Addysg Ôl 16

Addysg Bellach:

Fel arfer os yw eich plentyn mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gall wneud cais i aros yn y chweched dosbarth ac astudio am lefel AS/A.

Pe byddai eich plentyn yn dymuno parhau mewn lleoliad coleg, mae cyfleoedd i astudio yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael yng Ngholeg Gwent. Mae llawer o fuddsoddiad drwy Goleg Gwent i wella cyfleoedd ar gyfer dysgwyr.

Addysg Uwch:

Mae Prifysgolion yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac ym mhedwar ban byd yn croesawu myfyrwyr sydd wedi astudio eu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bosibl astudio nifer gynyddol o gyrsiau is-radd ac ôl-radd yn gyfangwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai ysgolion tebyg i:

  • Hyfforddiant Athrawon (addysg Gymrawd),
  • Addysg Gorfforol,
  • Addysg Awyr Agored,
  • Gwaith Ieuenctid a Chymunedol,
  • Gofal Blynyddoedd Cynnar ac Addysg,
  • Astudiaethau Addysg Gynradd,
  • Astudiaethau Busnes a Chrefyddol.

Mae prifysgolion yn cefnogi myfyrwyr gyda rhaglenni gwella iaith ar y campws i fyfyrwyr sy’n ansicr am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy apiau a rhaglenni dysgu o bell.