Casgliadau Nadolig 2025
2025/26 Masnach Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff – Trefniadau Nadolig
Bydd casgliadau ailgylchu a gwastraff ddau ddiwrnod yn hwyr yn ystod wythnos y Nadolig ac un diwrnod yn hwyr yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd.
Dyddiadau Casgliadau wedi’u Diwygio ar gyfer yr wythnos yn dechrau Dydd Llun 22ain Rhagfyr a Dydd Llun 29ain Rhagfyr:
|
DYDD CASGLU ARFEROL: |
BYDD YN CAEL EI GASGLU AR: |
|
Dydd Llun 22ain Rhagfyr 2025 |
Dydd Casglu Arferol |
|
Dydd Mawrth 23ain Rhagfyr 2025 |
Dydd Casglu Arferol |
|
Dydd Mercher 24ain Rhagfyr 2025 |
Dydd Casglu Arferol |
|
Dydd Iau 25ain Rhagfyr 2025 |
Dydd Sadwrn 27ain Rhagfyr 2025 |
|
Dydd Gwener 26ain Rhagfyr 2025 |
Dydd Sul 28ain Rhagfyr 2025 |
|
Dydd Llun 29ain Rhagfyr 2025 |
Dydd Casglu Arferol |
|
Dydd Mawrth 30ain Rhagfyr 2025 |
Dydd Casglu Arferol |
|
Dydd Mercher 31ain Rhagfyr 2025 |
Dydd Casglu Arferol |
|
Dydd Iau 1af Ionawr 2026 |
Dydd Gwener 2il Ionawr 2026 |
|
Dydd Gwener 2il Ionawr 2026 |
Dydd Sadwrn 3ydd Ionawr 2026 |
|
Wythnos yn dechrau Dydd Llun 5ed Ionawr 2026 Bydd casgliadau’n ailddechrau fel arfer. |
|
Gwybodaeth Bwysig
Mae rheoliadau newydd ar wastraff busnes/annomestig yn dod i rym yng Nghymru o 6 Ebrill 2024 sy’n golygu NA ddylid rhoi papur, plastig, caniau, gwydr, cardfwrdd a bwyd yn y bin gwastraff gweddilliol (sbwriel). Mae’n rhaid i’r gwastraff hwn y gellir ei ailgylchu gael eu cyflwyno ar wahân i’w casglu ar ochr y palmant.
I gael manylion pellach ewch i www.llyw.cymru/ailgylchugweithle
Gwastraff ac Ailgylchu Safleoedd Busnes/Annomestig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig gwasanaeth gwastraff masnachol y codir tâl amdano ac a gaiff ei arwain gan ailgylchu sydd eisoes yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru (gwahanu ailgylchu sych a bwyd ar ochr y ffordd a gwahardd deunyddiau y gellid eu hailgylchu o wastraff gweddilliol [sbwriel]).
Gofynion Cyfreithiol am Wastraff Busnes/Annomestig
Ni chaiff gwastraff masnachol/annomestig ei gynnwys mewn ardrethi busnes ac mae gan holl feddianwyr safleoedd o’r fath ‘ddyletwydd gofal’ dan adrannau 33 a 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar gynhyrchwyr gwastraff annomestig i sicrhau y caiff y gwastraff a gynhyrchir ei gadw mewn modd diogel ac wedi’i reoli ac mai dim ond i gwmni neu sefydliad sydd â thrwydded i’w gasglu a gwaredu ag ef y caiff ei drosglwyddo. Caiff hyn ei reoli drwy Nodyn Dyletswydd Gofal/Trosglwyddo Gwastraff (DOC/WRN). Dylid cadw pob DOC/WTN a lofnodwyd gennych chi a hefyd eich cariwr trwyddedig am o leiaf 2 flynedd.
Mae’r gofynion DOC/WTN mewn grym ar gyfer gwastraff o safleoedd annomestig, yn cynnwys y rhai a ddefnyddir gan gyrff cyhoeddus ac elusennau. Mae safleoedd annomestig yn cynnwys unrhyw safle heblaw eiddo domestig neu garafan y mae rhywun yn byw ynddi fel cartref. Cyswllt adrannau 33 a adrannau 34 Deddf.
Diweddariad ar Ddeddfwriaeth
Mae’r rheoliadau am wastraff masnachol/annomestig yn newid yng Nghymru. Mae’r rheoliadau newydd a gyhoeddwyd dan adran 45AB Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a chant eu cyflwyno i gynyddu ailgylchu ansawdd uchel a gwahardd rhai deunyddiau o domen lanw neu losgydd (Ynni o Wastraff).
Cyswllt rheoliadau newydd.
