Heol Fynediad i Lynnoedd Cwmtyleri a Chyfarpar Trin Dŵr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau GwentHeol Fynediad i Lynnoedd Cwmtyleri  a Chyfarpar Trin Dŵr Gorchymyn Llidiartu 2021Adran 129 Deddf Priffyrdd 1980

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (“y Cyngor”) gan weithredu ei bwerau dan A. 129 A (1) Deddf Priffyrdd 1980 (“y Ddeddf”) a’r holl bwerau presennol eraill yn fodlon y cafodd yr amodau a nodir yn Adran 129 A (3) eu cyflawni. Sef bod y safleoedd yn cyffinio neu ger y briffordd wedi eu heffeithio gan:

Rhesymau

  • Mae troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar safleoedd sy’n cyffinio neu ger y briffordd y mae’r Gorchymyn yn cyfeirio atynt a.
  • Mae bodolaeth y briffordd honno yn hwyluso cyflawni cyson ar droseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol a.
  • Ei bod yn yr holl amgylchiadau yn addas gwneud y Gorchymyn hwn ar gyfer dibenion gostwng troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn golygu ymddygiad gan berson sy’n achosi neu’n debygol o achosi aflonyddu, ofn neu ofid i un neu fwy o bersonau heb fod o’r un aelwyd ag ef ei hun (Deddf Cymdogaethau Glân ac Amgylchedd 2005).

Effeithiau

Mae’r datganiad hwn yn cyfeirio at wneud gorchymyn llidiartu i ohirio hawliau mynediad i ddefnyddio’r rhan honno o’r briffordd drwy gyflwyno gorchymyn llidiartu ar Heol Fynediad Cwmtyleri i gyfeiriad y gogledd i Orsaf Bwmpio Dŵr Cymru, rhwng 19.00 o’r gloch a 07.00-08.00 o’r gloch. Gweler y cynllun a atodir ar gyfer lleoliad y glwyd.

Gellir gweld y drafft Orchymyn Llidiartu seiliedig ar Fap a’r Datganiad Rhesymau ar-lein yng ngwefan Blaenau Gwent.

Os dymunwch wrthwynebu’r cynigion bydd angen i chi anfon y seiliau dros wrthwynebu mewn ysgrifen at y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol, i ddod i law erbyn 7 Hydref 2021. Ni chaiff unrhyw wrthwynebiad a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw ei ystyried.

Oherwydd COVID 19, bydd angen anfon gwrthwynebiadau drwy e-bost a gellir neu gwneud drwy anfon e-bost at - BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk

Dogfennau Cysylltiedig