Paratoi ar gyfer y Gaeaf

Mae tywydd garw yn gallu digwydd ar unrhyw adeg, gan achosi ystod o broblemau ac nid yw’n cymryd llawer i gael effaith mawr.

Trwy fod yn ymwybodol a pharatoi’n well, gallwn leihau’r aflonyddwch ar ein bywydau adref a phan rydym allan o’r tŷ.

Isod mae rhai darnau o gyngor ac awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu ymdopi â thywydd garw ynghyd ag amlinellu darpariaeth aeafol y cyngor ac unrhyw darfu ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Graeanu dros y Gaeaf a Biniau Graean

Mae tymor ein gwasanaeth gaeaf ar y priffyrdd yn rhedeg o ganol Hydref i ganol Ebrill. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth gaeafol effeithiol ac yn anelu at gadw’r ffyrdd â’r flaenoriaeth uchaf yn ddiogel ac yn rhydd o eira a rhew cyhyd â bod yn rhesymol bosib.

Rydym yn derbyn llawer o gwestiynau am raeanu, pam rydym yn graeanu rhai ffyrdd a phalmentydd, ond nid eraill, llenwi biniau graean a faint o staff sydd gennym i gadw’r ffyrdd yn glir. Am ragor o wybodaeth ewch i’n hadran ar raeanu a chlirio eira.

Clirio rhew neu eira o balmentydd a llwybrau troed

Mae’r Cod Eira yn darparu cyfarwyddyd ar glirio eira a rhew o balmentydd a lleoedd cyhoeddus. Peidiwch â chael eich darbwyllo i beidio â chlirio llwybrau oherwydd eich bod yn poeni bydd rhywun yn cael eu hanafu. Peidiwch â choelio’r mythau – mae’n annhebygol y byddwch yn cael eich erlyn neu’ch dal yn gyfreithlon gyfrifol am unrhyw anafiadau os ydych wedi clirio’r llwybr yn ofalus.

Cau a Tharfu ar Wasanaethau’r Cyngor

Mae tywydd garw weithiau’n gallu arwain at darfu ar wasanaethau, a hyd yn oed eu cau. Yn ystod yr adegau hyn byddwn o hyd yn gwneud ein gorau posib i gael gwybodaeth i chi mor gynted ag y medrwn. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ein tudalennau ar Gau Ysgolion a Tharfu ar Wasanaethau.

Adref

Llifogydd – Mae glaw trwm yn gallu achosi llifogydd.  Dechreuwch trwy wirio a yw’ch cartref mewn perygl o lifogydd a phenderfynu a oes angen i chi weithredu i ddiogelu’ch cartref rhag llifogydd. Os yw’ch cartref mewn perygl, bydd paratoi cynllun llifogydd yn gwneud pethau’n haws os oes llifogydd yn effeithio ar eich cartref.

Eira a Rhew – Yn ystod adegau oer, y perygl mwyaf i’ch cartref yw pibau wedi rhewi mwy na thebyg. Yn y pen draw, mae hwn yn fath wahanol o berygl llifogydd. Ond peidiwch ag anghofio bod eira hefyd yn gallu achosi problemau, gan flocio tyllau aer, chwythu i mewn i doi ac ychwanegu pwysau ychwanegol ar doi a strwythurau eraill.

Gwyntoedd Uchel – Pan mae gwyntoedd uchel yn cael eu rhagweld, cofiwch fod rhai eitemau cyffredin yn yr ardd yn gallu dod yn ‘deflynnau'. Bron bob gaeaf rydym yn gweld lluniau o drampolinau a dodrefn gardd yn yr awyr. Cyn iddi ddod yn rhy wyntog, mae gwerth gwirio am deils, llechi a sêl blwm rydd ac ystyried cal gwared ar hen frigau o hen goed.

Gellir dod o hyd i wybodaeth a chyngor gan ddefnyddio’r dolenni canlynol:

Eich Cymuned

Gall eira a rhew effeithio’n benodol ar aelodau o’ch cymuned sy’n hŷn a ddim yn gallu symud cystal, felly mae yna ffyrdd y gallwch sicrhau eu bod ddim yn unig.

Dyma rhai pethau y gallwch eu gwneud, ar eich pen eich hun neu gydag eraill i helpu ffrindiau, teulu a chymdogion agored i niwed yn ystod cyfnod y gaeaf. Mae helpu’n gilydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

  • Cymerwch ychydig funudau i alw ar gymdogion a pherthnasau sy’n hen neu’n sâl i weld a oes angen unrhyw beth arnynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad ydynt yn gallu gadael eu cartref. Cynigwch help i siopa am fwyd neu dasgau hanfodol eraill – gall wneud gwir wahaniaeth.
  • Cliriwch rew neu eira o balmentydd a llwybrau troed. Mae’r Cod Eira yn darparu cyfarwyddyd ar glirio eira a rhew o balmentydd a mannau cyhoeddus. 
  • Os ydych yn rhan o grŵp cymunedol, meddyliwch am bethau allai’r grŵp eu gwneud i helpu eraill yn ystod tywydd garw.
  • Cadwch i fyny gyda’r rhybuddion tywydd diweddaraf er mwyn i chi a’ch cymuned allu cynllunio sut i gefnogi’r sawl wedi’u heffeithio gan dywydd garw. 

Gall grwpiau gwirfoddol chwarae rôl werthfawr yn cefnogi cymunedau lleol yn ystod cyfnodau anodd. Am wybodaeth ewch i wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Gellir dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli lleol ar Gwirfoddoli Cymru.

Gellir dod o hyd i gyngor a gwybodaeth ar:

Teithio’n Ddiogel

Gall yr amodau ar y ffydd ac amodau’r tywydd newid felly gyrrwch yn ofalus. Mae gwybodaeth a chyngor ychwanegol ar yrru mewn amodau tywydd garw ar gael yng Nghod y Priffyrdd neu trwy ymweld â GOV.UK - Driving in adverse weather conditions.

Gellir cael gwybodaeth ar draffig a thrafnidiaeth gyhoeddus gan ddefnyddio’r dolenni canlynol:

Tywydd garw, damweiniau, cerbydau’n torri i lawr – dydych chi byth yn gwybod beth allai fod o amgylch y gornel. Felly, mae’n gwneud synnwyr i gadw darpariaethau brys sylfaenol yn eich car. Am gyngor ar baratoi’ch cerbyd ar gyfer y gaeaf, a syniadau ar gyfer ‘pecyn brys eich car’ ewch i:

Cadw’n Iach y Gaeaf hwn

Mae pethau y gallwch eu gwneud i ofalu ar ôl eich hun yn ystod misoedd y gaeaf, megis archebu presgripsiwn amladroddadwy’n gynnar a chael eich pigiad ffliw.

Nod gwefan Dewis Doeth yw’ch helpu i gael y cymorth meddygol cywir. Gallwch hefyd drio gwefan Galw Iechyd Cymru.

Gwefan yw Gofal Piau hi y Gaeaf hwn sy’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl 65 oed neu’n hŷn i’w helpu i gadw’n iach, cadw’n gynnes a chadw’n ddiogel dros fisoedd y gaeaf. 

Cadw’n gyfredol gyda’r tywydd

Yn ystod y gaeaf a phan mae disgwyl tywydd eithafol a thymereddau isel, paratowch trwy gadw’ch hun yn gyfredol gyda’r sefyllfa ddiweddaraf.

Mae’r Met Office yn darparu rhybuddion am, ac yn ymateb i, dywydd garw a pheryglus, sydd â’r potensial i achosi niwed i fywyd neu ddifrod eang trwy’r Gwasanaeth Rhybuddio Cenedlaethol am Dywydd Garw.

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth a rhybuddion diweddaraf am y tywydd ar:

Gwiriwch hefyd gyda’r Gwasanaeth Uniongyrchol Llinell Rybuddion Llifogydd ar 0345 9881188 i weld a oes unrhyw rybuddion am lifogydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer eich ardal. Bydd rhybuddion am lifogydd hefyd yn cael eu darlledu ar deledu, radio lleol a gwefan Adnoddau Naturiol Cymru.

Busnesau

Mae tywydd garw’n gallu cael effaith fawr ar fusnesau bach, gan ei wneud yn anodd neu hyd yn oed yn amhosib cyflawni tasgau dyddiol. Ar ei waethaf, gallai hyn arwain at golli cwsmeriaid – a hyd yn oed mynd i’r wal yn gyfan gwbl. Gall gael cynllun da ar barhad busnes helpu ostwng yr effaith bosib. I ddarganfod mwy, ewch i Busnes Cymru neu ffoniwch y llinell gymorth gwybodaeth i fusnesau ar 03000 603000. Mae cyngor ar Barhad Busnesau hefyd ar gael yma