Bwydlen Yr Ysgol

Meddwl eich bod yn gwybod am Brydau Ysgol?

Ni fu prydau ysgol yng Nghymru erioed mor faethlon ac amrywiol. Yma ym Mlaenau Gwent rydym yn bwydo miloedd o ddisgyblion cynradd ac uwchradd bob dydd, yn ogystal â staff ac ymwelwyr.

Yn unol â safonau Llywodraeth Cymru mae gennym lai o fraster, siwgr a halen yn ein rysetiau, a mwy o ffibr a ffrwythau a llysiau, ymysg llawer o welliannau eraill. Mae maeth yn bwysig i ni a gellir ymddiried yn ein prydau ysgol i gyfrannu’n sylweddol ar ddiet iach pobl ifanc.

Ond dim ond hanner y frwydr fu gwneud y bwyd a ddarparwn mewn ysgolion yn iachach. Mae’n rhaid i bobl ifanc fod eisiau eu bwyta a sicrhawyd hyn gyda gwaith caled a brwdfrydedd timau arlwyo yr holl ysgolion ar draws Blaenau Gwent ac, wrth gwrs, fewnbwn gwerthfawr ein disgyblion.

Mae gan bob disgybl ysgol gynradd o’r Dosbarth Derbyn lan (a phlant Meithrin llawn-amser) ym Mlaenau Gwent yn awr hawl i Bryd Ysgol am Ddim bob dydd.

Caiff hyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r pwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd ac uchelgais i drin tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn newynnog yn yr ysgol. Mae hefyd fuddion ehangach i brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adeg prydau bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen i’ch plentyn ei wneud yw dweud os yw eisiau cinio ysgol pan fydd yn cofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol.

Hyd yn oed os ydych yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol ar gyfer eich plentyn, dylech ddal i wneud cais os ydych yn gymwys oherwydd amgylchiadau ariannol gan y gall hyn roi hawl i chi i fuddion eraill e.e. cymorth gyda phrynu gwisg ysgol. Gall gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim hefyd roi mynediad i gyllid ychwanegol i ysgol eich plentyn y gellid ei ddefnyddio i roi mwy o gefnogaeth ac adnoddau. Gallwch ganfod os ydych yn gymwys am y cymorth ychwanegol hwn yma.

Tystysgrif Cydymffurfio- Rheoliadau Bwyta’n
Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) Cymru 2013.

Yr hyn y gallwch ddisgwyl ei weld yn ein hysgolion:

• Ffrwythau bob dydd
• Llysiau a/neu salad bob dydd
• Pwdin seiliedig ar ffrwythau o leiaf ddwywaith yr wythnos
• Pysgod bob wythnos
• Pysgod seimllyd o leiaf unwaith mewn 3 wythnos
• Toriadau cig o leiaf ddwywaith yr wythnos yn ein hysgolion cynradd a dair gwaith yr wythnos mewn ysgolion uwchradd
• Dim halen ychwanegol
• Dim bwydydd melys, tebyg i fariau siocled, bariau grawnfwyd a melysion na chreision
• Cyfyngu cynnyrch tatws a thatws wedi’u coginio mewn saim neu olew (dim mwy na dwywaith yr wythnos)
• Cyfyngu bwyd wedi ei ffrio’n ddwfn neu ei fflach ffrio (dim mwy na ddwywaith yr wythnos)
• Cyfyngu cynnyrch cig wedi’i brosesu
• Siopau ffrwythau yn ein holl ysgolion cynradd
• Llaeth am ddim ar gyfer pob disgybl meithrin a phlant bach
• Brecwast iach am ddim ym mwyafrif ein hysgolion cynradd
• Hyrwyddo llaeth a dŵr fel fod y gorau ar gyfer iechyd dannedd
Heblaw am faeth, mae ysgolion bach yn cynnig llawer o fuddion eraill:
• Cyfleuster – arbed amser yn y bore drwy beidio gorfod paratoi cinio pecyn, a dim pryderon am gadw bwyd yn ffres a diogel tan amser cinio
• Y cyfle i roi cynnig ar fwydydd newydd
• Porthi gallu canolbwyntio plant a’u gallu i gyflawni’n dda yn yr ysgol
• Hyrwyddo sgiliau cymdeithasol  plant, moesgarwch wrth y bwrdd a’u gallu i wneud dewisiadau bwyd gwybodus mewn amgylchedd diogel, dan arolygiaeth gyda chyfeilion
• Mwynhau bwydlenni thema hwyl megis pryd arbennig Dydd Gŵyl Dewi
• Gwerth gwych am arian

Prydau Ysgol neu Giniawau Pecyn

Amser ailfeddwl am giniawau pecyn?

Ni roddodd ymchwil gan Brifysgol Leeds ddarlun cadarnhaol o gynnwys maeth ciniawau becyn o gymharu â phrydau ysgol, gyda llai na 2% o giniawau pecyn yn cyrraedd safonau prydau ysgol, gyda lefelau yn gostwng o ran Fitamin C, Fitamin A a sinc dros y blynyddoedd.

O gymharu, caiff bwydlenni ysgolion cynradd eu dadansoddi o ran maeth gan ddietegydd ein timau i sicrhau fod bwydlenni’n cynnig 1/3 o ofynion dyddiol disgyblion ar gyfer ynni, braster, braster dirlawn, carbohydradau, siwgr, ffibr, protein, haearn, sinc, calsiwm, Fitamin A, Fitamin C, ffolad, sodiwm.

Amser ailystyried?

Y prisiau cyfredol ar gyfer prydau ysgol ym Mlaenau Gwent yw (bob dydd):

Uwchradd - £2.80

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Prydau Ysgol
Ffôn: 01495 311556
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

 

Dogfennau Cysylltiedig