Mae paru data

Mae'n ofyniad [cyfreithiol] i'r Awdurdod hwn ddiogelu'r cyllid cyhoeddus y mae'n eu gweinyddu. Gall rannu gwybodaeth a roddwyd iddo gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am: archwilio neu weinyddu cyllid cyhoeddus, neu lle'n ymgymryd â swyddogaeth gyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll. 

Mae Swyddfa'r Cabinet yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data. 

Mae paru data yn ymwneud â chymharu cofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan un corff gyda chofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan yr un corff neu gorff arall i weld pa mor bell y maent yn paru. Gwybodaeth bersonol yw hyn fel arfer. Mae paru data cyfrifiaduron yn ei gwneud yn bosibl dynodi hawliadau a thaliadau a allai fod yn drwyllodrus. Lle canfyddir data sy'n paru, gall ddangos fod anghysondeb sydd angen ei ymchwilio ymhellach. Ni wneir unrhyw dybiaeth ar p'un ai oes twyll, caymgymeriad neu esboniad arall tan y cynhelir ymchwiliad. 

Rydym yn cymryd rhan yng Nghynllun Twyll Cenedlaethol Swyddfa'r Cabinet: ymarferiad paru data i gynorthwyo gydag atal a chanfod twyll. Mae angen i ni roi setiau neilltuol o ddata i weinidog Swyddfa'r Cabinet ar gyfer paru ar gyfer pob ymarfer, fel y manylir yma.

Caiff data ei ddefnyddio gan Swyddfa'r Cabinet mewn ymarferiad paru data gydag awdurdod statudol dan Ran 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2016. Nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae  Cod Ymarfer ar gyfer paru data gan Swyddfa'r Cabinet.

Mwy o wybodaeth ar bwerau cyfreithiol Swyddfa'r Cabinet a'r rhesymau pam ei fod yn paru gwybodaeth neilltuol.  I gael mwy o wybodaeth ar baru data yn yr awdurdod hwn cysylltwch â benefits@blaenau-gwent.gov.uk gan nodi “Paru Data”