Symud Tŷ

Os ydych yn symud tŷ, naill ai i neu oddi mewn i Flaenau Gwent, byddwch yn elwa o nifer o wasanaethau.

Bydd angen i chi hefyd gofrestru ar gyfer ‘Fy Ngwasanaethau’ a fydd yn eich galluogi i:

  • Gwneud cais am Focsys Sbwriel ac Ailgylchu, gan gynnwys bocs ar gyfer eich gwastraff bwyd.
  • Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd ar gyfer eich gwastraff gardd.
  • Nodi eich diwrnodau casglu gwastraff ac ailgylchu drwy 'Cael gwybod am Fy Niwrnod Bin'.
  • Rhoi gwybod i Treth y Cyngor am eich symud eiddo.
  • Gwneud cais am le mewn ysgol i'ch plentyn a chludiant yn yr adran 'Ysgolion a Dysgu'.
  • Diweddaru eich gwybodaeth o ran newidiadau mewn gwasanaethau, diwrnodau casglu a gwybodaeth bwysig arall.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn Cofrestru i Bleidleisio ar wefan y Llywodraeth. Gallwch hefyd newid eich cyfeiriad drwy'r wefan hon.   

Os oes gennych broblem mae angen i chi godi, efallai y byddwch yn cael budd o gysylltu â'ch cynghorydd lleol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt a gwybodaeth bellach ar y dudalen Cyfeiriadur Cynghorwyr.