Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Rhaglen Dreigl

Rhaglen Dreigl

Mae Tîm Trawsnewid Addysg y Cyngor yn cyflenwi rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (gynt Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif) a’r Rhaglen Cyfalaf Addysg ynghyd â blaen-gynllunio gweithredu’r Rhaglen Dreigl Mawrth 2024.

I gael mwy o wybodaeth ar Raglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ewch i: Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy | LLYW.CYMRU

Mae’r rhaglen yn edrych ar y buddsoddiadau cyfalaf hirdymor a strategol sydd eu hangen i greu cymunedau addysgol sy’n addas i’r diben ar gyfer Cymru 21ain Ganrif a hefyd yn canolbwyntio adnoddau ar yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir ar gyfer plant a phobl ifanc o’r blynyddoedd cynnar hyd at ôl-16.

Bydd trawsnewid addysgol yn parhau’n ganlyniad hanfodol i fuddsoddiad Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru, gan gydnabod ei bod yn bwysig tu hwnt ein bod yn ymdrin â chyflwr ac effeithiolrwydd adeiladau ein hysgolion a cholegau. Dylai awdurdodau lleol ymgynghori gyda’r holl ysgolion a gyllidir gan y wladwriaeth i ystyried eu cynnwys yn y rhaglen:

  • ysgolion cymunedol
  • ysgolion o gymeriad crefyddol (yn ysgolion a gynrothwyir yn wirfoddol a hefyd ysgolion a reolir yn wirfoddol)
  • ysgolion sefydliadol

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi gweithio’n agos gyda Llyworaeth Cymru i wella adeiladau ein hysgolion dan y rhaglen Band B. Mae’r tîm Trawsnewid Addysg yn datblygu achosion busnes i sicrhau cyllid ar gyfer Addysg i ddarparu amgylcheddau dysgu newydd a gwell. Gan fod partneriaid cyflenwi ar wahanol gyfnodau drwy eu rhaglen Band B presennol, disgwylir fel a phan fydd awdurdod lleol neu goleg yn agosau at gwblhau eu rhaglen Band B, fel arfer pan fydd mwy na 60% o werth y rhaglen (£) naill ai wedi ei gwblhau neu ar safle/dan gontract, maent yn cyflwyno eu rhaglen amlinellol strategool newydd a fyddai’n dechrau eu rhaglen dreigl.

Bydd hyn yn annog pontio llyfn o raglen pob partner cyflenwi fel a phan fo’r angen yn codi, gan ddileu’r camau gweithredu stop-dechrau yn gysylltiedig gyda rhaglen fuddsoddi cyfnod sefydlog.

Mae angen cyflwyno rhaglen gyfalaf naw mlynedd, yn cynnwys rhagolwg cyllido dangosol ar gyfer y 9 mlynedd, i Lywodraeth Cymru ei hystyried tuag at roi ymrwymiad a chymorth am y 3 blynedd gyntaf ynghyd â chymroth mewn egwyddor ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6. Bydd blynyddoedd 7 i 9 yn adlewyrchu y prosiectau sydd yn yr arfaeth ar gyfer y tymor hirach. Os yn briodol, gellir cynnwys prosiectau Band B ar ddechrau eich rhaglen cyfalaf naw mlynedd.

Rhaglen gyfalaf naw mlynedd

BI. Disgwyliad

1,2 a 3 - Disgwylir i brosiectau gyrraedd achos busnes llawn o fewn y 3 blynedd.

4,5 a 6 - Prosiectau yn cael eu datblygu ac yn mynd drwy ymgynghoriad statudol.

7,8 a 9 - Prosiectau yn yr arfaeth.

