Treulio diwrnod ym Mlaenau Gwent

Ble i Gychwyn?

Gyda chymaint o bethau mewn ardal fach, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau archwilio Blaenau Gwent? Dyma rhai syniadau i sbarduno’ch dychymyg.

Ebwy Fach o’r top i’r gwaelod

Does dim lle gwell i gychwyn na Sgwâr y Farchnad, Brynmawr. Dyma ganolbwynt y dref farchnad uchaf yn y DU. Mae’n werth ymweld â’r amgueddfa yn Adeiladau Carnegie cyn galw heibio Stryd Beaufort am baned yn un o’r caffis niferus.

Y stop nesaf yw Tyrau’r Tŷ Crwn yn Nantyglo – y castell olaf a adeiladwyd ym Mhrydain i amddiffyn yr haearnfeistr o’i weithwyr.

Symudwch ymlaen i Blaina i ymweld ag Amgueddfa Blaina yna ewch lawr i Six Bells am ginio yn Nhŷ Ebbw Fach.

Ar ôl cinio beth am fynd am dro ar Lwybr y Gwarcheidwad - un o 9 Lwybr Tyleri – ac ymweld â’r gofeb fyd enwog i’r glowyr.

Beth am orffen y diwrnod gydag ymweliad i Eglwys St Illtyd – yr adeilad hynaf ym Mlaenau Gwent a sicrhewch eich bod yn mwynhau’r golygfeydd gwych yng Nghymoedd Ebwy.

Sirhowy o’r top i’r gwaelod

Dechreuwch y diwrnod trwy fynd am dro o amgylch y llyn ym Mharc Bryn Bach ac ewch am baned yn y Ganolfan Cefn Gwlad.

Yna ewch i ganol y dref i weld cloc y dref - y cloc haearn talaf heb gefnogaeth yn y DU. Hefyd yn y cylch mae Amgueddfa Hanes Leol Tredegar sydd bob tro’n werth ymweliad. Ddim yn rhy bell o’r cylch mae Tŷ Bedwellty, lle gwych am ginio neu de prynhawn ac i fynd am dro o amgylch y parc. Mae’r tŷ’n dangos ffilm o hanes bywyd Aneurin Bevan a fydd efallai yn eich ysbrydoli i wneud Llwybr Aneurin Bevan – taith car a thaith gerdded o amgylch y dref. Mae’r daith car yn gorffen yn Nhrefil ac os oes chwant bwyd arnoch ar ôl yr holl gerdded beth am alw heibio Mountain Air am bryd gyda’r nos.

Y Llwybr Glo

Mae gan dref Abertyleri hanes cloddio balch, wedi’i symboleiddio yn y Meindyrau – y cerflun porth, gyda phob un o’r 6 colofn yn cynrychioli cyn pwll glo. Mae gan Amgueddfa Abertyleri gasgliad cloddio gwych gan gynnwys cap Arthur Scargill o streic y glowyr yn 1984-5. Yna ymlaen i Dŷ Ebbw Fach am baned ac i ddysgu am stori trychineb cloddio Six Bells yn 1945 mae’r Gwarcheidwad yn ei goffau.

Yna ewch i Gwm Ebwy i ymweld â Chofeb Glowyr Cwm ar y ffordd. Ewch ymlaen i Barc Bedwellty, Tredegar am ginio ac i fynd am dro o amgylch y parc sy’n cynnwys y blocyn mwyaf o lo yn y byd.

Y Llwybr Haearn

Dechreuwch y daith hon o ddarganfyddiad yng ngweithfeydd haearn Sirhowy, creir mewn cyflwr da o anterth y gweithfeydd haearn yng Nghymru. Yna ewch draw i Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy, capsiwl amser o bopeth haearn a dur yng Nglynebwy. Mae’r Amgueddfa yn Swyddfeydd Cyffredinol crand y cyn gweithfeydd haearn. Mae Parc yr Ŵyl yn le gwych i stopio am ginio. Mae’r ganolfan siopa wedi’i leoli ar safle Gŵyl Ardd Cymru a adferodd cyn safle’r gweithfeydd dur yn 1992. Mae’r ffyn gloywi anferth sy’n bwrw’r llyn i’r cysgod yn olion o domen y ffwrnes o’r gweithfeydd haearn.

Ar ôl cinio, symudwch ar draws y cwm i Nantyglo. Yma, fe welwch Dyrau’r Tŷ Crwn, y castell olaf a adeiladwyd ym Mhrydain i amddiffyn yr haearnfeistr o’i weithwyr. Arweiniodd llawer o’r aflonyddwch hwn at fudiad y Siartwyr sydd wedi’i gofnod yng Nghanolfan y Siartwyr ym Mlaina.

Glaswellt Gwyrddlas

Dechreuwch y diwrnod trwy fynd am dro o amgylch y llyn ym Mharc Bryn Bach, paradwys adaregwyr ac ewch am baned yn y Ganolfan Cefn Gwlad. Yna cymerwch ffordd y mynydd dros y cwm gan stopio ym Mharc yr Ŵyl yng Nglynebwy. Yma fe welwch Gwarchodfa Tylluanod Parc yr Ŵyl  sy’n gartref i 60 aderyn ysglyfaethus o ledled y byd.

Ar ôl cinio yn un o’r caffis a bwytai yn y Ganolfan Siopa, ewch ar draws y cwm i Gwm Merddog a gwarchodfa Cwm Distaw. Mae’r coetiroedd ffawydd ar eu gorau pan maen nhw’n llawn clychau’r gog yn y Gwanwyn neu’n llawn lliwiau’r Hydref. Yna, argymhellwn eich bod yn gorffen y diwrnod yn Llynnoedd Cwmtyleri, cyn lyn porthi i’r pwll glo ond bellach yn warchodfa natur.

Tylwyth Teg a Chwedlau

Mae cwm Ebwy Fawr yn llawn chwedlau a llên gwerin. Gellir dod o hyd i lawer o hyn yng ngwaith y Parch Edmund Jones a gellir dod o hyd i safleoedd nifer o’r straeon hyn ar lwybrau Tyleri. Mae’r 9 llwybr yn amrywio yn hyd a graddfa ond argymhellwn y rhai sy’n cychwyn yn Llynnoedd Cwmtyleri sy’n cynnwys straeon am Mari’r wrach a hen wrachen y mynyddoedd.

Nesaf ewch i Eglwys St Illtyd, yr adeilad hynaf ym Mlaenau Gwent. Yma mae Edmund Jones yn traethu ar dylwyth teg ac angladdau tylwyth teg.

Yn uwch yn y cwm yng Nghwm Celyn, Blaina mae’r Parch Jones yn sôn am ffyrdd y cyrff a phriodasau tylwyth teg.

Ar dop y cwm mae Cwm Ebwy Fach yn cwrdd â Chwm Clydach. Mae llwybr Crawshay Bailey yn cynnwys top y cwm gan gynnwys rhaeadr ger Bwa Hafod. Yn ôl y sôn, ymweliad yma ysbrydolodd Shakespeare i ysgrifennu A Midsummer Night’s Dream.

Llyfryn y Cymoedd

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Canolfan Ddinesig, Glynebwy, Blaenau Gwent. NP23 6XB  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk