Safonau Masnach

Nod Safonau Masnach yw sicrhau amgylchedd teg a diogel i bawb sy’n prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau ym Mlaenau Gwent.

Cyflawnir hyn drwy ystod o weithgareddau ymyrraeth, cyngor a gorfodaeth gyda busnesau a defnyddwyr. 

Rydym yn gweithio’n glos gydag asiantaethau partner er mwyn casglu gwybodaeth a gorfodi’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â meysydd megis: 

  • Pwysau a Mesurau
  • Labelu a Chyfansoddiad Bwyd
  • Nwyddau Ffug
  • Diogelwch Cynnyrch
  • Prisio
  • Masnachu Twyllodrus a Throseddau ar Stepen y Drws
  • Credyd Defnyddwyr
  • Nwyddau a Gamddisgrifiwyd
  • Gwerthiannau â Chyfyngiad Oed 

Gellir cael mwy o wybodaeth ar waith Safonau Masnach ar:

Gall busnesau gael cyngor ar y wefan gymar Busnes:

https://www.businesscompanion.info/ 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth i fusnesau ar labelu bwyd (gan gynnwys alergenau), rhybuddion bwyd a hyfforddiant labelu ac alergen ar-lein yn rhad ac am ddim. 

Mae’r Asiantaeth hefyd yn darparu gwybodaeth  a chyfarwyddyd i ffermwyr a busnesau porphin gan gynnwys sut i wneud cais am gymeradwyaeth  neu gofrestriad ar gyfer eich busnes porthi. 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr ar y rhybuddion bwyd a’r galwadau cynnyrch  yn ôl diweddaraf. 

Ymunwch â’n tudalen Facebook i dderbyn y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf.

https://www.facebook.com/blaenaugwentcbc

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Safonau Masnach

Rhif Ffôn: 01495 357813

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad e-bost: trading.standards@blaenau-gwent.gov.uk