Mae’r rheoliadau newydd hyn yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar safleoedd busnes/annomestig i gyflwyno eu hailgylchu wedi ei wahanu wrth ymyl y ffordd ac i bob gwasanaeth casglu gwastraff masnachol trwyddedig ei gasglu a’i storio/prosesu yn y cyflwr hwnnw wedi ei wahanu. Mae’r rheoliadau newydd yn cynnwys dirwyon am ddiffyg cydymffurfiaeth gan y cynhyrchydd a hefyd y casglwr Ailgylchu yn y Gweithle
Ein Gwasanaeth
| Yn unol ag ethos y ddeddfwriaeth newydd, mae ein gwasanaeth yn cydymffurfio’n llwyr a chaiff ei arwain gan ailgylchu sy’n golygu ein bod yn ei gwneud yn ofynnol i bob opsiwn ailgylchu perthnasol gael ei flaenoriaethu fel mai dim ond deunydd na fedrir ei ailgylchu sydd ar ôl (gwastraff gweddilliol neu sbwriel). Ar hyn o bryd gellir ailgylchu tua 70-80% o wastraff cyffredinol felly gyda’n costau ailgylchu llawer is, gallwch arbed arian a chynyddu’r arbediad hwnnw drwy gadw eich gofynion gwastraff gweddilliol mor isel ag sydd modd. Gwastraff gweddilliol (sbwriel) sy’n costio mwyaf i’w waredu ac ni ddylai gynnwys unrhyw ddeunydd ailgylchu y gallwn ei gasglu ar hyn o bryd. |
![]() |
| Llyfryn Gwasanaeth |
Mae ein gwasanaeth yn cynnig:
- Cydymffurfiaeth gyda rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru (gwahanu gwastraff ar ymyl y ffordd)
- Casgliad wythnosol dibynadwy o ailgylchu sych, ailgylchu bwyd a gwastraff gweddilliol (sbwriel)
- Cerbydau ailgylchu pwrpasol, mewn cyflwr da a gyda sawl adran
- Ystod eang o feintiau bin/cynwysyddion i ymdopi gyda holl ofynion o gawell 55 ltr hyd at fin 1100 Ltr, 4 olwyn felly beth bynnag yw maint eich busnes neu sefydliad, mae gennym opsiynau i weddu i chi.
Contract treigl 12 mis. - Canolfan gyswllt ar gael 5 diwrnod yr wythnos gydag opsiynau ar gyfer cysylltu yn uniongyrchol drwy E-bost gyda swyddogion gwastraf
I gael manylion llawn yn cynnwys yr holl costau, cysylltwch â ni ar 1495 311556 neu drwy E-bost yn: waste@blaenau-gwent.gov.uk
Cynnig Gwasanaeth newydd, Mynediad Masnachwyr i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC)
Ar gyfer rhai busnesau, nid gwasanaeth casglu wythnosol dan gontract yw’r un gorau gan y gallech fod yn gweithio o fan neu efallai bod eich cynhyrchu gwastaff yn anghyson.
Bydd CBSBG yn ymestyn ein gwasanaeth masnachol yn y dyfodol agos drwy gynnig opsiwn y codir tâl amdano ar gyfer masnachwyr/meddianwyr eiddo annomestig i ddod ag AILGYLCHU MASNACHOL YN UNIG i HWRC ddiweddaraf y fwrdeistref yn Roseheyworth sydd â’r drwydded angenrheidiol ar gyfer gwastraff masnach.
Mae gan fasnachwyr y cyfle i brynu nodyn trosglwyddo gwastraff trwydded a nifer briodol o dalebau ymweliad neu opsiwn untro, gyda’r prisio yn seiliedig ar nifer yr ymweliadau a maint y cerbyd a ddatgelir wrth wneud cais am y drwydded (bach/canolig/mawr).
Mae’n ofyniad gan y gyfraith fod yn rhaid i unrhyw un sy’n cludo gwastraff masnachol/annomestig gael Trwydded Cludwyr Gwastraff. Mae’r rhain ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid oes tâl ar hyn o bryd ar gyfer y cludwyr haen isaf. Mae’n hanfodol cael Trwydded Cludo Gwatraff i wneud cais am drwydded i HWRC y Cyngor. Cyswllt trwyddedau a chaniatadau.
I gael manylion llawn yn cynnwys costau cysylltwch â ni ar 01495 311556 neu drwy E-bost yn: waste@blaenau-gwent.gov.uk
I ble yr aiff fy ngwastraff ac ailgylchu?
Caiff yr holl wastraff ac ailgylchu a gesglir gan CBSBG ei waredu gyda’r bwriad o ‘dim i domen lanw’. Rhoddir blaenoriaeth i waredu drwy ailgylchu ac yna adfer fel yr esbonnir isod.
Ailgylchu Sych (Papur a Chardfwrdd, Cynwysyddion Plastig, Caniau a Cartonau Cwyr a Chynwysyddion Gwydr Cymysg):
Drwy ein gwasanaeth cydymffurfiol, mae ansawdd yr ailgylchu ar ôl ei wahanu yn uchel ac mae’n ein galluogi i gadw costau gwaredu ac felly brisiau yn isel. Caiff y deunydd eilgylch a gesglir ei wahanu ymhellach yn ein gorsaf drosglwyddo gwastraff ac yna aiff i wahanol ailbrosesyddion i gael ei wneud yn gynnyrch newydd.
Gwastraff Bwyd:
Caiff gwastraff bwyd ei anfon i safle treulio anerobig yng Nghymru. Mae treulio anerobig yn broses lle mae bacteria yn torri deunydd organig megis gwastraff bwyd i lawr, heb ocsigen. Wrth i’r bacteria ddefnyddio’r gwastraff bwyd, maent yn gollwng nwy bio sy’n codi i dop y treuliwr. Caiff y nwy ei gasglu a naill ai ei anfon i’r grid neu ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Caiff y llaid dilynol sy’n gyfoethog mewn maethion ei ddefnyddio fel gwrtaith ansawdd uchel ar gyfer amaethyddiaeth.
Gwastraff Gweddilliol (Sbwriel na fedrir ei ailgylchu):
Caiff y gwastraff gweddilliol ei anfon i safle “Ynni o Wastraff” ger Caerdydd lle caiff ei losgi a defnyddir y gwres i gynhyrchu trydan. Caiff metalau eu tynnu o’r lludw yng ngwaelod y llosgydd a chaiff y lludw ei hun ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer adeiladu ffyrdd a gwaith adeiladu arall.
Os hoffech gael mwy o fanylion am nifer tunelli ac i lle yr aiff y deunydd a gasglwn ac a broseswn, cliciwch yma:
1. Fy Ailgylchu Cymru Awdurdodau lleol Blaenau Gwent
