Trwyddedau Gamblo

Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn gyfrifol am weithgareddau gamblo neilltuol o fewn y Fwrdeisdref.

Mae Deddf Gamblo 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi Datganiad o Bolisi Gamblo sy'n nodi'r polisïau y bydd y Cyngor yn eu gweithredu fel arfer i hyrwyddo'r tri amcan trwyddedu wrth wneud penderfyniad ar gais a wnaed yn unol â'r Ddeddf. Cafodd y Polisi ei adolygu a'i gyhoeddi ar 31 Ionawr 2022.

Y tri amcan trwyddedu yw:

  • atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell troseddu ac anrhefn, bod yn gysylltiedig gyda throseddu ac anrhefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu
  • sicrhau y cynhelir gamblo mewn ffordd deg ac agored
  • diogelu plant a phobl eraill fregus rhag cael eu niweidio neu ymelwa arnynt oherwydd gamblo

Caiff 3 prif fath o drwydded eu cyhoeddi yn unol â'r Ddeddf, sef:-

  • trwydded gweithredydd
  • trwydded bersonol
  • trwydded mangre

Caiff trwyddedau gweithredu a phersonol eu cyhoeddi gan y Comisiwn Gamblo a thrwyddedau mangre eu cyhoeddi gan y Cyngor. Yn ogystal â thrwyddedau, mae nifer o fathau o ganiatâd ar gael ar gyfer mathau neilltuol o gamblo.

Trwyddedau Mangre

Mae angen trwydded mangre i awdurdodi defnyddio mangre ar gyfer:

  • gweithredu casino (Trwydded Mangre Casino)
  • darparu cyfleusterau bingo (Trwydded Mangre Bingo)
  • darparu peiriannau Categori B3 neu B4 (Trwydded Mangre Canolfannau Hapchwarae Oedolion)
  • darparu peiriannau Categori C (Trwydded Mangre Canolfan Adloniant Teulu)
  • darparu cyfleusterau ar gyfer betio (Trwydded Mangre Beto)

Cyn y gellir rhoi trwydded mangre, mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod wedi derbyn trwydded weithredu briodol ac, os oes angen, trwydded bersonol gan y Comisiwn Gamblo.

Caniatâd

Mae'r mathau dilynol o ganiatâd ar gael:

  • caniatâd canolfan adloniant teulu heb drwydded
  • caniatad hapchwarae gwobrau
  • caniatâd mangre trwydded alcohol
  • caniatâd hapchwarae clwb
  • caniatâd peiriant clwb

Canolfan Adloniant Teulu heb Drwydded

Bydd caniatâd canolfan adloniant teulu heb drwydded yn darparu ar gyfer teuluoedd, yn cynnwys plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain.

Bydd Canolfannau Adloniant Teulu heb Drwydded yn gallu cynnig unrhyw nifer o beiriannau categori D (gweler y ddolen islaw ar gyfer categorïau peiriant). Mae angen trwydded ar gyfer peiriannau categori uwch.

Mae'n rhaid ymgynghori â'r awdurdod trwyddedu a Phrif Swyddog yr Heddlu cyn y rhoddir caniatâd. Bydd y caniatâd mewn grym am 10 mlynedd ac nid oes ffi blynyddol. Mae'n rhaid adnewyddu rhwng 2 a 6 mis cyn i'r caniatâd ddod i ben.

Caniatâd Hapchwarae Gwobr

Mae hapchwarae yn hapchwarae gwobr os na chaiff natur na maint y wobr y chwaraeir amdani eu penderfynu drwy gyfeirio at nifer y personau sy'n chwarae neu'r swm y mae'r hapchwarae yn ei dalu amdano neu'n ei godi.

Gellir rhoi caniatâd hapchwarae gwobr os oes trwydded mangre neu hapchwarae clwb yn weithredol yn y fangre.

  • Bydd yr Awdurdod Trwyddedu a Phrif Swyddog yr Heddlu yn ymgynghori ar geisiadau
  • Bydd caniatâd yn parhau am 10 mlynedd ac mae'n rhaid ei adnewyddu rhwng 2 a 6 mis cyn y dyddiad y daw i ben.

Caniatâd Hapchwarae Clwb a Chaniatâd Peiriant Clwb

Gellir rhoi caniatâd hapchwarae clwb i glwb aelodau a sefydliadau lles glowyr (ond nid clybiau masnachol) sy'n awdurdodi'r sefydliad i ddarparu peiriannau hapchwarae yn ogystal â hapchwarae cyfle cyfartal a siawns fel a nodir yn y rheoliadau.

Os nad yw'r clwb yn dymuno cael yr ystod llawn o gyfleusterau a ganiateir gan y caniatâd hapchwarae clwb, gallant wneud cais i'r awdurdod trwyddedu am ganiatâd peiriant clwb. Mae hyn yn awdurdodi'r deiliad i gael hyd at dri pheiriant hapchwarae o gategorïau B4, C neu D (h.y. tri pheiriant i gyd). Gall clybiau masnachol hefyd wneud cais am y caniatâd yma.

Mangre gyda Thrwydded Alcohol

Mae hawl awtomatig i ddarparu dau beiriant hapchwarae (Categori C neu D) mewn mangre gyda thrwydded alcohol. Mae'n rhaid hysbysu'r awdurdod trwyddedu am y bwriad i ddarparu'r peiriannau ac mae'n rhaid talu'r ffi a nodwyd.

Gall yr awdurdod trwyddedu ganiatau unrhyw nifer o beiriannau hapchwarae, fydd yn disodli ac nid yn ychwanegol at unrhyw hawl awtomatig.

Bingo

Mewn mangre gyda thrwydded alcohol, clybiau a sefydliadau lles glowyr, y trothwy yw os caiff bingo ei chwarae yn ystod unrhyw gyfnod o saith diwrnod yn fwy na £2,000 (un ai yn yr arian a gymerir neu'r gwobrau a roddir), bydd angen trwydded weithredu ar gyfer pob gêm bellach o fingo a chwaraeir yn y fangre honno am y 12 wythnos i fod yn gyfreithiol. Mae hyn yn weithredol ar gemau'r dyfodol sydd dros y trothwy o £2,000.

Loteri Cymdeithas Fach

Yn ogystal â thrwyddedau a chaniatâd, mae gan y Cyngor ddyletswydd i gyhoeddi cofrestriadau loteri cymdeithas fach gan fod Deddf Gamblo 2005 wedi dileu'r ddeddfwriaeth a arferai reoleiddio loterïau.

Mae'n rhaid i gymdeithas y caiff loteri ei hyrwyddo ar ei rhan fod wedi sefydlu a chael ei chynnal

  • ar gyfer dibenion elusennol
  • ar gyfer galluogi cyfranogiad yn, neu gefnogi, chwaraeon, athletau neu weithgareddau diwylliannol
  • ar gyfer unrhyw ddiben heblaw budd preifat

Dogfennau Cysylltiedig