Lansio grant twristiaeth newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

Cafodd grant newydd i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch ei lansio ym Mlaenau Gwent ar Ddydd Gŵyl Dewi 2024.

Mae Blaenau Gwent, un o awdurdodau lleol lleiaf Cymru, yn ardal Blaenau’r Cymoedd ar gyrion Bannau Brycheiniog. Mae’n gartref safleoedd poblogaidd tebyg i Barc Bryn Bach, Tŷ a Pharc Bedwellte, The Guardian, Archifdy Gwent a Lloches Tylluanod Glynebwy.

Mae’r cynllun grant ar gael i fusnesau newydd a busnesau presennol. Caiff ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Anelwyd y grant at fusnesau twristiaeth a lletygarwch tebyg i sefydliadau gwely a brecwast, gosodiadau gwyliau, tai llety, gwestai, atyniadau, safleoedd, tywyswyr a darparwyr gweithgaredd. Dylai prosiectau ddarparu cyfleusterau a phrofiadau newydd a gwell i ymwelwyr, gallai hyn gynnwys ynni gwyrdd a datgarboneiddio, technoleg arloesol a newydd a chynyddu neu wella llety ymwelwyr.

Mae grantiau rhwng £1,000 - £50,000 ar gael ar gyfer gwariant refeniw hefyd wariant cyfalaf.

Dywedodd y Cyng John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd:

“Oddi yma y daeth Cymru yn genedl ddiwydiannol gyntaf y byd, a ni yw man geni y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Tyfodd yr ardal o amgylch glo a haearn, ond nawr mae’n lle gwych i gerdded, mwynhau pryd o fwyd ac ymchwilio ein treftadaeth gyfoethog. Gobeithiwn y bydd y grant hwn yn galluogi busnesau i ddatblygu a gwella llety ymwelwyr i annog mwy o bobl i fwynhau’r hyn sydd gan Blaenau Gwent i’w gynnig.”

Dywedodd Helen Katranamos, perchennog Vamos by the River yn Abertyleri:

“Mae’n gyfnod heriol iawn ar gyfer lletygarwch gyda phrisiau cyfleustodau a chynhwysion yn uchel, felly croesawn unrhyw help i fuddsoddi yn ein busnes”.

Mae manylion llawn y cynllun grant ar gael ar Hyb Busnes Blaenau Gwent.