Sesiwn Siarad gyda’n Gilydd am gyllideb ein cyngor ar gyfer 2026/27 a thu hwnt
Fel cyngor, rydym yn ceisio cynllunio ein gwariant dros nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn cynnwys rhagweld gwariant, incwm a chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Ym Mlaenau Gwent, rydym yn parhau i wynebu’r un heriau ariannol ag yn y blynyddoedd blaenorol, yn debyg i sut mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar gynifer ohonoch yn ein cymunedau. Mae’r galw am wasanaethau’r cyngor yn parhau i dyfu, o ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn ein hysgolion, i ddigartrefedd, i wasanaethau cymdeithasol ac i rai o’r gwasanaethau rheng flaen y mae ein cymunedau’n dibynnu arnynt bob dydd.
Ynghyd â’n partneriaid ffederal, Cyngor Torfaen, rydym wedi mabwysiadu egwyddorion Marmot – gan roi tegwch a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd gwneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau. Mae’r egwyddorion hyn yn arwain ymdrechion i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella lles ar draws y gymuned, gan ganolbwyntio ar feysydd fel rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, creu cyflogaeth deg, sicrhau safonau byw iach, a mynd i’r afael â gwahaniaethu.
Rydym hefyd wedi lansio’r Fargen, ffordd newydd o weithio rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid i drawsnewid sut mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu. Bydd y Fargen yn canolbwyntio ar atal, grymuso a chydweithio ac mae wedi’i strwythuro o amgylch pum cenhadaeth:
Cenhadaeth Un: Y Blynyddoedd Cynnar – Adeiladu Dyfodol Disglair – Cefnogi pob plentyn i ffynnu trwy adeiladu sylfeini cryf ar gyfer dysgu a datblygiad gydol oes – gan ganolbwyntio ar lesiant gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol.
Cenhadaeth Dau: Ysbrydoli Dysgu Gydol Oes, Uchelgais a Gwydnwch – Ysbrydoli uchelgais a gwydnwch trwy rymuso pobl o bob oed i fyw bywydau gwybodus, annibynnol ac iach.
Cenhadaeth Tri: Llesiant drwy Arweinyddiaeth Gymunedol – Partneru â chymunedau i harneisio cryfderau lleol a gwella llesiant, gan leihau’r angen am fynediad cynnar at wasanaethau statudol.
Cenhadaeth Pedwar: Economi Ffyniannus, Lleoedd Llewyrchus – Ysgogi twf economaidd cynaliadwy a chreu cymunedau bywiog sydd wedi’u cysylltu’n dda lle gall pobl a busnesau ffynnu.
Cenhadaeth Pump: Cymunedau Grymus, Grym a Llwyddiant a Rennir – Gweithio ochr yn ochr â chymunedau i ddal eu huchelgais a’u hegni wrth i ni gynllunio a darparu ein gwasanaethau, gan greu’r amodau ar gyfer cydnerthedd cymunedol, hunanddibyniaeth, a llwyddiant a rennir.
Cyllideb gyffredinol y cyngor
Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau ledled Cymru o fis Ebrill 2026 yn amrywio o gynnydd o 6.1% i 4.1%. Mae cynnydd o 4.9% yn ein cyllid ni. Mae’r cynnydd hwn yn gadarnhaol a bydd yn ein helpu i barhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau. Mae’r graffigyn isod yn dangos sut mae ein cyllideb gyfredol yn cael ei gwario:

Ffeithiau allweddol am eich treth gyngor
Mae pob cyngor yng Nghymru yn ystyried cynyddu’r dreth gyngor fel rhan o’r broses o osod ei gyllideb. Ar hyn o bryd, mae’r dreth gyngor yn ardal Blaenau Gwent yn cyfrif am 25% o’n cyllideb gyffredinol, sef y trydydd isaf yng Nghymru.
Nid yw’r cyngor yn cael yr holl arian; mae rhan fach yn mynd i’r heddlu a’ch cyngor tref/cymuned lleol.
Fel rhan o’n cynllunio ariannol parhaus, ac yn unol â’n Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, rydym yn amlinellu cynnig bob blwyddyn ar gyfer y dreth gyngor. Ar gyfer 2026/27, rydym yn cynnig cynnydd o hyd at 4.95%.
Dyma faint yn fwy y byddai aelwyd yn ei dalu bob wythnos yn sgil cynnydd o 4.95%:
- Band A £1.28
- Band B £1.49
- Band C £1.71
- Band D £1.92
- Band E £2.34
- Band F £2.77
- Band G £3.20
- Band H £3.84
- Band I £4.48
Gyda’n dull newydd, rydym wedi canolbwyntio ar barhau i reoli ein hadnoddau a’n gwariant ac, felly, nid ydym yn cynnig unrhyw doriadau i wasanaethau eleni. Yn lle hynny, rydym yn cynnig, gyda’ch cefnogaeth, buddsoddi yn yr hyn rydych chi wedi dweud wrthym sy’n bwysig i chi: ffyrdd, gwasanaethau a chymorth cymunedol, llyfrgelloedd, addysg, a gofal cymdeithasol.
Cymerwch ychydig o amser i gwblhau’r holiadur pwysig hwn.
I ychwanegu eich llais cliciwch yma.