Mae’n rhaid i bartneriaid cyflenwi adolygu ac ailgyflwyno eu Rhaglen erbyn mis Mawrth 2024 fan bellaf. Gall partneriaid cyflenwi gyflwyno ac ymuno â’r rhaglen dreigl cyn y dyddiad cau hwn os ydynt yn agosau at gwblhau eu rhaglen Band B. Mae’n ofynnol i bartneriaid cyflenwi adolygu eu rhaglen dreigl o leiaf bob 3 blynedd ac erbyn hynny disgwylid y byddai blynyddoedd 1, 2 a 3 yn cynnwys y prosiectau hynny oedd yn ffurfio blynyddoedd 4, 5 a 6 y diwygiad blaenorol, os yw’r proseictau hynny’n parhau yn flaenoriaeth ar gyfer y partner cyflenwi gyda 3 blynedd arall o brosiectau yn yr arfaeth wedi eu hychwanegu at y cynllun naw mlynedd. Bydd ffocws hwn ar gynllun buddsoddi tair blynedd a chyllidebau drafft, wrth ochr Stratetaeth Buddsoddi Seilwaith Cymru.

Ar gyfer prosiectau sy’n parhau i gael eu dosbarthu fel ‘Band B’, bydd y gwerthusiad cyfredol o achosion busnes a’r fframwaith cymeradwyo yn parhau i herio anghenion a blaenoriaethau strategol achosion busnes unigol partneriaid cyflenwi a gyflwynir yn y modd arferol. Bydd y broses ar gyfer Rhaglen Amlinellol Strategol newydd hefyd yn dilyn y llwybr hwn.

Mae prosiectau a ddynodwyd ar gyfer eu cyflenwi dan fframwaith cyflenwi Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn parhau i gael eu hystyried fel prosiectau Band B.

Mae’n rhaid i bob achos busnes a gyflwynir gael eu seilio ar Raglen Amlinellol Strategol, sy’n rhoi golwg gynhwysfawr o strategaethau awdurdodau lleol/sefydliadau addysg bellach unigol, a gall prosiectau unigol wedyn gael eu cymeradwyo os derbynnir achos busnes boddhaol.

Cedwid cyfraddau ymyriad presennol er mwyn cefnogi y gallu i gyflawni a fforddiadwyedd rhaglenni unigol partneriaid cyflenwi yn unol â’r tabl isod

Cyfraddau ymyrryd

Categori Cyfradd ymyrryd (%)
Ysgolion cymunedol, ysgolion a reolir yn wirfoddol ac ysgolion sefydliadol 65
Ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol o gymeriad crefyddol 85
Ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion 75
Model Buddsoddiad Cydfuddiannol (elfen cyllid refeniw) 81
Model Buddsoddiad Cydfuddiannol (cost cyfalaf cysylltiedig) 65
Sefydliadau addysg bellach 65
Gor-gostau ychwanegol carbon sero net (Band B) 100

Amcanion buddsoddi rhaglen

Trawsnewid amgylcheddau dysgu a phrofiad myfyrwyr

  • Cefnogi pob dysgwr i fod yn ddinasyddion iach, sydd yn ymgysylltu, mentrus a moesegol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith, o fewn mannau dysgu sy’n ddiogel, cynhwysol ac yn rhydd o wahaniaethu a bwlio.
  • Gwella profiad a llesiant dysgwyr yn yr amgylchedd adeiledig, gan gefnogi cyflenwi’r Cwricwlwm i Gymru.
  • Darparu seilwaith digidol o’r radd flaenaf i wella amgylcheddau dysgu a dulliau addysgu ar gyfer myfyrwyr o bob oed a’r gymuned ehangach.
  • Cefnogi dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol a rhai o gefndiroedd difreintiedig.

Ateb y galw am leoedd ysgol

  • Darparu seilwaith addysgol effeithiol ac effeithlon fydd yn ateb y galw cyfredol a dyfodol ar gyfer lleoedd.
  • Cefnogi cyflenwi Cynllun Strategol Cymreg mewn Addysg yr awdurdod.
  • Darparu’r nifer gywir o leoedd ar gyfer cyflenwi addysg cyfrwng Cymreg a chyfrwng Saesneg.
  • Ymdrin â materion digonolrwydd lle’n berthnasol.

