Blaenau Gwent yn Cofio

Cymuned Ddysgu Abertyleri - Gwasanaeth Cofio Blwyddyn 7

Mae pobl o bob oed o Flaenau Gwent yn dod ynghyd i nodi Canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cynhelir cyfres o wasanaethau a gorymdeithiau coffa o amgylch y fwrdeistref sirol y penwythnos hwn - mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Bu disgyblion ysgol o amgylch y fwrdeistref sirol yn cymryd rhan drwy gynnal gwasanaethau arbennig i gofio, dysgu am a chydnabod aberth y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r rhyfeloedd ers hynny. Cafodd disgyblion ysgol gynradd a fynychodd Uwch Gyngor y Plant flas o fywyd yn ystod y rhyfel wrth iddynt gymryd rhan mewn sesiwn ail-greu; dril y Gwarchodlu Cymreig; arddangosiad Safonau y Lleng Brydeinig Frenhinol; gweithdai crefft pabi ac fe wnaethant hyd yn oed fwyta eu cinio o ffreutur rhyfel!

Yng nghyfarfod llawn Cyngor Blaenau Gwent, arsylwodd aelodau etholedig ddistawrwydd 2 funud a chadarnhaodd y Cadeirydd Mandy Moore ymrwymiad yr awdurdod i gefnogi'r lluoedd arfog, yn gyn-filwyr a hefyd aelodau presennol y lluoedd arfog. Ymunodd Silwetau Tawel y Lleng Brydeinig Frenhinol â'r cynghorwyr yn y cyfarfod. Mae'r silwetau yn rhan o gynllun pwysig gan y Lleng Brydeinig Frenhinol i ddweud 'Diolch yn Fawr' gennym i genhedlaeth o bobl a wasanaethodd ac a aberthodd, ailadeiladu a newid ein cenedl. Mwy o wybodaeth yma.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Blaenau Gwent:

“Fel Cyngor, a thrwy'r Cyfamod Lluoedd Arfog, rydym yn dangos cefnogaeth sylweddol i'r gymuned lluoedd arfog, yn gyn-filwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd. Mae'n bwysig fod ein cenedlaethau iau yn neilltuol yn cael cyfle i ddysgu am yr aberth a wnaed yr holl flynyddoedd hynny yn ôl.

“A hithau'n ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf rydym wedi trefnu a chefnogi nifer fawr o ddigwyddiadau fel rhan o raglen 'Blaenau Gwent yn Cofio' i nodi ein parch, coffâd a diolch i bawb a wasanaethodd ac a ddioddefodd. Hoffwn ddiolch i'r holl ddynion a menywod a wasanaethodd ac sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd i helpu cadw ein gwlad yn ddiogel.”