Recriwtio Aelodau Panel ar gyfer Apelau Derbyn i Ysgolion

Rydym yn edrych am wirfoddolwr o ystod amrywiol o gefndiroedd a phrofiadau i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc drwy ddod yn aelodau o Banel Apelau Annibynnol Blaenau Gwent ar gyfer apelau derbyn i ysgolion.

Os gwrthodir lle i blentyn mewn ysgol, oherwydd bod y grŵp blwyddyn yn llawn/mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, gall rhiant/gofalwr apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Bydd y Panel Apelau Annibynnol yn cwrdd i ystyried gwybodaeth gan yr ysgol a hefyd gan y rhiant/gofalwr i benderfynu p’un ai i ddyfarnu lle yn yr ysgol honno yn unol â’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion.

Mae’r Paneli hyn yn cwrdd yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r cyfnod prysuraf rhwng mis Mai a mis Medi.

Caiff gwrandawiadau apêl eu cynnal yn ystod y dydd a gellir eu cynnal naill ai wyneb yn wyneb neu o bell drwy feddalwedd MS Teams. Nid yw Aelodau’r Panel Apêl yn derbyn taliad am eistedd ar y Panel, er y caiff treuliau teithio eu had-dalu, a darperir lluniaeth.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau arbennig gan y bydd holl aelodau newydd y panel yn derbyn hyfforddiant llawn cyn cymryd rhan mewn apêl gyda hyfforddiant gloywi yn cael ei ddarparu bob blwyddyn.

Mae’r Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apeliadau Derbyn) (Cymru) 2005 fel y’i diwygiwyd (‘Rheoliadau 2005’) yn gosod y gofynion ar gyfer cyfansoddiad panel apeliadau gyda phob panel yn cynnwys o leiaf dri o bobl. Edrychwn am aelodau o’r naill neu’r llall o’r categorïau gofynnol:

  • Aelodau lleyg – rhai heb brofiad personol wrth reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (caniateid pobl gyda phrofiad mewn addysg mewn swydd wirfoddol neu fel llywodraethwr.
  • Aelod addysg – os oes gennych brofiad mewn addysg, neu wybodaeth o amodau addysgol yn yr ardal awdurdod lleol, neu os ydych yn rhiant disgybl sydd wedi cofrestru mewn ysgol arall.

Bydd angen i baneli apêl gynnwys tri aelod y bydd angen iddynt:

  • Rhoi gwybod os ydynt ar gael ar gyfer y gwrandawiadau apêl
  • Paratoi ar gyfer y gwrandawiad apêl drwy ddarllen y dogfennau a roddir iddynt cyn y gwrandawiad apêl
  • Mynychu’r gwrandawiad i ystyried yr apêl derbyn gan sicrhau y caiff ei gynnal yn deg, tryloyw a diduedd
  • Dilyn Cod Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau i gadarnhau neu wrthod yr apêl derbyn

Caiff aelodau panel eu cefnogi gan glerc wedi ei hyfforddi ym mhob gwrandawiad i sicrhau y dilynir y gweithdrefnau cywir fel y nodir yng Nghod Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Gofynnir i chi nodi na fyddwch yn gymwys am benodiad fel aelod o banel Apelau Annibynnol os ydych yn:

  • Aelod o’r Cyngor (e.e. Cynghorwyr), neu o Gorff Llywodraethu yr ysgol dan sylw.
  • Unrhyw un, heblaw athro/athrawes mewn ysgol arall, a gyflogir gan yr Awdurdod Lleol neu gan y Corff Llywodraethu.
  • Unrhyw unigolyn sydd â, neu a fu erioed â, unrhyw gysylltiad gyda’r Awdurdod Lleol neu’r ysgol (e.e. cyn aelodau’r Corff Llywodraethu), neu gydag unrhyw aelod neu weithiwr cyflogedig yr Awdurdod Lleol neu Gorff Llywodraethu fel y medrid codi amheuon yn rhesymol am ei (g)allu i weithredu’n ddiduedd yng nghyswllt yr Awdurdod Lleol neu’r ysgol. Nid yw cyflogaeth gan yr Awdurdod Lleol fel athro/athrawes ynddo’i hun yn rheswm dros ddatgymhwyso rhywun rhag bod yn aelod – os nad oes rheswm arall dros gwestiynu eu gallu i weithredu mewn modd diduedd.
  • Unrhyw unigolyn a oedd yn barti mewn neu a gymerodd ran mewn unrhyw drafodaethau yn ymwneud â’r penderfyniad i beidio derbyn y plant neu berson ifanc y mae’r apêl yn ymwneud ag ef/hi.

Yn y lle cyntaf, gofynnir i chi mynegiant o ddiddordeb at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk os gwelwch yn dda.