Gwella cyflwr ac addasrwydd y stad addysg

  • Gostwng yr ôl-groniad o gostau cynnal a chadw ar gyfer yr ysgolion a cholegau a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen gan roi ystyriaeth i’r stad gyfan.
  • Dileu adeiladau categori D ac o ran cyflwr ac addasrwydd o’r stad.
  • Gostwng adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori C a gwella cyflwr i gategori cyflwr A neu B.

Datblygu amgylcheddau dysgu cynaliadwy

  • Gweithio tuag at carbon-sero oes gyfan drwy raglen carbon-sero net a osodwyd a’r targedau carbon a ymgoffforwyd yn unol ag Ymrwymiadau Gostwng Carbon Llywodraeth Cymru.
  • Darparu amgylcheddau dysgu cynaliadwy sy’n buddsoddi mewn bioamrywiaeth i wella’r amgylchedd o amgylch a chefnogi teithio llesol.

Cefnogi’r gymuned

  • Ysgolion bro, gwneud y defnydd gorau oll o seilwaith ac adnoddau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy gydweithio gydag athrawon, staff, cyrff llywodraethu, dysgwyr, teuluoedd a chymunedau. Bydd hyn yn cynnwys hyblygrwydd ein hasedau fel bod gofod a chyfleusterau ar gael tu allan i oriau ysgol ar gyfer dysgu allgyrsiol a dysgu oedolion a chymunedol.
  • Cynyddu i’r eithaf y buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol drwy’r gadwyn gyflenwi.
  • Darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg oedolion, gan alluogi aelodau’r gymuned i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu hyder.
  • Cefnogi partneriaethau aml-asiantaeth a chynnig dull integredig i gefnogi dysgwyr a’r gymuned yn cynnwys cyd-leoli gwasanaethau.

Crynodeb

Mae tîm Trawsnewid Addysg Blaenau Gwent wrthi’n gweitho ar Raglen Amlinellol Strategol i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth 2024.

Sut y caiff cynigion eu rheoli

Caiff cyflenwi’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn lleol ei benderfynu gan Raglen Amlinellol Strategol y Cyngor, yn unol â chyflawni amcanion addysgol allweddol yn cynwys gwella safonau Addysg o fewn Blaenau Gwent.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Trawsnewid Addysg drwy’r cyfeiriad e-bost canlynol: 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk

Polisi Trefniadaeth Ysgolion a Safonau Addysgol Blaenau Gwent

Mae’r Cyngor yn parhau yn ymroddedig i ddarparu addysg ansawdd uchel ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Gwnaed cynnydd i godi safonau addysgol, fodd bynnag y nod yw gwella deilliannau a llesiant disgyblion yn barhaus ar draws y fwrdeistref sirol. Mae felly yn oblygiedig o fewn Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (gynt Ysgoliion a Cholegau 21an Ganrif) y Cyngor fod angen adolygiad sylfaenol o’r stad ysgolion i drawsnewid safonau addysg.

Y weledigaeth yw gwella cyrhaeddiad, cyflawniad a llesiant disgyblion drwy drawsnewid ysgolion ac amgylcheddau dysgu i gyraedd disgwyliadau modern Ysgolion 21ain Ganrif. Hefyd, i sicrhau a chynnal cyflenwi addysg ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl ar draws yr ystod oedran o 3 i 16, sydd wedi ei seilio ar ddau amcan:

  • i fod yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau o fewn y teulu o awdurdodau lleol (Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot) erbyn 2017/2018; a
  • rhagori ar gyfartaledd Cymru ar gyfer yr holl ddangosyddion allweddol erbyn 2018.

Mae polisi Trefniadaeth Ysgolion Blaenau Gwent yn rhoi cyfeiriad strategol ar gyfer trawsnewid ac adolygu parhaus ar y stad ysgolion fewn Blaenau Gwent. I gael mwy o fanylion ewch i http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/aksblaenau_gwent/images/att2877.pdf

 Gwybodaeth Gyswllt

 Enw’r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg

Rhif Ffôn: 01495 355470/355132

Cyfeiriad: Cyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri, NP13 1DB

Cyfeiriad E-bost: 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk