Eglwys St. Illtyd

Cysegru 

Does dim amheuaeth mai Eglwys St Illtyd yw’r adeilad hynaf sy’n dal i sefyll ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Er ei bod wedi’i chysegru ar hyn o bryd i St Illtyd, roedd cysegriad gwreiddiol yr eglwys i St. Heledd neu Hyledd, fel y nodir yn rhestrau plwyfi y 16eg a’r 17eg Ganrif (Baring-Gould 1911, 254). Rhoddodd hwn yr enw lle Llanhyledd ac mae Llanhiledd yn ffurf arall o hwnnw. Mae Brynithel mwy na thebyg yn is amrywiolyn o Brynhyledd a ddim yn gysylltiedig â marwolaeth y Brenin Ithel o Went yn 848 AD, a ddigwyddodd yn Aberysgir ym Mhowys (Jones 1952, 135).

Mynwent yr Eglwys 

Mae meddwl archeolegol cyfredol yn nodi mynwent fawr, siâp cylch bras, St Illtyd fel dynodiad o ddyddiad sefydlu cyn yr Oes Normanaidd (Brooke 1980, 72 et passim) a gellir dod o hyd i’r cyfeiriad cynharaf ysgrifenedig at yr eglwys mewn cerdd o’r 9fed neu 10fed Ganrif yn Llyfr Du Caerfyrddin (Jarman 1982, lix). 

Llyfr du Caerfyrddin 

Llawysgrif fach Gymraeg yw Llyfr Du Caerfyrddin a ysgrifennwyd tua 1250.  Mae’n waith un ysgrifennydd, mynach ym Mhriordy Sant Ioan yng Nghaerfyrddin ac mae’n cynnwys casgliad o farddoniaeth llawer hŷn na’r llawysgrif ei hun. 

Ymhlith y cerddi mae cyfres o gerddi byrion a elwir yn Englynion y Beddau a gafodd eu hysgrifennu yn y nawfed neu degfed ganrif. Mae’r cerddi’n rhestru beddau arwyr Cymreig, gyda grym blaenorol yr arwr yn cael ei gwrthgyferbynnu gydag ynysiad y bedd. Ymddengys mai hen safleoedd claddu megis gwyddfâu neu gromlechi yw nifer o’r safleoedd adnabyddadwy. Yn eu plith mae:

          Gwydi gurum a choch a chein.
          A. goruytaur maur minrein.
          in llan helet bet. owein. (ibid., 37)

Tomen

Mae’n debygol mai’r “bedd” a nodir yn y gerdd yw’r domen fawr ger yr eglwys. Mae hwn fel arfer yn cael ei ystyried yn domen Normanaidd, mwy na thebyg yn dyddio yn ôl i’r 11eg neu 12fed ganrif. Mae’n fwy na phosib yr adeiladwyd y domen dros tomen gynharach – mwy na thebyg crug neu gwyddfa cynhanesyddol.

Owain 

Yr Owain a gyfeirir at yw Owain mab Urien – person go iawn a dyfodd i fod yn arwr chwedlonol mewn rhamantau canol oesol. Yn ei fywyd go iawn, ef oedd mab Urien, brenin Rheged yn y 6ed ganrif.  Teyrnas Gymreig oedd Rheged a oedd yn cynnwys Merin Rheged, Caerliwelydd a’r holl ardal a elwir yn Cymbria erbyn hyn. Fe frwydrodd Owain ac Urien yn ddewr yn erbyn y goresgynwyr Eingl-Sacson ac mae eu campau wedi’u cofnodi mewn cerddi gan fardd eu llys, Taliesin.  Ar ôl ei farwolaeth, daeth Owain yn arwr chwedlonol, symudodd y straeon a adroddwyd amdano i Gymru a daeth yn gysylltiedig â’r cylch Arthuraidd o straeon. Ef yw arwr y stori o’r 12fed ganrif “Y Wraig yn y Ffynnon” sef un o straeon y Mabinogion (Stephens 1998, 546).  Mae pam fod cerdd mor gynnar yn cysylltu Owain â Llanhiledd yn ddryswch.

Heledd 

Roedd Heledd hefyd yn berson go iawn a oedd yn byw yng ngogledd Powys ar ddechrau’r 7fed ganrif.  Ei brawd, Cynddylan, oedd brenin Powys tan iddo gael ei ladd gan yr Eingl-Sacsoniaid.  Mae hi hefyd yn ymddangos yn Canu Heledd, cyfres arall o gerddi a ysgrifennwyd yn y 9fed neu 10fed ganrif.  Uchafbwyntiau yw’r cerddi o saga ryddiaith goll.  Ynddynt, mae Heledd yn galarnadu dinistriad ei chartref a marwolaeth Cynddylan a’u brodyr hŷn eraill.  Ymddengys ei bod yn beio ei hun am y drychineb a ddigwyddodd iddynt (Stephens 1998, 87).

