Lansio Bwydo ar y Fron Blaenau Gwent

Y seren deledu Ferne McCann yn helpu i lansio ymgyrch Bwydo ar y Fron Blaenau Gwent.

Ymwelodd y seren deledu a hyrwyddwr bwydo ar y fron Ferne McCann â Hyb Dechrau’n Deg yn Cwm heddiw (26 Chwefror) i gwrdd â grwpiau o famau ifanc a menywod beichiog i sôn am fanteision bwydo ar y fron.

 

Mae’r digwyddiad yn nodi dechrau ymgyrch blwyddyn o hyd i annog cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ym Mlaenau Gwent a chaiff strategaeth ar gyfer hyn ei lansio yn yr ychydig fisoedd nesaf.

Mae gan Blaenau Gwent un o’r cyfraddau isaf ar gyfer bwydo ar y fron o gymharu â gweddill Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae ffocws yr ymgyrch ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o rai o’r rhwystrau sy’n atal hyn yn y gymuned.

Mae llawer o fanteision i fwydo ar y frest. I famau, mae’n gostwng y risg o ganser oferiaidd a chanser y fron, diabetes a chlefyd y galon. Mae manteision i iechyd babanod hefyd gan ei fod yn gostwng y risg o rai heintiau cyffredin tebyg i heintiau’r glust a gastroberfeddol yn ogystal â gostwng rhai o risgiau bod dros bwysau a gordewdra. Mae hefyd yn helpu i ostwng risgiau eraill fel SIDS, diabetes math 1 ac asthma.

Mae cost a buddion amgylcheddol yn bwysig gan ein bod yn dal mewn argyfwng costau byw. Mae bwydo ar y fron yn rhad ac yn rhwydd, nid oes angen ei dwymo, sterileiddio, ni chaiff ei gynhyrchu mewn ffatri ac nid yw angen unrhyw ddeunydd pecyn, yn wahanol i opsiynau fformiwla.

Mae bwydo ar y fron hefyd yn helpu gyda’r cwlwm ac ymlyniad rhwng y fam a’r baban sy’n hyrwyddo datblygiad ymennydd a rheoleiddio emosiynol y baban, a fydd yn ei dro yn eu helpu i dyfu yn blant bach hyderus.

Roedd arolwg diweddar am fwydo plant, a gafodd 143 ymateb, yn nodi rhai o’r rhwystrau cyffredin i  fwydo ar y fron a defnyddir yr wybodaeth i roi gwybodaeth well i famau a menywod beichiog a gaiff eu targedu gan y strategaeth a’r ymgyrch eleni.

Dywedodd Ferne McCann  

‘Roedd yn bleser mawr ymweld â Cwm heddiw i gefnogi lansiad ymgyrch Bwydo ar y Fron ym Mlaenau Gwent.

Mae llawer o resymau pam fod mamau yn dewis peidio bwydo ar y fron, ond ymddengys mai un o’r rhesymau mwyaf yw diffyg cefnogaeth a diffyg hyder. Gobeithiaf y bydd yr ymgyrch hon yn annog mamau ifanc ym Mlaenau Gwent i gael y cymorth cywir i helpu goresgyn un o’r rhwystrau mwyaf i famau sydd eisiau rhoi cynnig arni – diffyg cefnogaeth.

Mae cymaint i’w ddeall pan ddechreuwch ar eich taith bwydo ar y fron ond ar yr ochr arall mae llawenydd pur, cyfleuster a’r buddion iechyd gwych ac rwy’n sicr y bydd yr ymgyrch hon yn dod â’r holl fanteision yn fyw.’

Nodiadau:

  1. Gall bwydo ar y fron hefyd gael effaith gadarnhaol ar yr agenda cynaliadwyedd a newid hinsawdd. Byddai gostwng yr afiechydon a nodir uchod (y gall magu ar y fron helpu eu hosgoi) yn gostwng y baich ariannol ar y gwasanaeth iechyd. Pe byddai pob plentyn ym Mhrydain yn cael eu bwydo ar y fron am 6 mis, mae astudiaethau’n awgrymu y byddai’r gostyngiad mewn allyriadau carbon yn gyfwerth â thynnu 77,500 o geir oddi ar y ffyrdd!