Trwyddedu Delwyr Metel Scrap

Ydych chi’n prynu, gwerthu neu gasglu Metel Sgrap?

Daeth Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 i rym ar y 1af o Hydref 2013.  Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn nodi bod rhaid i unrhyw berson sy’n casglu, prynu neu werthu sgrap gael Trwydded Delwyr Metel Sgrap sy’n cael ei chyhoeddi gan y cyngor hwn.  Ni fydd rhaid talu i gael y drwydded hon.

Pwy ddylai wneud cais?

Trwydded safle – Os oes gennych chi safle ble rydych chi’n cynnal gwaith busnes fel deliwr metel sgrap o fewn ardal Cyngor Blaenau Gwent yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded safle er mwyn gweithredu’r safle yna. Bydd y drwydded safle yma hefyd yn caniatáu i chi drosglwyddo metel sgrap i ac o safleoedd trwyddedig eraill o unrhyw ardal Awdurdod Lleol arall.

Trwydded casglwr – Os ydych chi’n gweithredu fel casglwr symudol o fetel sgrap o fewn ardal Cyngor Blaenau Gwent yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded casglwr. Nid yw’r drwydded yma’n caniatáu i chi gasglu o unrhyw ardal Awdurdod Lleol arall a bydd angen i chi wneud cais am drwydded ym mhob ardal Awdurdod rydych chi eisiau gweithredu ynddynt.

Pa ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r cais hwn?

Crynodeb o’r Ddeddf sy’n berthnasol i’r drwydded hon.

Oes rhaid i mi dalu ffi ymgeisio?

Oes.

Cyflwyno trwydded i’r safle - £507
Adnewyddu trwydded y safle - £351
Cyflwyno neu adnewyddo trwydded casglwr - £387
Adnewyddu trwydded casglwr - £367
Newid rheolwr safle - £37
Amrywio trwydded safle - £126
Trwydded amnewid - £28

 

Sut caiff fy nghais ei brosesu?

Rhaid gwneud cais ar gyfer eich trwydded a bydd rhaid talu ffi i’r Cyngor. Bydd hefyd angen i chi gyflwyno ffurflen yn dangos cliriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y’i cyhoeddwyd yn ystod y mis diwethaf fel rhan o’r broses ymgeisio. Gall unrhyw berson sy’n gweithredu fel deliwr metel sgrap heb drwydded sy’n eu cael yn euog dderbyn dirwy gwerth uchafswm o £5,000.

Nodwch na fod y rhain yn disodli Trwydded y Cludydd Gwastraff. I gasglu sgrap yn ardal Blaenau Gwent bydd angen i chi gael trwydded delwyr metel sgrap y’u cyhoeddir gan yr Awdurdod Lleol a Thrwydded y Cludydd Gwastraff y’u cyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Faint o amser bydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Bydd yr holl geisiadau y’u derbynnir ar ôl y 1st o Ragfyr 2013 yn cael eu prosesu o fewn 28 niwrnod. Ni fydd caniatâd dealledig yn berthnasol.

Ymgeisio ar-lein

Ydw i’n gallu apelion os bod fy nghais yn aflwyddiannus?

Yn y lle cyntaf cysylltwch ag Tîm Trwyddedu yn ymwneud ag unrhyw geisiadau aflwyddiannus am drwyddedau neu rhai y’u dychwelwyd.

Cwynion gan Gwsmeriaid

Os hoffech chi gyflwyno cwyn, cysylltwch a’r Tîm Trwyddedu.

Cofrestr Gyhoeddus

Cliciwch yma am wybodaeth am weld cofrestradau cyhoeddus.

Gwybodaeth Gyswllt

Ffôn: 01495 355485
Ebost: licensing@blaenau-gwent.gov.uk