ethol yn Arweinydd y Cyngor, dywedodd y Cyng Thomas:

 “Mae’n anrhydedd unwaith eto i gael fy newis i wasanaethu fel Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein prif flaenoriaethau, ac mae’r argyfwng mewn costau byw yn un ohonynt. Gwyddom fod hyn yn taro’n galed ar lawer o bobl yn ein cymunedau a rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid ar draws rhanbarth Gwent ar ffyrdd i gynnig cefnogaeth a chyngor i’r teuluoedd hynny sydd mewn trafferthion.

 “Nid yw’n gyfrinach fod gennym gyfnod ariannol heriol ac ansicr iawn o’n blaen fel awdurdod, gyda rhai penderfyniadau anodd iawn ar y gorwel. Rwyf eisiau parhau i weithio gydag aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol yma ym Mlaenau Gwent i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn tynnu gyda’n gilydd i barhau i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer ein preswylwyr. Bydd angen i ni ganfod datrysiadau blaengar fel y gallwn barhau i gyflawni ein cynlluniau ar gyfer y cyfleoedd addysgol a sgiliau gorau, gofal cymdeithasol ansawdd uchel a gwella ein hamgylchedd lleol ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”

Cafodd Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion y pwyllgorau dilynol eu penodi hefyd:

  • Pwyllgor Craffu Pobl – Cynghorydd Tommy Smith (Cadeirydd)
  • Pwyllgor Craffu Lle – Cynghorydd Malcolm Cross (Cadeirydd) 
  • Pwyllgor Craffu Partneriaeth – Cynghorydd Wayne Hodgins (Cadeirydd) 
  • Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad – Cynghorydd Joanna Wilkins (Cadeirydd) 
  • Gwasanaethau Democrataidd – Cynghorydd John Hill (Cadeirydd)
  • Planning Committee – Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd)
  • Pwyllgor Trwyddedu – Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd)