Trefi a Siopa

Pori

Does dim byd gwell na threulio prynhawn yn pori’r siopau cyn stopio am baned a rhywbeth i fwyta. Os yw hyn yn apelio, yna Blaenau Gwent yw’r lle i chi. Mae trefi Tredegar, Glynebwy, Brynmawr ac Abertyleri yn lleoedd bach gwych i’w harchwilio gyda masnachwyr brand, siopau annibynnol a chaffis cyfeillgar. Dydych chi byth yn gwybod beth dewch chi ar draws, bariau ewinedd ffasiynol, siopau anrhegion dymunol neu hyd yn oed gemydd Dr Who – maen nhw oll yn aros amdanoch. Ar gyfer y gwir siopwyr, mae ymweliad i Bentref Siopa Parc yr Ŵyl yng Nglynebwy yn hanfodol gyda labeli dylunydd am brisiau isel wedi’i leoli yn yr ardal hyfryd a oedd yn lleoliad i Ŵyl Ardd Cymru.

Abertyleri

Mae’r dref yn gorwedd mewn cwm coediog ble mae siopwyr yn gallu archwilio’r rhwydwaith o strydoedd. Mae gan Abertyleri arcêd o oes Fictoria sydd mewn cyflwr da yn cysylltu High Street a Commercial Street.  

Mae eglwys St Michael yn dominyddu canol y dref ac mae ymwelwyr hefyd yn gallu treulio amser yn archwilio arddangosfeydd yn Amgueddfa Hanes Leol Abertyleri. Gall ymwelwyr hefyd ymweld â Llynnoedd Cwmtyleri, y Gwarcheidwad – Cofeb Cloddio Six Bells neu Eglwys St Illtyd.

Mwynhewch daith fideo isod:

Blaina & Nantyglo

Canolbwynt y dref fach a chyfeillgar hon yw’r Stryd Fawr. Yn ychwanegol at y siopau a chaffis lleol mae amgueddfa hanes leol yn Athrofa Blaina a Chanolfan y Siartwyr yng nghapel Salem.

Mwynhewch daith fideo isod:

Brynmawr

Mae Brynmawr yn enwog am fod y dref farchnad uchaf yn y DU. Mae Sgwâr y Farchnad yng nghanol y dref yn cynnwys Cofeb Rhyfel y dref, Sinema Neuadd y Farchnad ac amgueddfa. Mae’r prif strydoedd siopa yn clystyru o amgylch y sgwâr ac yn cynnwys amrywiaeth eang o fasnachwyr. Cynhelir marchnad Brynmawr bob bore Sadwrn.

Mwynhewch daith fideo isod:

Glynebwy

Wrth sôn am siopa, mae hon yn dref â 2 hanner. Mae’r brif siopau yng nghanol y dref ar hyd y brif stryd ac yn natblygiad siopa cyfagos The Walk. Dominyddir y brif stryd â dau gerflun dur gloyw, sef un cloc tref modern ac un ddraig. Mae cyswllt trên rhwng y dref a Chaerdydd sy’n cysylltu â chanol y dref trwy Cableway ac sy’n cynnal marchnad fawr bob dydd Gwener.

 Ymhlith atyniadau hamdden Parc yr Ŵyl mae’r Gwarchodfa Tylluanod.

Gall ymwelwyr i Lynebwy hefyd ymweld â’r Swyddfeydd Cyffredinol sy’n cynnwys Archifau Gwent ac Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy a Gwarchodfa Natur Cwm Distaw.

Mwynhewch daith fideo isod:

Tredegar

Dominyddir y dref gan Gloc byd enwog y dref sydd yng nghanol Y Cylch.

Mae siopau canol y dref yn rhedeg ar hyd Commercial Street, Castle Street ac yng Nghanolfan Siopa Gwent. Mae Tredegar yn dref wych i bori ynddi gyda nifer o siopau anrhegion, bwytai a chaffis.

Ger y cloc mae Tŷ a Pharc Bedwellty, tlws go iawn yn y cymoedd. Os yw

Glynebwy yn dref o 2 ganolfan siopa, mae Tredegar yn dref o 2 barc, y llall yw Parc Bryn Bach, parc gwledig i’r gogledd o’r dref. Efallai byddai ymwelwyr hefyd yn hoffi ymweld ag Amgueddfa Hanes Leol Tredegar yn y Cylch, Gweithfeydd Haearn Sirhowy neu Gerrig Coffa Aneurin Bevan.

 

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk