Cynllun Tacsi Trydan

Cynllun Tacsis Trydan

Mae'r Cynllun Tacsis Trydan yn rhoi cyfle i yrwyr tacsis trwyddedig yn Blaenau Gwent roi cynnig ar dacsi Nissan Dynamo E-NV200 trydan, gyda mynediad i gadeiriau olwyn, am 30 diwrnod er mwyn iddynt gael gweld buddion ariannol ac amgylcheddol cerbydau dim allyriadau.

Beth sy'n gynwysedig yn y cynllun?

Mae'r cynllun yn cynnwys:

  • Cael defnyddio Nissan Dynamo E-NV200 trydan, gyda mynediad i gadeiriau olwyn, am 30 diwrnod
  • trwyddedu'r cerbyd am ddim
  • yswiriant torri i lawr am ddim (ac eithrio cerbyd wedi colli gwefr batri)*

Dysgwch fwy am y Nissan Dynamo E-NV200 sy'n llawn trydan, sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn (gwefan allanol)

Arolygon gwerthuso

Cyn, yn ystod, ac ar ôl cwblhau'r treial, bydd gofyn i'r gyrwyr gwblhau arolygon gwerthuso, a byddant yn cael mwy o wybodaeth am y cynlluniau a'r cymorth sydd ar gael er mwyn iddynt ddod yn berchen ar gerbydau dim allyriadau am y tymor hir.

Costau Blaendal

Mae'r cynllun yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio drwy gydol y peilot gyda'r eithriadau canlynol:

  • Byddwn angen sicrhau blaendal o £100 a fydd yn cael ei ad-dalu'n llawn pan fydd y cerbyd yn cael ei ddychwelyd mewn cyflwr boddhaol glân.
  • Codir cost adfer cerbyd os bydd y cerbyd wedi rhedeg allan o wefr batri*.

Pwy sy'n gallu cymryd rhan?

Darperir y cynllun ar gyfer Deiliaid Trwydded Cab Hacni sy'n gweithredu o Blaenau Gwent

I gymryd rhan yn y cynllun mae'n rhaid eich bod:

  • Yn ddeiliad Trwydded Hacni o fewn ffiniau'r Awdurdod Lleol yr hoffech gymryd rhan yn y cynllun ynddo.
  • Yn dal trwydded yrru lawn a roddwyd gan y DU heb fod â mwy na chwe phwynt cosb neu wedi'ch anghymhwyso rhag gyrru yn y gorffennol.
  • Rhaid fod rhwng 25 i 75 mlwydd oed
  • Heb fod yn rhan o fwy nag un gwrthdrawiad traffig ffordd yn y 3 blynedd blaenorol lle roedd bai arnoch.

Sut mae cymryd rhan?

Gallwch wneud cais ar-lein i gymryd rhan yn y cynllun.

English (electrictaxiswales.co.uk)

Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais?

Ar ôl gwneud cais:

1. Bydd manylion y gyrrwr a'r drwydded tacsi yn cael eu gwirio.

2. Bydd ein Tîm Neilltuo yn cysylltu â'r cyfranogwr i gadarnhau a ydynt wedi bod yn llwyddiannus a thrafod dyddiadau posibl i gymryd rhan.

3. Bydd yr archeb yn cael ei throsglwyddo i'n cangen a fydd yn paratoi'r cerbyd yn barod i'w ddefnyddio.

4. Bydd y cerbyd yn cael ei drosglwyddo i chi yn dilyn archwiliad cyflwr cerbyd a fydd yn cael ei ailadrodd ar ddychweliad diogel y cerbyd.

5. Bydd cerdyn gwefru cerbyd trydan yn cael ei ddarparu am ddim i chi drwy gydol eich defnydd.

6. Gellir storio eich cerbyd cab trwydded hacni presennol yn ein lleoliad cangen dros gyfnod y treial - bydd taliadau storio yn berthnasol

Rhagor o wybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddatgarboneiddio'r Fflyd Tacsis erbyn 2028. Bydd cynlluniau peilot Tacsis Gwyrdd yn gymorth i gyrraedd y targed hwn gan y bydd yn hep i yrwyr tacsis sylweddoli buddion ariannol ac amgylcheddol cerbydau dim allyriadau, a fydd gobeithio'n cyfrannu at symud oddi wrth gerbydau disel a phetrol at Gerbydau Dim Allyriadau.