Rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gwblhau Asesiad Perfformiad Panel i asesu eu perfformiad yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 unwaith bob pum mlynedd.
Cynhaliodd Cyngor Blaenau Gwent yr asesiad ym mis Tachwedd 2024 a arweiniwyd gan Banel o bob cwr o'r DU gan gynnwys cadeirydd annibynnol, uwch Swyddog Llywodraeth Leol ac Aelod Etholedig o Awdurdod Lleol gwahanol yng Nghymru, ochr yn ochr â dau gyfoed o'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ehangach.
Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd i gyhoeddi'r adroddiad PPA terfynol, ein hymateb a'n Cynllun Gweithredu yn ymateb i'r argymhellion.