Ray Gunter

Gorsaf Reilffordd Llanhiledd, Abertyleri

Cafodd Ray ei eni ar 30 Awst 1909, yn fab Miles Gunter, gwerthwr ffrwythau ac wedyn ddyn pwmp mewn glofa, a’i wraig Clara Adeline Jones, o 18 Stryd Fawr, Llanhiledd.

Mynychodd Ysgol Abertyleri ac Ysgol Uwchradd Trecelyn a phan oedd yn 14 oed daeth yn glerc archebu gyda rheilffordd y Great Western.

Adeg Cofrestr 1939 roedd yn byw yn Burvale, Commercial Road, gyda’i wraig Elsie a’i fab, David.

Roedd Ray yn aelod o TSSA, Cymdeithas Staff Cyflogedig Trafnidiaeth gan ddod yn Drysorydd yn 1953-56 a Llywydd yn 1956-64.

Cafodd Ray Gunter yrfa hir a chlodwiw yn y Senedd rhwng 1945 a 1972, fel aelod South East Essex 1945-50, Doncaster 1950-51 a Southwark 1959-72. Gwasanaethodd yng Nghabinet nifer o Lywodraethau Llafur, yn fwyaf amlwg dan Harold Wilson yn 1964-68 a Gweinidog Pŵer 1968. Cafodd ei ystyried fel aelod uwch o’r meinciau cefn yn ystod ei flynyddoedd olaf yn y senedd ac ymddeolodd o’r Senedd yn 1972. Bu Ray Gunter farw yn 1977 a chafodd ei gladdu yn Hen Eglwys y Santes Fair ar Ynysoedd Scilly lle’r oedd ganddo gartref.

Ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2013 dadorchuddiodd Paul Murphy, AS Torfaen, blac coffa er anrhydedd Ray Gunter, y cyn AS Llafur ac Aelod Cabinet a anwyd yn Llanhiledd. Cafodd y plac ei osod yng ngorsaf reilffordd y dref i gydnabod ei amser fel Llywydd TSSA. Yn bresennol yn y dadorchuddio roedd Nick Smith AS, Mostyn Lewis Maer Blaenau Gwent a’r Cynghorydd Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent.

Wrth siarad yn y digwyddiad dywedodd Mr Murphy,

“Fel dyn ifanc gyda diddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, clywais am Ray Gunter pan oedd yn aelod o Gabinet Harold Wilson. Beth wnaeth argraff arnaf oedd y gallai rhywun oedd yn dod o’r un rhan o’r byd â fi ac oedd ag acen debyg i fi, anelu i ddod yn aelod o’r Cabinet. Mae’n addas codi cofeb barhaol iddo er anrhydedd i’w gof ac mae’n fraint fawr i fi, fel cyn Aelod Cabinet Llafur fy hunan, i fod yn gysylltiedig gyda’r digwyddiad yma.”

Ychwanegodd y Cynghorydd McCarthy: “Rwyf wrth fy modd fod gwaith Ray fel AS ac undebwr llafur yn cael ei gydnabod gyda’r gofeb barhaol yma mor agos at y man lle cafodd ei eni.

014

011