Credyd Cynhwysol

Felly, beth yw Credyd Cynhwysol? Mae’n daliad misol sengl i helpu gyda’ch costau byw ac mae’n darparu cymorth os ydych yn gweithio ac ar incwm isel neu’n chwilio am waith.

Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol, gan gynnwys ar gyfer pwy mae a sut y gall eich helpu.

Efallai y bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn teimlo fel newid mawr ond peidiwch â phoeni, cewch fwy o wybodaeth ar y wefan hon i’ch helpu i reoli’ch symud.

Mae’r budd-daliadau a’r credydau treth canlynol yn dod i ben ac yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol:

  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)

Talu'ch Rhent

Eich cyfrifoldeb chi yw sichrau bod eich rhent yn cael ei dalu ar amser ac yn llawn.Bydd angen I chi ddechrau talu'ch rhent eich hun. Ni fydd ar Adran Gwaith a Phensiynau yn bellach yn talu'ch rhent ich landlord os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol fel y gwnaethant o dan Fudd-dal Tai. Gallwch ofyn I'ch taliadau rhent fynd yn uningyrchol I'ch landlord, ond dim on dos oes gennych ol-ddyledion sy'n ddyledus ar eich cyfrif neu os ydych chi'n cwrdd a meini prawf person sy'n agored I niwed.

I gael manylion am hyn, cysylltwch a'ch jyfforddwr gwaith.

Gostyngiad yn y dreth gyngor a Prydau Ysgol am ddim

Dywedwch wrth Gyngor Blaenau Gwent eich bod wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a gwnewch hawliad ar wahan am ostyngiad y Dreth Gyngor a Phrydau Yasgol am Ddim os yw'n briodol.

Os oes gennych anhawster talu'ch Treth Gyngor,cysylltwch a'r Adran Budd-daliadau ar 01495 311556

Gwneud Hawliad

I gael mwy o wybodaeth ar feini prawf ar gyfer hawlio Credyd Cynhwysol ewch i Gov.uk.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk

Dogfennau Cysylltiedig