Hysbysiad Preifatrwydd Coronafeirws

Rheolydd data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Bwrdeisiol, Canolfan Ddinesig, Glynebwy NP23 6XB

Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant Gwybodaeth: Steve Berry – 01495 355080                    
E-bost: dataprotection@blaenau-gwent.gov.uk

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut bydd Blaenau Gwent (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a diogelu data personol yn benodol yng nghyswllt y pandemig coronafeirws.

Mae’r Cyngor eisoes yn dal data ar ddinasyddion, gweithwyr cyflogedig a rhanddeiliaid.
Lle mae gennym wybodaeth eisoes am fregusrwydd fel y’i diffinnir yng nghanllawiau cyfredol y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwn rannu hyn ar gyfer dibenion cynllunio argyfwng neu i ddiogelu eich buddiannau hanfodol drwy ei rannu gyda gwasanaethau y tu mewn a hefyd y tu allan i’r Cyngor.

Yn yr argyfwng presennol, gall fod angen i ni ofyn am ddata personol yn cynnwys data personol sensitif nad ydych eisoes wedi ei gyflenwi – er enghraifft, eich oedran neu os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd isorweddol neu os ydych yn fregus. Mae hyn fel y gall y Cyngor eich cynorthwyo a blaenoriaethu ei wasanaethau.

Os oes gennym wybodaeth yn awgrymu y gallech fod yn fregus yn y pandemig presennol, gallwn gysylltu â chi i sicrhau eich diogelwch a’ch cynorthwyo lle’n bosibl.

Gallwch weld prif Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor sy’n cynnwys mwy o wybodaeth ar sut ydym yn casglu, defnyddio a diogelu data personol yn gyffredinol, yn ogystal â’ch hawliau fel gwrthrych data.

Grwpiau Risg Uchel Covid-19

Caiff data personol ei gasglu i asesu a rhoi cefnogaeth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd mewn categorïau risg uchel ac a fyddid yn cael eu hystyried yn fregus, pe byddech yn cael eich heintio gyda Coronafeirws.

Asesu a darparu cefnogaeth i staff

Caiff data personol ei gasglu i alluogi’r Cyngor i ddynodi unrhyw staff (neu rai sy’n gysylltiedig yn agos â staff/dibynyddion) sydd mewn unrhyw un o’r categorïau risg uchel ac a ystyrid yn fregus, pe byddent yn cael eu heintio gyda Coronafeirws.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol?

Cafodd y rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol a broseswn ei rhoi i ni yn uniongyrchol gennych chi, dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Y seiliau cyfreithiol y dibynnwn arnynt ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth bersonol yw:

  • GDPR Erthygl 6 (d) rydym ei angen i ddiogelu eich buddiannau hanfodol
  • GDPR Erthygl 6 (e) rydym ei angen i gyflawni tasg gyhoeddus

Pan fyddwn yn casglu data am eich iechyd, rydym hefyd yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol dilynol:

  • GDPR Erthygl 9 (2) (9i) rydym ei angen ei gasglu ar gyfer iechyd y cyhoedd
  • GDPR Erthygl 9 (2) (j) rydym ei angen i ddadansoddi eich gwybodaeth

Eich hawliau

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau yn cynnwys:

  • Eich hawl i fynediad – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i unioni – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni unioni gwybodaeth a gredwch sy’n anghywir.
  • Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth a gredwch sy’n anghyflawn.
  • Eich hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu prosesu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
  • Nid oes angen i chi dalu unrhyw gost am weithredu eich hawliau. Os gwnewch gais, mae gennym un mis i ymateb i chi.

Gyda phwy i gysylltu os oes gennych bryderon am sut y caiff eich data ei phrosesu

Gallwch gysylltu â Tîm Diogelu Data Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
E-bost: dataprotection@blaenau-gwent.gov.uk

Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn defnyddio’r manylion dilynol:

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO): https://ico.org.uk/
Ffôn 0303 123 1113
Addaswyd ddiwethaf: 08/04/2020

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Ffôn: 01495 355080
E-bost: dataprotection@blaenau-gwent.gov.uk