HMO

Beth yw HMO?

Mae HMO yn sefyll am Dai Amlfeddiannaeth ('Houses in Multiple Occupation'), sy'n golygu adeilad neu ran o adeilad, megis fflat:

Y mae mwy nag un aelwyd yn byw ynddo a lle mae mwy nag un aelwyd yn rhannu cyfleusterau - neu lle mae cyfleusterau yn absennol - megis ystafell ymolchi, toiled neu gyfleusterau coginio.

Y mae mwy nag un aelwyd yn byw ynddo ac sy'n adeilad wedi ei drawsnewid - ond heb fod yn fflatiau hollol gynwysedig (p'un ai yw rhai cyfleusterau'n cael eu rhannu neu'n absennol).

Yn fflatiau hunangynwysedig wedi'u trawsnewid, ond nad ydynt yn cyrraedd fel safon ofynnol Reoliadau Adeiladu 1991, ac y caiff o leiaf draean y fflatiau eu meddiannu dan denantiaethau byr.

Mae mwy nag un aelwyd yn byw yn yr adeilad:

Fel eu hunig neu brif breswylfa

Fel lloches ar gyfer pobl sy'n dianc rhag trais yn y cartref

Gan fyfyrwyr yn ystod y tymor

Ar gyfer dibenion eraill a nodwyd gan y llywodraeth

Aelwyd yw:

Teuluoedd (yn cynnwys pobl sengl, cyplau a chyplau yr un rhyw)

Perthnasoedd eraill, megis maethu, gofalwyr a staff domestig

Pam fod y Llywodraeth eisiau i HMOs gael eu trwyddedu?

Yn aml mae gan HMOs mwy, fel bedsits a thai rhannu, safonau rheoli ffisegol a rheoli gwaelach nag adeiladau eraill rhent preifat. Mae'r bobl sy'n byw mewn HMOs ymysg aelodau mwyaf bregus a difreintiedig cymdeithas. Gan mai HMOs yw'r unig opsiwn tai ar gyfer llawer o bobl, mae'r llywodraeth yn cydnabod ei bod yn hollbwysig y cânt eu rheoleiddio'n iawn.

Bwriedir i drwyddedu wneud yn siŵr:

Bod landlordiaid HMOs yn bobl addas a chywir, neu'n cyflogi rheolwyr sy'n bobl addas a chywir.

Bod pob HMO yn addas ar gyfer i nifer o bobl a ganiateir dan y drwydded i fyw ynddo.

Bod safon rheoli'r HMO yn ddigonol.

Y gellir adnabod HMOs risg uchel a'u targedu ar gyfer gwella.  

Lle mae landlordiaid yn gwrthod cyflawni'r meini prawf hyn gall y cyngor ymyrryd a rheoli'r eiddo fel y:

Gellir diogelu tenantiaid bregus

Nad yw HMOs yn orlawn

Gall cynghorau ddynodi a chefnogi landlordiaid, yn arbennig gydag adfywio a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

A yw'n rhaid i bob HMOs gael trwydded?

Na. Dan Ddeddf Tai 2004, mae tri math o drwydded:

1. Trwydded orfodol (angen dan y gyfraith) o HMOs ar gyfer adeiladau sydd:

  • yn dri llawr neu uwch
  • â phump neu fwy o bobl mewn mwy nag un aelwyd, ac
  • yn rhannu cyfleusterau fel ystafelloedd ymolchi, toiledau a chyfleusterau coginio

2. Trwyddedu ychwanegol ar HMOs

  • Pŵr ar ddisgresiwn y gall cynghorau benderfynu ei weithredu i fath neilltuol o HMO, er enghraifft i gynnwys cynllun cofrestru presennol.

3. Trwyddedu dethol ar lety preswyl arall

  • Gallai adeiladau nad ydynt angen trwydded HMO gael eu cynnwys dan gynllun trwyddedu. Dyma le gall y cyngor ddatgan fod rhai ardaloedd, er enghraifft lle mae galw isel ar gyfer tai a/neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn addas ar gyfer trwyddedu dethol. Byddai'r drwydded yma yn cynnwys pob math o dai rhent preifat, yn cynnwys HMOs.

Sut fydd yn gweithio?

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n berchen neu'n rheoli HMO sydd angen trwydded wneud cais i'r cyngor am drwydded. Mae'n rhaid i'r cyngor roi trwydded os yw'n fodlon:

  • Bod yr HMO yn weddol resymol ar gyfer i'r nifer o bobl a ganiateir dan y drwydded i fyw ynddo
  • Bod y deiliaid trwydded arfaethedig yn berson addas a phriodol
  • Bod y deiliad trwydded arfaethedig y person mwyaf priodol i ddal y drwydded
  • Bod y rheolwr arfaethedig, os oes un, yn 'berson addas a phriodol'
  • Bod y trefniadau rheoli arfaethedig yn foddhaol
  • bod y person sy'n ymwneud â rheoli'r HMO yn gymwys
  • Bod y strwythurau ariannol ar gyfer rheoli yn addas

Mwy o wybodaeth:

https://www.gov.uk/house-in-multiple-occupation-licence

https://www.gov.uk/house-in-multiple-occupation-licence/blaenau-gwent/apply