Plant Sy’n Colli Addysg

Mae’n ddyletswydd statudol arnom i adnabod plant sy’ n colli addysg. Mae’r ddyletswydd hon yn bwysig o safbwynt addysg a hefyd safbwynt diogelu.

Mae plant a phobl ifanc nad ydynt yn derbyn addysg addas mewn mwy o risg o ystod o ddeilliannau negyddol a fedrai fod â chanlyniadau niweidiol hirdymor ar gyfer eu cyfleoedd bywyd.

Plant sydd ar goll o addysg yw rhai o oedran ysgol gorfodol (rhwng 5-16 oed) nad ydynt ar gofrestr ysgol, ac nad ydynt yn derbyn addysg addas (er enghraifft, yn y cartref, yn breifat neu mewn darpariaeth arall) a na fu allan o ddarpariaeth addysgol am gyfnod sylweddol o amser, a gytunir fel arfer fel pedair wythnos neu fwy.

Mae angen i chi gysylltu â ni yn syth os ydych:

  • wedi sylwi ar blentyn nad yw’n ymddangos ei fod yn mynychu ysgol yn rheolaidd
  • yn credu fod plentyn heb fod yn derbyn unrhyw addysg
  • ag unrhyw bryderon am blant sydd wedi mynd ar goll o’ch ardal neu gymdogaeth

Nid oes angen i chi roi eich manylion personol ond os gwnewch hynny caiff eich holl wybodaeth ei thrin yn gyfrinachol.

Os credwch y gall plentyn fod yn colli ysgol, mae angen hysbysu’r Gwasanaeth Lles Addysg am hyn drwy anfon e-bost at:

educationwelfareservice@blaenau-gwent.gov.uk

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn hysbysu fod gennyf bryder?

 Dylid gwneud atgyfeiriad ym mhob achos lle amheuir fod plentyn wedi symud ac nad yw’r ysgol wedi medru canfod/cael eu hysbysu gan riant o naill ai gyfeiriad newydd neu newid ysgol, neu pan nad yw’r plentyn wedi dychwelyd o wyliau neu wyliau estynedig o fewn dwy wythnos o’r dyddiad dychwelyd disgwyliedig.

Drwy ein hysbysu am eich pryderon rydych yn sicrhau iechyd a llesiant rhai o’n pobl ifanc fwyaf bregus o fewn ein cymuned. Pan gawn eich adroddiad, byddwn yn ceisio olrhain y plentyn drwy wahanol gronfeydd data ac yn cydlynu gydag asiantaethau eraill a gweithwyr proffesiynol. Os ydym yn fodlon fod y plentyn wedi cofrestru mewn ysgol neu’n derbyn addysg addas, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach. Os bydd angen, byddwn hefyd yn rhoi cefnogaeth i helpu’r plentyn ddychwelyd i’r ysgol.

Dylai ysgolion gysylltu â Gofal Cymdeithasol yn ddiymdroi os oes pryderon am amddiffyn plant, neu gysylltu’n uniongyrchol â’r Heddlu os oes rheswm da dros gredu y gall trosedd fod wedi ei chyflawni.

Polisi plant sy’n coeli addysg.