Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Gwahaniaethu

Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Gwahaniaethu ar sail Hil ar 21 Mawrth 2024, hoffem rannu’r gwaith da y mae Ysgol Gynradd Willowtown wedi ei wneud gyda’i Phrosiect Big Bocs Bwyd. Llwyddodd yr ysgol i sicrhau cyllid trwy Grant Cydlyniant Cymunedol 2023-24 ac mae wedi gwneud cynnydd rhagorol wrth gefnogi teuluoedd a thrigolion y gymuned.

Nod Ysgol Gynradd Willowtown oedd cefnogi teuluoedd a thrigolion y gymuned trwy ei phrosiect ‘Big Bocs Bwyd’.

Mae BBB yn gynhwysydd a ddefnyddir i gludo nwyddau ar long, sydd wedi cael ei drawsnewid yn Siop Gymunedol fach a chroesawgar sy’n cael ei rhedeg gan staff yr ysgol, llysgenhadon ifainc sy’n ddisgyblion yn yr ysgol, rhieni a gofalwyr gwirfoddol. Mae hyn yn lleihau'r rhagfarnau sy'n gysylltiedig ag ymweld â banciau bwyd ac elusennau lleol.

 Mae’r BBB ar agor ddwywaith yr wythnos ac mae’n gweithredu ar fodel ‘Talwch Beth Fynnwch Chi’ sy’n golygu bod cwsmeriaid yn talu faint allan nhw ei fforddio, felly’n lleihau rhagfarn a chefnogi cynaliadwyedd.
 

Prif nodau’r ysgol oedd:
  • Lleihau Tlodi Bwyd
 • Cadw Gwastraff Bwyd i Leiafswm
 • Cefnogi teuluoedd a’r gymuned ehangach
 • Creu ryseitiau iach a maethlon sy’n ysbrydoli teuluoedd i goginio ac i fwynhau gyda’i gilydd
• Hyrwyddo cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ysbrydoli cyfranogiad.

Gyda chymorth y nawdd hwn, mae’r ysgol wedi cael effaith ar deuluoedd mewn mwy nag un ffordd, trwy ddarparu bwyd maethlon i’w brynu, cardiau rysáit a gweithdai coginio a oedd hefyd yn cynnwys bag o fwyd i deuluoedd fynd adref ag ef er mwyn iddynt deimlo’n hyderus ac yn gyffyrddus yn coginio’r rysáit gartref.

Fe fu rhieni’n gwirfoddoli i gyflwyno’r gweithdai coginio ac mae’r rhieni hyn wedi cwblhau Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2. Cefnogwyd hyn hefyd trwy’r grant a’r ysgol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu sgiliau gwaith ar gyfer y dyfodol ac wedi lleihau’r rhwystrau sy’n atal rhieni rhag trafod dewisiadau iachach ar gyfer prydau bwyd.

Mae mam-gus a thad-cus llawer o ddisgyblion hefyd wedi cael cefnogaeth gan y prosiect trwy fynd i siopa mewn archfarchnad leol bob wythnos gyda staff. Yn sgil hyn mae’r ysgol wedi gallu adnabod patrymau siopa a chynnig opsiynau iachach eraill sy’n gost-effeithiol.  

Mae'r ysgol yn falch o ddathlu eu hamrywiaeth a thrwy'r prosiect hwn, maent wedi gallu rhannu a chynnig amrywiaeth o ddewisiadau bwyd nad yw’n rhan o fwyd Prydeinig trwy gynnig bwydydd fel bwydydd Pwylaidd ac Affricanaidd a syniadau am brydau.

Meddai Rebecca Hughes, Swyddog Ymgysylltiad Teuluol a Dysgu, ‘Rwy’n teimlo bod y prosiect wedi cael ei sefydlu’n gadarn yn ein Cymuned leol a’i fod yn parhau i adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei sefydlu’n barod, ac wedi gosod targedau ar gyfer y dyfodol a’u cyflawni. Mae wedi bod yn gymorth i chwalu rhwystrau a rhagfarn ac wedi annog cynhwysiant, amrywiaeth ac empathi yng Nghymuned yr Ysgol. Mae hefyd wedi cynnig cymorth hanfodol wrth ymgysylltu â rhieni ac aelodau o deuluoedd ac wedi fy ngalluogi i ddangos y ffordd at adnoddau cymunedol eraill sy’n rhad ac am ddim ac i weithio’n fwy mewn partneriaeth’.

Erbyn hyn mae’r prosiect wedi ehangu i greu rhandir ar gyfer yr ysgol ac mae gwirfoddolwr, Mr Kettle, wedi dechrau clirio lle ac adeiladu gwelyau uchel ac wedi gweithio gyda Grŵp Senedd Eco’r ysgol i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer Gwanwyn 2024.