Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu 2024

Caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) eu hethol yn ddemocrataidd bob pedair blynedd.

Disgwylir i'r etholiad nesaf sydd wedi'i drefnu gael ei gynnal ddydd Iau 2 Mai 2024.

Dyddiad yr etholiad fydd dydd Iau 2 Mai gyda’r cyfrif a’r canlyniad ddydd Gwener 3 Mai.

https://www.caerffili.gov.uk/my-council/voting-and-elections/forthcoming-elections-2024/police-and-crime-commissioner-election-2024?lang=cy-gb

Amserlen digwyddiadau allweddol:

Digwyddiad

Dyddiad

Hysbysiad o Etholiad

25 Mawrth 2024

Anfon cardiau pleidleisio

26 Mawrth 2024

Dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau 

5 Ebrill 2024 (4pm)

Cyhoeddi datganiad am y bobl a enwebwyd

8 Ebrill 2024

Anfon pleidleisiau drwy’r post 

15 April 2024

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio 

16 Ebrill 2024

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais post 

17 Ebrill 2024 (5pm)

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy 

24 Ebrill 2024 (5pm)

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr 

24 Ebrill 2024 (5pm)

Diwrnod pleileisio  

2 Mai 2024 (7am to 10pm)

Dilysu a’r cyfrif  

3 Mai 2024 (9am)

Cofrestru i bleidleisio

Er mwyn pleidleisio mewn etholiad CHTh mae'n rhaid i chi:

  • Fod wedi cofrestru i bleidleisio
  • Yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad ('diwrnod pleidleisio')
  • Bod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, cymwys o'r Gymanwlad neu'r UE
  • Bod yn preswylio mewn cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr (ac eithrio Llundain)
  • Peidio â chael eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein: Cofrestru i bleidleisio.

Y dyddiad cau i gofrestru yw hanner nos, nos Fawrth 16 Ebrill 2024.

Pleidleisio drwy'r post

Pleidleisio drwy’r post

Newidiadau i’r modd yr ymdrinnir â phleidleisiau post a chyfrinachedd: Etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. 

Bydd y darpariaethau hyn mewn grym ar gyfer yr etholiadau sy’n cael eu cynnal ar 2 Mai 2024.

Cyfyngiadau o ran cyflwyno pleidleisiau post mewn gorsaf bleidleisio  

Dim ond eich pleidlais bost eich hunan a phleidleisiau post hyd at bump o bobl eraill y bydd modd i chi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio. Os bydd unigolyn yn cyflwyno mwy na phump o bleidleisiau post ar ran etholwyr eraill, bydd yr holl bleidleisiau post (ar wahân i bleidlais bost yr unigolyn ei hunan) yn cael eu gwrthod. Os oes rheswm i gredu eich bod eisoes ar unrhyw achlysur blaenorol yn yr etholiad wedi cyflwyno’r nifer uchaf o bleidleisiau post a ganiateir, bydd unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir wedi hynny yn cael eu gwrthod.

Cwblhau’r ffurflen dychwelyd pleidleisiau post

Bydd angen i bawb sy’n cyflwyno pleidleisiau post gwblhau ffurflen dychwelyd pleidleisiau post.

Os na fydd yr holl wybodaeth a ofynnir amdani wedi’i chynnwys ar y ffurflen neu os na fydd y swyddog awdurdodedig yn fodlon bod y ffurflen wedi’i chwblhau’n gywir, bydd y bleidlais bost / y pleidleisiau post yn cael eu gwrthod. Ni fydd y pleidleisiau post a wrthodir yn cael eu cynnwys yn y cyfrif.

Pleidleisiau post sy’n cael eu gadael yn yr orsaf bleidleisio

Ni dderbynnir y pleidleisiau post yr ydych yn eu gadael yn yr orsaf bleidleisio oni bai eich bod yn cwblhau ffurflen dychwelyd pleidleisiau post. Os bydd unigolyn yn cyflwyno pleidlais bost heb gwblhau’r ffurflen dychwelyd pleidleisiau post, rhaid gwrthod y pleidleisiau post.

Cyflwyno’r pleidleisiau post i’r Swyddog Canlyniadau

Gallwch gyflwyno’r pleidleisiau post yn uniongyrchol i’r Swyddog Canlyniadau cyn yr etholiad a rhaid gwneud hynny erbyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais ei hunan.

Ni chaiff pleidleisiau post a gyflwynir yn un o gyfeiriadau eraill y Cyngor eu derbyn gan na fydd neb yno i ddarparu’r ffurflen dychwelyd pleidleisiau post a’i llofnodi. Gwrthodir unrhyw bleidleisiau post sy’n cael eu gadael yn adeiladau’r Cyngor heb fod y ffurflen dychwelyd pleidleisiau post wedi’i chwblhau. Ni allwn dderbyn unrhyw bleidleisiau post sy’n cael eu gadael ym mlwch llythyron y Cyngor na’r rheini sy’n cael eu rhoi yn y system bost fewnol.

Ymestyn y gofynion o ran cyfrinachedd i bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy

Mae’r gofynion o ran cyfrinachedd sy’n berthnasol mewn gorsaf bleidleisio yn cael eu hymestyn i bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy. Bydd yn drosedd ceisio canfod sut y mae rhywun wedi pleidleisio wrth iddynt gwblhau eu pleidlais bost neu i gyfathrebu sut y mae pleidleisiwr post neu bleidleisiwr drwy ddirprwy wedi pleidleisio. Gallai rhywun sy’n cael ei ganfod yn euog o fynd yn groes i’r gofynion o ran cyfrinachedd wynebu dirwy neu gyfnod o hyd at chwe mis yn y carchar.

Ymgyrchwyr Gwleidyddol

Dim ond eu pleidlais bost eu hunain y gall ymgyrchwyr ei chyflwyno, a phleidleisiau post hyd at bump o bobl eraill sydd naill ai yn berthnasau agos, neu’n bobl y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer. Ni chânt eu gwahardd rhag ymdrin â phleidleisiau post os ydynt yn gwneud hyn fel rhan o’u dyletswyddau arferol (er enghraifft, os ydynt yn gweithio i’r Post Brenhinol).

Nid yw’r ddeddfwriaeth newydd ynglŷn ag ymdrin â phleidleisiau post yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru nac ychwaith i Etholiadau Cynghorau Lleol yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r newidiadau i’r modd yr ymdrinnir â phleidleisiau post, cysylltwch â electoral.services@blaenau-gwent.gov.ukneu ffoniwch 01495 355090

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os hoffech i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad hwn, ewch i Pleidleisio drwy ddirprwy i wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm, ddydd Mercher 24 Ebrill. 

Os, ar ôl 5pm ar 24 Ebrill, y cewch eich hun mewn sefyllfa lle na allwch bleidleisio'n bersonol, oherwydd rhesymau gwaith neu feddygol, gall fod hawl gennych i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth. 

Hunaniaeth Pleidleisiwr

Mae hi bellach yn ofyniad i gyflwyno dull adnabod sy'n cael ei dderbyn wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y mathau o ddulliau adnabod sy'n cael eu derbyn, ewch i'n tudalen ID pleidleisiwr.

Gwybodaeth Gyswllt