Cartref y GIG

Mae’n beth mawr i’w hawlio, ond mae gwreiddiau ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol hoff yma ym Mlaenau Gwent.

Aneurin Bevan 1897-1960

Gadewch i ni ddechrau gydag Aneurin Bevan. Cafodd ei eni yn Nhredegar i löwr a gwniadwraig.

Gwnaed hwyl ar ei ben yn yr ysgol am ei atal dweud ac fe wnaeth ymadael yr ysgol yn 13 oed i weithio gyda’i dad yn y pwll.

Eto cododd i ddod yr Aelod Seneddol lleol a Gweinidog Tai ac Iechyd, gan maes o law roi’r GIG i ni.

Y Ffed

Roedd ei dad yn annog ei hoffter o ddarllen Fodd bynnag ei rôl fel asiant glowyr neu swyddog undeb llafur gyda Ffederasiwn Glowyr De Cymru a ddysgodd iddo sut i drafod ac ennill y ddadl. Cafodd hyn ei hybu ymhellach gan ysgoloriaeth i’r Coleg Llafur Canolog yn Llundain, a noddwyd gan y Ffederasiwn. Treuliodd ddwy flynedd yno yn astudio economeg, gwleidyddieath a hanes.

The Query Club

Roedd The Query Club yn gymdeithas drafod a dyngarol a sefydlwyd gan ei frawd Billy a Walter Conway a sefydlodd ei gwmpas gwleidyddol a chymdeithasol. Roedd y grŵp yn codi arian a’i ddosbarthu i aelodau mewn angen, cynnal trafodaethau gwleidyddol a chynllunio sut i dorri gafael y Tredegar Iron and Steel Company ac ennill grym ar y cyngor lleol.

Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar

Ni ellir gorbwysleisio mentora Walter Conway, Ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Feddygol Gweithwyr Tredegar ac aelod o’r Query Club. Roedd Conway wedi troi’r mudiad yn un o’r cymdeithasau mwyaf o ran maint a llwyddiant yng Nghymru. Roedd Bevan yn aelod o’r gymdeithas ac ar fwrdd rheoli’r ysbyty bwthyn lleol.

Pan gafodd gyfle i greu gwasanaeth iechyd ar gyfer Prydain, dychwelodd at ei wreiddiau i gael ysbrydoliaeth.

Mae nifer o safleoedd i ymweld â nhw i ymchwilio stori’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Aneurin Bevan ymhellach.

Cerrig Coffa Aneurin Bevan

Mae’r Cerrig Coffa Aneurin Bevan yn nodi ble roedd Aneurin Bevan, AS Llafur a phensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn annerch ei etholwyr a’r byd.

Tŷ a Pharc Bedwellty

Mae gan Dŷ a Pharc Bedwellty gyswllt agos gyda hanes gymdeithasol gynnar Cymru ddiwydiannol. Parhaodd ei berthnasedd pan roddwyd y tŷ a’r parc i bobl Tredegar ac yn sgil hynny daeth yn ganolfan ar gyfer y mudiad Lafur yng Nghymru, a Phrydain yn gyffredinol. Mae’n debyg mai’r enw enwocaf a gysylltir gyda Thŷ a Pharc Bedwellty yw Aneurin Bevan, sy’n cael ei gydnabod fel sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Canolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar

Mae’r ganolfan dreftadaeth hon yn dweud stori sut y defnyddiodd Aneurin Bevan AS y gymdeithas fel glasbrint pan oedd yn Weinidog Iechyd i ymestyn gofal iechyd am ddim i bawb pan ‘Dredegareiddiodd’ y Deyrnas Unedig.

Amgueddfa Hanes Leol Tredegar

Mae gan yr amgueddfa gasgliad amrywiol o wrthrychau'n adlewyrchu diwydiant a bywyd y dref gwneud haearn bwysig yma.

Archifau Gwent

Mae’r cyfleusterau gwych newydd yn darparu awyrgylch perffaith i chi ddefnyddio’r casgliad unigryw o ddogfennau.

Llwybr Aneurin Bevan

Taith gerdded a char yn ardal Tredegar. Cartref y Gweidydd enwog Aneurin Bevan 1897-1960 Aelod Seneddol Llafur dros Glynebwy 1929-1960.

Dilynol troed Nye

Cerdded yn olion traed chwedl … Aneurin Bevan Roedd Nye Bevan wrth ei fodd yn cerdded ar draws y gweundiroedd uwchben Trefil, sef cymuned o chwarelwyr carreg galch ar ffiniau gogleddol ei etholaeth. Trefil hefyd yw’r pentref uchaf yng Nghymru. Gallwch ddilyn olion traed y gŵr gweledigaethol a chyfiawn hwn, trwy dirlun sy’n orlawn â mythau a chwedlau, ar y daith gerdded hon at ei hoff olygfa. Dyma rai o’r pethau i chwilio amdanynt ar eich ffordd.

Nye Bevan & Walter Conway Bench , The Circle, Tredegar

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk