Benthyciadau Landlordiaid

Mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, mae Llywodraeth Cymru yn darparu benthyciadau di-log i ddod â chartrefi sector preifat i fyny i'r safon. Gellir hefyd ddefnyddio benthyciadau landlordiaid i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd.

Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo perchnogion i wneud gwaith trwsio neu wella i eiddo ar rent a dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd. Mae'r benthyciad ar gael i berchnogion sy'n dymuno gwerthu neu rentu'r eiddo. Gellir defnyddio benthyciadau ar gyfer gwaith ar anheddau neu adeiladau masnachol, a all gynnwys rhannu eiddo yn fflatiau.

Gall ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad hyd at £35,000 yr uned gydag uchafswm o £250,000 i bob ymgeisydd. Gall telerau ad-dalu fod yn rhandaliadau misol, chwarterol neu flynyddol neu ad-daliad llawn ar ddiwedd cyfnod y tymor neu drosglwyddo/gwerthu'r eiddo os yw hynny'n gynharach.

Lle mae'r benthyciad a gymeradwyir yn "Fenthyciad i Werthu", bydd angen ad-dalu'r benthyciad ar unwaith a dim hwyrach na'r dyddiad a nodir yn y Cytundeb Cyfleuster Benthyca (dim mwy na 2 flwyddyn).

Lle mae'r benthyciad a gymeradwyir yn "Fenthyciad i Osod", bydd y benthyciad yn ad-daladwy ddim hwyrach na'r dyddiad a nodir yn y Cytundeb Cyfleuster Benthyca (dim mwy na 5 mlynedd), os na chaiff yr eiddo neu'r unedau o fewn yr eiddo eu gwerthu ynghynt, a'r cyfan ar yr un diwrnod.

Ar gyfer "Benthyciadau i Osod", gellid trefnu cyfnodau hirach rhwng 5 a 10 mlynedd yn amodol y caiff yr eiddo, pan gwblheir y gwaith, ei rentu ar lefel Lwfans Tai Lleol gyda hawliau enwebu awdurdod lleol ar gyfer y cyfnod a drefnwyd.

Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu benthyciadau ar gyfer perchen-breswylwyr a mae mwy o wybodaeth ar y benthyciadau hyn ar gael ar y manylion cyswllt islaw.

Os ydych angen cyllid i godi eich eiddo rhent neu wag i fyny i safon, cysylltwch ag Aelod o'r Tîm Tai ar housing@blaenau-gwent.gov.uk neu ar 01495 354600 opsiwn 1 os gwelwch yn dda.