Agor Ystafell Addysg newydd yng Nghanolfan Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu, Roseheyworth

Cafodd Ystafell Addysg ei hagor yn swyddogol heddiw yn y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) yn Roseheyworth, Abertyleri. Tu mewn i’r HWRC, mae’r ganolfan addysg mewn lleoliad delfrydol i alluogi plant ysgol a grwpiau cymunedol i ddysgu am ailgylchu a’r hyn sy’n digwydd i’r deunyddiau.

Cafodd yr Ystafell Addysg ei hadeiladu gyda chyllid Economi Cylchol Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd cais llwyddiannus arall i ‘Cadwch Cymru’n Daclus’ am becyn bywyd gwyllt i ddatblygu’r tir o amgylch er budd bywyd gwyllt lleol.

Eisoes mae nifer o bartneriaid Cyngor Blaenau Gwent wedi dangos diddordeb mewn defnyddio’r adeilad ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys Llyfrgell Cewynnau, cyfarfodydd Cymunedol a’r Caffe Trwsio.

Mae’r adeilad yn cynnwys llawer o eitemau mewnol a gafodd eu hadfer sydd wedi helpu i ostwng y gost. Cafodd yr holl ddrysau, celfi, setiau teledu, cadeiriau, byrddau a loceri eu hailgylchu o’r Ganolfan Ddinesig cyn dymchwel yr adeilad. Cafodd yr effaith pren llosg ar du allan yr adeilad ei sicrhau drwy ddefnyddio pren o’r safle ailgylchu.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd / Aelod Cabinet - Lle ac Amgylchedd:
“Bydd y Ganolfan Addysg yn rhoi cyfleoedd i ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws Blaenau Gwent i ddysgu mwy am ailgylchu, ailddefnyddio a’r economi cylchol. Mae gan addysg rôl hanfodol mewn hyrwyddo a chynyddu dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd i’r gwastraff a gynhyrchwn ac annog ailgylchu ac ailddefnyddio. Rydym yn falch i gael y cyfleuster hwn er budd y gymuned ac i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.”

 
Agoriad swyddogol yr Ystafell Addysg newydd yng Nghanolfan Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu, Roseheyworth, yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Chris Smith a’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet (ar y dde) gyda phartneriaid yn y digwyddiad lansio.   Cafodd yr Ystafell Addysg ei hagor yn swyddogol heddiw yn y Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) yn Roseheyworth, Abertyleri.