Rhoi Adroddiad am Eiddo Gwag

Mae gan y Cyngor y pwerau dilynol i ddelio gyda phroblemau'n gysylltiedig gyda Chartrefi Gwag ac i ddod â hwy yn ôl i ddefnydd fel llety preswyl.

Niwsans

Lle mae eiddo yn achosi niwsans i eiddo cyfagos e.e. gwter neu do yn gollwng fel bod dŵr yn mynd i mewn i eiddo cyfagos, gallwn ei gwneud yn ofynnol i'r niwsans hwnnw gael ei stopio.

Agored i fynediad

Os yw tŷ heb ei gloi ac yn agored fel y gall unrhyw un fynd i mewn iddo, gallwn ei gwneud yn ofynnol i waith gael ei wneud fel na all unrhyw berson heb awdurdod fynd i mewn.

Pla

Os oes llygod mawr neu lygod bach mewn eiddo neu ardd, gallwn ei gwneud yn ofynnol i'r pla gael eu dinistrio a/neu wneud gwaith i gadw'r eiddo yn rhydd o bla.

Draeniau

Os yw draeniau wedi blocio neu dorri, gallwn ei gwneud yn ofynnol i waith gael ei wneud i ddadflocio’r draen a/neu ei thrwsio.

Gerddi wedi gordyfu/sbwriel

Os yw gardd wedi gordyfu cymaint neu'n cynnwys cymaint o sbwriel fel ei fod yn effeithio'n ddifrifol ar ymddangosiad ardal neu gymdogaeth, gallwn ei gwneud yn ofynnol i waith gael ei wneud i lanhau'r broblem.

Adeiladau

Os yw adeilad neu strwythur mewn cyflwr mor wael fel ei fod yn effeithio'n ddifrifol ar ymddangosiad ardal neu gymdogaeth, gallwn ei gwneud yn ofynnol i waith trwsio, adfer neu ddymchwel gael ei wneud.

Gwaith Diffyg

Os ydym yn cyfarwyddo perchennog i wneud unrhyw un o'r gweithiau hyn ac na chaiff ei wneud o fewn cyfnod rhesymol, yna gallwn wneud y gwaith mewn diffyg. Gwaith diffyg yw lle gwnawn y gwaith a chodi cost y gwaith hwnnw ynghyd â ffi weinyddol ar y perchennog. Os nad yw'r perchennog yn ad-dalu'r arian, mewn rhai amgylchiadau gallwn orfodi fod yr eiddo'n cael ei werthu mewn arwerthiant fel y medrwn adennill yr arian o'r pris gwerthu. Gobeithir y bydd y prynwr wedyn yn adnewyddu'r eiddo a dod ag ef yn ôl i ddefnydd fel llety preswyl.

Gorfodi Gwerthiant

Rydym yn ceisio darbwyllo'r perchennog i dalu'r bil am waith a wnaethom i ddod ag eiddo gwag mewn cyflwr gael yn ôl i safon. Ond os na allant neu na fyddant yn cymryd cyfrifoldeb, gallwn werthu'r eiddo mewn arwerthiant cyhoeddus a thynnu ein holl gostau a ffioedd o'r pris gwerthu. Galwn hyn y weithdrefn 'gwerthiant gorfodol'. Mae hyn yn bŵer gan y cyngor nad yw angen caniatâd gan lys.

Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag

Os bu eiddo preswyl yn wag am dros 6 mis ac y gwnaed pob ymdrech i gael yr eiddo yn ôl i ddefnydd fel cartref, ond heb lwyddiant, gellir gwneud cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am orchymyn yn ein caniatáu i gymryd yr eiddo trosodd, ei adnewyddu fel sydd angen a'i osod am hyd at 7 mlynedd.

Pryniant Gorfodol

Ar gyfer rhai adeiladau a fu'n wag am hir, yn arbennig y rhai sy'n 'achosi malltod' mewn ardal, efallai mai'r unig ateb fyddai defnyddio ein pwerau i'w brynu gan y perchennog. Byddwn un ai yn ei ddymchwel neu'n ei werthu i landlord nid-er-elw fel cymdeithas tai i ddod â'r eiddo'n ôl i ddefnydd.

Rhoi Adroddiad am Eiddo Gwag

I roi adroddiad am eiddo gwag sy'n achosi problemau, anfonwch e-bost at: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio 01495 357813