Gwarcheidwad

Cwblhawyd yn 2010, comisiynwyd y Gwarcheidwad i goffau 50 mlynedd ers trychineb cloddio Six Bells yn 1960 pan fu 45 dyn farw. Mae’r cerflun gwych 20 metr yn sefyll uwchben safle’r cyn bwll ble ddigwyddod y drychineb ac mae’n deyrnged addas i’r dynion sydd â’u henwau wedi’u cerfio i’r paneli o amgylch y gofeb.

Wedi’i ddylunio a’i greu gan yr artist Sebastien Boyesen, sy’n seiliedig yng Ngorllewin Cymru, mae’r cerflun wedi’i wneud o dros 20,000 stribyn o ddur Cor-Ten wedi’u weldio at ei gilydd i greu cofeb trawiadol sy’n sefyll yn falch ar blinth tywodfaen. Mae’r manylder sydd wedi cael ei greu gan ddefnyddio’r dechneg anhygoel yma yn caniatáu i nodweddion y wyneb, diffiniad y cyhyrau a gwallt i fod yn gwbl glir; ac mae’r trowsus hyd yn oed yn ymddangos yn feddal ac yn llifo er eu bod wedi’u gwneud o ddur.

O bellter, mae rhinwedd tryloyw, bron yn ysbrydol, i ffigwr y glöwr, gan ganiatáu iddo gymysgu i mewn i’r lleoliad sy’n llawn tirwedd goediog. Dim ond pan yn agos mae’r ffigwr yn ymddangos yn soled a bod modd gwerthfawrogi gwir bresenoldeb y Gwarcheidwad yn llawn.

Cyflwynwyd y Gwarcheidwad fel rhan o Wasanaeth Goffau ar yr 28ain o Fehefin 2010 dan arweiniad Archesgob Caergaint, y Parchedig Rowan Williams, ac yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2011, ymwelodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Siarl â’r Gwarcheidwad a Thŷ Ebwy Fach.

Mae gan Dŷ Ebwy Fach ystafell dreftadaeth yn sôn am hanes y Gwarcheidwad, Pwll Six Bells a phentref Six Bells. Mae hefyd yn gartref i gaffi bach sy’n gweini lluniaeth cartref blas, poeth ac oer.

Mae’r Gwarcheidwad yn eistedd yn Mharc Arael Griffin, un o 14 safle amgylcheddol ar Lwybr Ebwy Fach ac mae tair o Lwybrau Tyleri hefyd yn cychwyn o’r pwynt hwn.

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk