Sut i Bleidleisio

Cyn i chi allu pleidleisio, rhaid i’ch enw gael ei gynnwys ar y gofrestr etholiadol. 

Gallwch bleidleisio mewn sawl ffordd 

Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio

Bydd cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon atoch ychydig wythnosau cyn yr etholiad a fydd yn rhoi cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio i chi. 

Yn yr orsaf bleidleisio bydd y Clerc yn gofyn i chi am eich enw a chyfeiriad. Yna byddwch yn cael papur pleidleisio a fydd yn dweud dros sawl ymgeisydd sydd angen i chi bleidleisio. Yn y bwth pleidleisio, rhowch groes (X) yn erbyn yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr o’ch dewis. 

Cynhelir etholiadau rhwng 7 a.m. a 10 p.m. fel arfer ar ddydd Iau. 

Gellir dod o hyd i daith rithwir o orsaf bleidleisio ar wefan yr Archifa Gwladol

Dod o hyd i My Gorsaf Bleidleisio

 

Pleidleisio drwy’r Post 

Cysylltwch â ni am ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post wedi’i chwblhau’n rhannol gyda’ch enw a chyfeiriad.  Ar y ffurflen hon, rhaid i chi gwblhau’ch dyddiad geni a llofnodi. Bydd y rhain yn cael eu gwirio pan rydych yn pleidleisio er mwyn atal twyll. 

Neu, fe allwch gwblhau cais i bleidleisio drwy’r post ar:  Y Comisiwn Etholiadol

Os ydych chi’n penderfynu pleidleisio drwy’r post, ni allwch newid eich meddwl nes ymlaen a phleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. 

Pleidleisio drwy Ddirprwy

Trwy wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, rydych yn apwyntio person arall i bleidleisio ar eich rhan naill ai yn yr orsaf bleidleisio neu drwy’r post. 

Cysylltwch â ni am ffurflen gais ar gyfer dirprwy. Rhaid i chi ddweud y rheswm pam wrthym. Er enghraifft 

  • Mae gennych anabledd corfforol. Os mai dyma’r rheswm, efallai bydd rhaid i chi gynnwys datganiad gan ddoctor, nyrs neu warden cartref bod hyn yn gywir 
  • Mae’ch gwaith yn eich cymryd i ffwrdd o’ch cartref, naill ai’n barhaol neu ar ddiwrnod yr etholiad. 
  • Byddwch ar wyliau ar ddiwrnod yr etholiad. 
  • Rydych wedi symud tŷ ers i chi gofrestru a does dim modd i chi fynd i’ch hen orsaf bleidleisio. 

 

Enw’r Tîm: Gwasanaethau Etholiadol

Rhif Ffôn:      01495 355086/88

Cyfeiriad:  Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN

Cyfeiriad e-bost:   electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk

Testun : 07786202915