 Sefwch allan, vorynnyon, a syllwch
 Gyndylan werydre.
 Llys Benngwern neut tande.
 Gwae ieueinc a eidun brotre. (Williams 1935, 33)

Unwaith eto, does neb yn gwybod pam fod yr eglwys fach yma ar ochr bryn anial yng Ngwent wedi cael ei chysegru i dywysoges o’r 7fed ganrif o Bowys!

Sistersiaid 

Gyda sefydliad yr Abaty Sistersaidd yn Llantarnam rhywbryd rhwng 1175 a 1179, daeth y plwyf dan reolaeth y Mynaich Gwynion (Davies 1953, 98).  Roedd y mynachod yn berchen ar faenor Wentsland a Bryngwyn a oedd yn cynnwys tir ym mhlwyfi Llanhiledd, Trevethin ac Aberystruth.  Yn cael eu hadnabod fel y Mynaich Gwynion oherwydd lliw eu habidau, fe ddewisodd y Sistersiaid safleoedd anghysbell ar gyfer eu habatai ac roeddent yn gysegredig i ffordd syml o fyw. Gan ddefnyddio maenorau anghysbell i ffermio’u tir, fe ddaethant yn amaethwyr peryglus, gan redeg preiddiau enfawr o ddefaid ar fynyddoedd Cymru. Roedd y maenorau, sydd gan fwyaf yn dyddio o’r 13eg Ganrif, yn cynnwys caeau yn cynnwys ysguboriau, stablau a chorlannau ar gyfer da byw, rhannau byw ar gyfer brodyr lleyg a llafurwyr cyflogedig ac, mewn rhai achosion, capel (Cowley 1977, 78).  Roedd Fferm Arail hefyd yn faenor o Abaty Llantarnam.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth bod y Sistersiaid yn adeiladu eglwysi ar neu ger eu maenorau (Williams 1976, 81-82) ac mae’n debygol mae nhw oedd yn gyfrifol am adeiladu’r eglwys bresennol ar ryw adeg yn ystod y 13eg neu 14eg Ganrif (Rees 1948).  Mae’r rhan fwyaf o adeiladwaith yr eglwys mwy na thebyg yn perthyn i’r cyfnod hwnnw, er mae’n bosib bod y bedyddfaen yn dod o’r adeilad gwreiddiol cyn y cyfnod Normanaidd.

John Wesley 

Ymwelodd John Wesley â’r plwyf ym mis Ebrill 1740 yn ystod ei ail ymweliad â Chymru. Ar ddydd Mawrth, Ebrill yr 8fed, yng nghwmni Howell Harris, fe deithiodd o Bont-y-pŵl i Lanhiledd a pregethu yno ar y testun “Rwyf yn gwybod bod dim peth da yn trigo ynof”.  Arhosodd dros nos a’r bore nesaf, darllenodd gweddïau yn eglwys St. Illtyd cyn pregethu ar “Fe wellaf eu gwrthgiliad, fe’u caraf hael”.  Yna fe deithiodd ymlaen i Gaerdydd (Williams 1971, 6-7).

Archddiacon Coxe 

Yn hydref 1799, ymwelodd yr Archddiacon Coxe â’r eglwys ar ei “Daith Hanesyddol yn Sir Fynwy”:

“Yn Llanhiddel fe fwydom ein ceffylau mewn tŷ tafarn a cherdded yng nghanol cawod gwyllt i’r eglwys sydd ar y copa; mae’n adeilad gothig bach ond hen, wedi’i adeiladu mewn arddull syml, heb dŵr neu glochdy, gyda’r clychau o dan y to a’r rhaffau’n disgyn i mewn i’r eglwys. Ym mynwent yr eglwys mae deuddeg hen ywen sy’n amgylchynu’r eglwys ac yn ychwanegu at ddifrifoldeb yr olygfa: mae’n gysegredig i St. Ithel, ond nid wyf yn gwbl gyfarwydd â’i deilyngdod na’i linach.”(Coxe 1801, 252-3)

Eglwys St Illtyd yw hefyd y pwynt cychwyn ar gyfer 2 o Lwybrau Tyleri.

http://www.illtyd.co.uk

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Canolfan Ddinesig, Glynebwy, Blaenau Gwent. NP23 6XB  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk