Gwefru ar y Stryd

Ni all Awdurdod Priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ar hyn o bryd, gefnogi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan preifat ar y briffordd gyhoeddus, gerllaw iddi neu drosti. Er budd diogelwch ar y briffordd ac mewn perthynas â chynnal a chadw yn y dyfodol, ni all yr Awdurdod Priffyrdd ganiatáu llusgo ceblau, hyd yn oed gan ddefnyddio troshaen neu grid cilannog, ar draws priffordd gyhoeddus neu lwybr troed, neu sianelu ceblau o dan y llwybr troed. Mae hyn oherwydd materion atebolrwydd cyhoeddus, gan gynnwys y risg o beryglon baglu a materion diogelwch trydanol mwy cymhleth ar y pwynt defnyddio.

 

Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn canolbwyntio ymdrechion ar osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn nifer o fannau parcio cyhoeddus ar draws y fwrdeistref sirol, yn agos at ardaloedd preswyl.