Dalgylch – Ysgol Sefydledig Brynmawr

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymgynghori ar gyflwyno dalgylch ar gyfer Ysgol Sefydledig Bryn-mawr a phennu’r dalgylchoedd ar gyfer Ysgol Gymraeg Tredegar ac Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Bydd yr ymgynghoriad statudol yn rhedeg o hanner dydd ar 12 Rhagfyr 2025 tan 5pm ar 5  Lonawr 2026.

Yn dilyn hyn, bydd y cyngor yn casglu, adolygu a chrynhoi’r holl adborth. Yna bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r cabinet ym mis Ebrill 2025 a’i ystyried a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid gweithredu’r cynnig. Bydd yr adroddiad ar gael i bob ymgynghorai ei weld.

Gallwch gyflwyno eich barn

•       drwy e-bost i schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk neu

•       drwy gwblhau arolwg Snap: https://online1.snapsurveys.com/410wpu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm Gweithrediadau Ysgol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad yw 5pm ar 5 Lonawr 2026.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynnig, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau drwy anfon e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk

Dogfennau Cysylltiedig