Cynigion i wella darpariaeth a meithrin gallu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol

         

 

Trosolwg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn adolygu capasiti ei ysgolion yn flynyddol. Felly mae’r Cyngor yn ymateb i’r galw cynyddol a thwf a nodwyd yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf, yn unol â cheisiadau lleoliad disgyblion ar gyfer lleoliadau Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig (ASD) ac ADY.

Byddai’r cynnig yn cefnogi diben y Gyfarwyddiaeth Addysg i gyflawni:

‘Gwell Ysgolion, Gwell Dinasyddion a Gwell Cymunedau”

 

Y Cynnig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig cynyddu’r capasiti ar gyfer Canolfannau Adnoddau ADY ac ASD ar draws y Fwrdeistref Sirol mewn rhai ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu a newid darpariaethau ADY mewn nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd y cynnig i gynyddu lleoedd ASD ac ADY o 61 i 86 ar draws ysgolion cynradd a chynyddu’r ddarpariaeth mewn ysgolion uwchradd o 62 i 80 lle yng Nghyfnod 1 (yn cynnwys 15 lle cyfrwng Cymraeg). Ymhellach mae’r cynigion yn cynnwys y potensial i gynyddu lleoedd gan 40 arall yng Nghyfnod 2 (yn cynnwys darpariaeth ysgol Ffydd). Daw hyn i rym mewn camau o fis Medi 2023 dros y 5 mlynedd nesaf.

Mae’r Cyngor yn bwriadu ailfodelu amgylcheddau dysgu presennol i greu lleoedd ystafell ddosbarth a chyfleusterau cysylltiedig i letya a darparu adnoddau priodol ar gyfer y darpariaethau a gynigir ar gyfer ADY a ASD. Yn ychwanegol, ac wrth ochr hyn, bydd y Cyngor yn gweithio gyda’r ysgolion i ddatblygu cynllun hirdymor i gefnogi twf a datblygiad cyson.

Felly caiff y cynnig ei gyflwyno mewn 2 gyfnod:

Cyfnod 1

  • Cydnabod y grŵp pontio a sefydlwyd yng Nghymuned Ddysgu 3-16 Ebwy Fawr – Cyfnod Uwchradd fel Canolfan Adnoddau gyda 6 lle o fis Medi 2023
  • Creu Canolfan Adnoddau ASD gyda 6-8 lle yn Ysgol Gyfun Tredegar o fis Medi 2023
  • Creu Canolfan Adnoddau ASD/ADY gyda 10 lle yn Ysgol Gynradd Sofrydd o fis Medi 2024/25
  • Creu Canolfan Adnoddau ASD/ADY gyda 155 lle yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg o fis Medi 2024

Cyfnod 2

Datblygu cynllun tymor canolig i sicrhau capasiti ychwanegol i hwyluso twf a datblygiad cyson mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth yn yr ysgolion dilynol rhwng 2025 a 2029:

  • Creu Canolfan Adnoddau ASD/ADY yn Ysgol Sefydliadol Brynmawr ar gyfer 10 disgybl
  • Creu Canolfan Adnoddau ASD/ADY yn Ysgol Gynradd Cwm ar gyfer 10 disgybl
  • Creu, os oes angen, Canolfan Adnoddau ASD/ADY mewn ysgol gynradd seiliedig ar Ffydd (tebyg i ysgolion yr Eglwys Gatholig/Eglwys yng Nghymru (heb ei benderfynu eto) ar gyfer 10 disgybl
  • Creu Canolfan Adnoddau ASD/ADY yng Nghymuned Ddysgu 3-16 Abertyleri – Campws Cynradd Heol Roseheyworth ar gyfer 10 disgybl

 

Ymgynghoriad

Bydd y ddogfen ymgynghori a’r broses gysylltiedig yn rhoi cyfle i’r rhai yr ymgynghorir â nhw a phartïon â diddordeb i ddysgu mwy am, deall a mynegi eu barn ar gynnig y Cyngor, fydd yn llywio’r penderfyniad terfynol ar sut y byddir yn symud ymlaen â’r cynnig.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig yn dechrau ddydd Llun 26 Ebrill 2023 ac yn dod i ben ddydd Mawrth 6 Mehefin 2023

Gall ymgyngoreion gyflwyno eu sylwadau ar y cynnig, fodd bynnag dylid nodi na chaiff ymatebion a dderbynnir yn ystod y cyfnod hwn eu cofnodi fel gwrthwynebiad. Os bydd y cynnig yn symud ymlaen ac ymgynghorai yn dymuno cyflwyno gwrthwynebiad, bydd angen iddynt wneud hynny mewn ysgrifen yn ystod y cyfnod hysbysu statudol.

Hoffai’r Cyngor i chi ystyried yr wybodaeth a nodir yn y llyfryn ymgynghori a rhoi eich sylwadau ar y cynigion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ar yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda naill ai drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk, neu drwy ein ffonio ar (01495) 355470.

 

Canlyniad yr Ymgynghorid a’r Camau Nesaf

 

Adroddiad Ymgynghori

Caiff Adroddiad Canlyniad yr Ymgynghoriad i Gabinet y Cyngor ei  baratoi ym mis Mehefin 2023. Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan y Cyngor 2 wythnos cyn y gwneir penderfyniad i symud ymlaen neu beidio gyda’r cynnig. Gellir gofyn am gopi caled o’r cyfeiriad e-bost a nodir uchod.

Lluniwyd adendwm i gynnwys diwygiadau i’r wybodaeth wreiddiol a gynhwyswyd yn yr ymgynghoriad ffurfiol (cliciwch yma)

Ar gyfer ymateb Estyn i’r ymgynghoriad ffurfiol (cliciwch yma).

 

Hysbysiad Statudol

Cytunodd y Cabinet ym mis Mehefin 2023 i gymeradwyo’r cynnig. Aeth y Cyngor allan i Hysbysiad Statudol ar 26 Mehefin 2023 gan ddod i ben ar 26 Gorffennaf 2023. I gydymffurfio gyda Chod Trefniadaeth Ysgolion F2 (2018), rhedodd y cyfnod hysbysiad statudol am 28 diwrnod ynghyd ag un diwrnod ar gyfer cyhoeddi. Yn ystod y cyfnod hwn nid oedd unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig gan unrhyw ymgynghorai. Felly cafodd yr adroddiad Gwrthwynebu ei gyflwyno i’r Cabinet i’w gymeradwyo. Cafodd copi o’r Hysbysiad Statudol ei ddangos ar wefan y Cyngor ac ym mhob ysgol yr oedd y cynnig yn effeithio arnynt. Roedd copïau caled o’r hysbysiad statudol hefyd ar gael drwy wneud cais. 

 

Penderfyniad y Cynnig

Ar 4 Medi 2023 penderfynodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar y cynnig yn seiliedig ar ganlyniad y cyfnod hysbysiad statudol a chymeradwyodd y cynnig ar gyfer ei weithredu. Cliciwch yma i gael copi.

 

Hysbysiad am y Penderfyniad

Ar y sail hwn cafodd copi electronig o’r penderfyniad ei anfon ar 7 Medi 2023 fel a nodwyd gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion F2 (2018) a chaiff ei anfon i bawb sydd â buddiant a’i gyhoeddi ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent o fewn 7 diwrnod o’r penderfyniad ym Medi 2023. Cliciwch yma i gael copi.

 

 

Pob Ymholiad

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am yr wybodaeth yn y ddogfen hon, cysylltwch â ni aill drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod neu ein ffonio ar (01495) 355470 os gwelwch yn dda

21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov,uk

 

Dogfennau Cysylltiedig