Archifau Gwent

Croeso i Archifau Gwent!

Rydym yn Wasanaeth Archifau Achrededig Awdurdod Lleol sy’n casglu a gwarchod a sicrhau bod archifau sy’n ymwneud â hen sir Gwent yn hygyrch i bobl. Mae ein tîm cyfeillgar, proffesiynol yn cynnwys Archifwyr, Gwarchodwyr a Rheolwyr Cofnodion ynghyd â Chynorthwywyr a gweinyddwyr Archifau.

Mae’r archifau sydd yn ein gofal yn adrodd hanes Gwent, a hanesion ei phobl. 

Rydym yn casglu dogfennau awdurdodau lleol, busnesau, teuluoedd, sefydliadau ac unigolion, ac mae’r casgliadau’n cynnwys papurau, cynlluniau, ffotograffau, dyddiaduron a chofnodion.  Maen nhw’n cael eu catalogio, mae rhestrau o’r catalogau ar gael yma, ac rydym yn eu cadw yn yr amodau gorau posibl fel y gallan nhw gael eu defnyddio gan genedlaethau’r dyfodol.

Mae modd gweld y casgliadau yn adeiladau Archifau Gwent neu drwy ein gwasanaethau chwilio a digideiddio, ac rydym yn croesawu ymweliadau mewn grŵp gan sefydliadau lleol, myfyrwyr ac athrawon.

Gwybodaeth i ymwelwyr:

Manylion cyswllt am oriau agor, ewch i’r wefan.

Archifau Gwent
Y Swyddfeydd Cyffredinol,

Heol Gwaith Dur,

Glyn Ebwy,

Blaenau Gwent.

NP23 6DN

Ffôn: 01495 766261


E-bost: enquiries@gwentarchives.gov.uk
Gwefan: http://www.gwentarchives.gov.uk/

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 766261 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk