Safleoedd Treftadaeth

Blas o’r gorffennol

Mae pawb yn disgwyl darganfod olion hanes diwydiannol yn yr ardal ac yn Sirhowy mae esiampl wych o weithfeydd Haearn Sioraidd, yn dyddio o anterth y diwydiant yn 1796. Mae gwaelodion y cymoedd yn llawn olwynion o’r glofeydd, yn dathlu ein hanes o gloddio, ac yn uwch i fyny ochrau’r cymoedd gellir dod o hyd i byllau haearn, carreg a chalchfaen. Mae un o’r rhain ar Drefil sef yr heneb restredig fwyaf yng Nghymru; mae hyd yn oed yn fwy na Chastell Caerffili. Yn Nantyglo gallwch weld y camau gymerodd yr Haearnfeistr lleol i amddiffyn ei hun a’i stablau rhag weithwyr anfodlon, tra yng Nhŷ Bedwellty gallwn weld esiampl wych o gartref Haearnfeistr ewyllysgar.

Mae ein hanes yn mynd yn ôl llawer ymhellach. Yn St Illtyd, Abertyleri, gallwch weld adeilad hynaf Blaenau Gwent sef yr eglwys ddatgysegredig hon o’r canol oesoedd a gerllaw mae tomen y castell. Mae ochrau’r bryniau’n llawn tomenni claddu Celtaidd a ffermydd canol oesol. Mae cymaint i’w archwilio felly beth am gychwyn arni.

Mynwent Cholera Cefn Golau

Mae’r safle anghysbell hwn, ar ochrau llwm y bryn i orllewin Tredegar, yn un o’r safleoedd mwyaf atgofus yng nghymoedd de Cymru. Dyma ble mae gweddillion o leiaf dau gant o bobl yn gorwedd, dioddefwyr y “Brenin Dychryniadau” – cholera.

Tyrrau Tai Crwn Nantyglo

Mae casgliad Tai Crwn Nantyglo yn grëir unigryw o’r Chwyldro Diwydiannol. Fe’i adeiladwyd tua 1816 gan Joseph a Crawshay Bailey, Haearnfeistri Gweithfeydd Haearn Nantyglo, fel lloches amddiffynadwy rhag gwrthryfel arfog gan eu gweithlu. Yn syml, dyma oedd y castell preifat olaf a adeiladwyd ym Mhrydain. 

Gweithfeydd Haearn Sirhowy

Sefydlwyd Gweithfeydd Haearn Sirhowy yn gyntaf yn 1778 i ddarparu haearn i Lynebwy ble roedd yn cael ei droi yn haearn gyrru a, nes ymlaen, dur.

Mwynhewch daith fideo isod:

Eglwys St Illtyd

Eglwys St Illtyd - Yn sefyll ar lwyfandir ar Fynydd Llanhilleth, yn edrych dros Cymoedd Ebwy. Mae’r eglwys hanesyddol ond hen ffasiwn a bach hon yn llawn atmosffer 800 mlynedd.

Mwynhewch daith fideo isod:

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk