Sut mae’r broses yn newid

Mae’r system Anghenion Addysgol Arbennig yn newid

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd y caiff plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig (AAA) eu cefnogi. Mae’r system newydd yn diffinio AAA fel Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA). Mae sawl rheswm pam fod y gyfraith yn newid, ond y prif un yw symleiddio’r broses a’i gwneud yn fwy tryloyw i bawb sy’n gysylltiedig.

Bydd y gyfraith newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cyflwyno nifer o brif newidiadau yn cynnwys:

  • dod â’r holl systemau presennol ynghyd mewn un system newydd sengl ar gyfer ADY;
  • canolbwyntio ar y dysgwr;
  • rhoi’r un hawliau i ddysgwyr faint bynnag eu oed neu ym mha bynnag leoliad y maent;
  • gwella pontio rhwng lleoliadau;
  • cynnig darpariaeth Gymraeg lle mae angen hynny; a
  • bod yn system deg a thryloyw i bawb.

Mae’r newidiadau hyn yn golygu y bydd plant, rhieni/gofalwyr a phobl ifanc yn:

  • cael mynediad yn gynharach i’r cymorth maent ei angen;
  • cymryd mwy o ran wrth wneud penderfyniadau am y cymorth maent ei angen;
  • medru canfod gwybodaeth yn rhwyddach; a
  • cael eu cefnogi os anghytunant gyda phenderfyniadau.

Gall plant a phobl ifanc sydd ag anghenon dysgu ychwanegol gael y cymorth hwn am fwy o amser. Nid yw’r system newydd yn rhoi hawl awtomatig i bob person gyda ADY i gael addysg barhaus hyd at 25 oed, ond gall rhai pobl ifanc gael y cymorth hwn nes byddant yn 25 oed os oes ganddynt angen rhesymol am addysg a/neu hyfforddiant.

Sut fydd hyn yn digwydd?

Bydd dull gweithredu mewn camau i’r newidiadau hyn dros 4 blynedd.

Mae hyn yn golygu y bydd dwy system yn gweithredu o fis Medi 2021-2025, y system ADY newydd a’r system AAA bresennol. (Ni chaiff plant a phobl ifanc sydd yn cael darpariaeth addysgol arbennig ar hyn o bryd drwy Ddatganiad AAA a’r rhai nad ydynt mewn unrhyw fath o addysg ôl-16 eu cynnwys ym mlwyddyn gyntaf y dull gweithredu mewn camau. Bydd canllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr am y dull gweithredu ar gyfer y plant a’r bobl ifanc eu hunain ar gael cyn gynted ag sydd modd. Bydd manylion pellach ar sut y bydd y system yn gweithio ar gyfer cefnogi pobl ifanc mewn addysg ôl-16 hefyd).

Am 4 blynedd bydd pob awdurdod lleol, lleoliad Blynyddoedd Cynnar, ysgol a lleoliad Addysg Bellach (e.e. Coleg Ôl-16) yn gweithio’n galed gyda phlant a’u teuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau fod pawb yn deall y newidiadau.

Bydd gan deuluoedd fynediad i wybodaeth, cyngor a chymorth di-duedd. Mae hyn yn statudol sy’n golygu ei bod yn ofyniad cyfreithiol i’w darparu.

Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru fod â threfniadau ar gyfer rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Yn yr awdurdod lleol hwn caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu gan SNAP Cymru

Yr hyn a ddarperir gan Ddeddf Anghenion Datblygu Ychwanegol 2018 a’r Cod Anghenion Datblygu Ychwanegol 2021 newydd

https://llyw.cymru/deddf-anghenion-dysgu-ychwanegol-a-thribiwnlys-addysg-cymru

https://llyw.cymru/safleoedd/diofyn/ffeiliau/cyhoeddiadau/2021-03/cod-anghenion-dysgu-ychwanegol-cymru-2021.pdf

Gallwch ganfod mwy am raglen trawsnewid ADY ac arweiniad ar y system AAA yma yn cynnwys cwestiynau cyffredin a chanllaw rhaglen trawsnewid ADY.

Beth sy’n digwydd nawr?

Gallai plant a phobl ifanc sydd ag AAA neu anawsterau dysgu/anableddau fod â:

  • chynllun addysg unigol;
  • datganiad; neu
  • cynllun dysgu a sgiliau.

Beth fydd yn newid?

Bydd llawer o’r plant a phobl ifanc hyn yn parhau i gael eu hanghenion wedi eu diwallu drwy arfer ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth. Bydd ychydig o blant a phobl ifanc sydd ag anhawster dysgu neu anabledd sy’n galw am ddarpariaeth dysgu ychwanegol. Mae hon yn ddarpariaeth sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r hyn sydd ar gael yn gyffredinol ar gyfer plant a phobl ifanc eraill o’r un oedran. Bydd gan y plant a phobl ifanc hyn gynllun datblygu unigol.

Beth yw cynllun datblygu unigol?

Caiff cynllun datblygu unigol ei greu drwy gydweithio gyda’r plentyn a rhiant/gofalwr neu berson ifanc mewn partneriaeth gydag asiantaethau ehangach a all fod yn ymwneud tebyg i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y cynllun datblygu unigol yn dweud yr hyn sydd angen i’r plentyn neu berson ifanc ei ddysgu, gan nodi:

  • yr hyn sy’n bwysig iddynt ac ar eu cyfer,
  • disgrifiad o’u hanghenon dysgu, a
  • beth gaiff ei wneud er mwyn iddynt gael eu cefnogi’n iawn yn yr ysgol neu goleg a’r ddarpariaeth dysgu ychwanegol sydd ei hangen i ddiwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Caiff y cynllun ei adolygu bob deuddeg mis neu’n gynharach os oes angen.

Gal ysgolion, colegau neu’r awdurdod lleol greu a goruchwylio (cynnal) Cynllun Datblygu Unigol, ond pwy bynnag sy’n cynnal y cynllun, mae’n dal i fod yn ddogfen gyfreithiol felly mae’n ofyniad cyfreithiol fod y ddarpariaeth a gynhwysir ynddi yn cael ei chyflawni. Dros y tair blynedd nesaf bydd Cynlluniau Datblygu Unigol yn disodli’r holl gynlluniau sydd gennym yn awr yn cynnwys:

  • Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig;
  • Cynlluniau Addysg Unigol ar gyfer dysgwyr a gaiff eu cefnogi ar hyn o bryd drwy Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu a Mwy yn y Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu a Mwy gan yr Ysgol; a
  • Cynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn mynychu coleg).

Y ‘Ddyletswydd Gwneud Penderfyniad’ newydd ar yr ysgol

Pam gaiff ysgol ei hysbysu y gall fod ADY ar blentyn neu berson ifanc yn yr ysgol, mae’n rhaid iddi benderfynu os oes gan y plentyn neu berson ifanc hynny anghenion dysgu ychwanegol os na:

  • bod Cynllun Datblygu Unigol eisoes yn ei le;
  • y gwnaed penderfyniad eisoes fod ADY gan y plentyn neu berson ifanc ac nad yw eu hanghenion wedi newid; neu
  • yn achos person ifanc, nad ydynt yn cydsynio i’r penderfyniad.

Ailystyried penderfyniadau

Gall plentyn, rhieni/gofalwyr neu berson ifanc ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad yr ysgol ynghylch ADY y plentyn/person ifanc.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wedyn benderfynu os oes ADY ar y plentyn neu berson ifanc ai peidio. Pan mae hyn yn digwydd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ysgol am y cais a gofyn am fwy o wybodaeth ganddynt. Gall yr awdurdod lleol gadarnhau neu beidio cadarnhau penderfyniad yr ysgol, gall gyfarwyddo’r ysgol i ysgrifennu Cynllun Datblygu Unigol.

Os yw’r plentyn neu riant/gofalwr neu berson ifanc yn anhapus gyda’r Cynllun Datblygu Unigol, gallant ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y cynllun. Gall yr awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun, dweud wrth yr ysgol i adolygu’r cynllun neu gadarnhau fod y cynllun yn addas.

Pan fo’r ysgol yn cynnal y cynllun, gall plentyn, rhiant/gofalwr, berson ifanc neu’r ysgol ofyn i awdurdod lleol ddod yn gyfrifol am gynnal y cynllun gan yr ysgol.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu p’un ai i gymryd y cynllun drosodd (os nad yw wedi gwneud penderfyniad blaenorol ac nad yw anghenon y plentyn neu berson ifanc wedi newid yn sylweddol ac nad oes unrhyw wybodaeth newydd i effeithio ar y penderfyniad). Lle mae’r awdurdod lleol yn penderfynu na fydd yn cymryd y cynllun drosodd, mae’n rhaid hysbysu’r plentyn a’r rhiant/gofalwr neu berson ifanc am hyn mewn ysgrifen.

Beth os oes anghytundeb?

Bydd plant a rhieni/gofalwyr neu bobl ifanc yn ymwneud ag ysgrifennu eu Cynllun Datblygu Unigol. Bydd gweithio yn y ffordd hon yn rhoi cyfleoedd i drafod pryderon a galluogi trin a setlo materion ar gam cynnar.

Gall anghytundeb godi o bryd i’w gilydd. Bwriedir i’r system ADY newydd a’r broses Cynllun Datblygu Unigol a’r ddyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ystyried barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhieni neu berson ifanc  helpu i oresgyn llawer o anghytundebau. Mae’n hanfodol y caiff problemau eu trin cyn gynted ag sy’n bosibl ac i blant, rhieni neu ofalwyr a phobl ifanc gael mynediad i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth diduedd.

Lle codir pryder am ddarpariaeth iechyd neu ofal cymdeithasol, gall rhieni/gofalwyr neu berson ifanc drafod hyn gyda gweithiwr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol. Lle byddai’n fanteisiol i’r bwrdd iechyd lleol gymryd rhan wrth osgoi a datrys anghytundeb o fewn addysg, bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â’r Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig i gael cyngor.

Mae nifer o ffyrdd i blant, rhieni/gofalwyr neu berson ifanc a all helpu problemau neu gamddealltwriaeth yn deillio fel sy’n dilyn.

Siarad gyda’r ysgol

Dylech bob amser siarad gyda Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol cyn gynted â bod gennych unrhyw bryderon neu faterion o gonsyrn. Dylech rannu’r holl wybodaeth sydd gennych am eich plentyn gyda’r ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gysylltiedig. Byddant yn:

  • gwrando a chymryd eich problem o ddifrif;
  • eich cynnwys chi a’ch plentyn ac ystyried eich barn;
  • ymchwilio’r holl faterion a phryderon; a
  • chasglu gwybodaeth a chynllunio ffordd ymlaen gyda chi.

Swyddogion a enwir o fewn yr awdurdod lleol

Os anghytunwch gyda phenderfyniad ysgol neu awdurdod lleol ar unrhyw beth yn ymwneud â darpariaeth ADY neu leoliad eich plentyn dylech gysylltu â swyddog a enwir yng Ngwasanaeth Cynhwysiant yr awdurdod lleol. Gallant eich helpu i ddeall problemau, casglu gwybodaeth bellach, rhoi cyngor a chymorth ac ailystyried penderfyniadau’r ysgol. Mae gan bob awdurdod lleol swyddogion a enwir a fydd yn rhoi cyngor a chymorth a gallant helpu drwy ddarparu peth o’r dilynol:

  • cyngor diduedd ar hawliau’r plentyn, rhiant plentyn neu berson ifanc sydd angen cymorth;
  • cymorth i ddeall anawsterau a chynllunio ffordd ymlaen gyda’r holl bobl eraill sy’n gysylltiedig;
  • cyfarfodydd wyneb yn wyneb i benderfynu beth i’w wneud nesaf;
  • cymorth i fynychu a chyfrannu at gyfarfodydd yn yr ysgol neu’r awdurdod lleol; a
  • chymorth parhaus os yw’n anodd datrys problemau.

Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Annibynnol ar ADY - SNAP Cymru

Gallwch hefyd gysylltu â SNAP Cymru sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd i’ch helpu i:

  • ddatgan eich barn yn hyderus, gwneud penderfyniadau a datblygu perthynas dda gyda gweithwyr proffesiynol;
  • rhoi gwybodaeth glir a syml am eich opsiynau;
  • eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus; ac
  • eich helpu i ddeall cyfraith, hawliau a phrosesau ADY.

Datrys Anghytundeb / Cyfryngu

Weithiau mae’n anodd dod i gytundeb. Mae SNAP Cymru yn darparu datrysiad anghytundeb annibynnol yn yr ardal hon. Gall y gwasanaeth helpu plant, eu rhieni/gofalwyr, pobl ifanc, ysgolion a’r awdurdod addysg lleol lle mae anghydfod am benderfyniadau ADY a darpariaeth ADY.

Bydd cyfryngydd profiadol yn cwrdd gyda rhieni/gofalwyr a’r ysgol neu staff yr awdurdod addysg lleol. Nid yw’r cyfryngydd yn ochri gyda neb ond bydd yn gwrando ac yn canfod beth fu’n digwydd. Y nod yw canfod datrysiad sy’n gweithio ac y gall pawb gytuno ag ef.

Gall plant a rhieni/gofalwyr neu bobl ifanc sydd eisiau gwybod mwy am y gwasanaeth hwn siarad gyda SNAP Cymru ar 0808 801 0608 neu e-bost: DRS@snapcymru.org neu ar gyfer atgyfeirio a mwy o wybodaeth ar:  DRS  - https://www.snapcymru.org/mediation/ 

Anghytuno gyda darpariaeth Iechyd

Gallwch ddefnyddio’r broses “Unioni Pethau” ar gyfer anghytundeb yn gysylltiedig â phenderfyniadau iechyd a darpariaeth na chafodd eu datrys drwy drafodaethau cynharach.

Dolen i broses “Unioni Pethau” y bwrdd iechyd https://www.wales.nhs.uk/ourservices/publicaccountability/puttingthingsright

Tribiwnlys Addysg Cymru

Mae gennych hawl apelio at Dribiwnlys Addysg Cymru. Mae’r Tribiwnlys yn annibynnol a bydd yn ystyried apêl lle mae anghytundeb gyda phenderfyniadau’r awdurdod lleol.

Gall plentyn, rhiant, gofalwr neu berson ifanc wneud apêl ar y dilynol:

  • adolygu penderfyniad a wnaed gan ysgol os oes gan blentyn/person ifanc ADY;
  • penderfyniad gan awdurdod lleol, yn achos person ifanc, os oes angen paratoi a chadw Cynllun Datblygu Unigol ai peidio;
  • disgrifiad o ADY yr unigolyn;
  • y ddarpariaeth dysgu ychwanegol mewn Cynllun Datblygu Unigol;
  • yr ysgol a enwir yn y cynllun neu os na chaiff ysgol ei henwi;
  • penderfyniad i ddiwygio Cynllun Datblygu Unigol;
  • penderfyniad i beidio cymryd cyfrifoldeb am Gynllun Datblygu Unigol, yn dilyn cais i wneud hynny;
  • penderfyniad i atal neu gadw Cynllun Datblygu Unigol; neu
  • gwrthodiad i benderfynu ar fater.

Os ydych yn penderfynu apelio at y Tribiwnlys Addysg, dylech adael i’r swyddog a enwyd o fewn yr awdurdod lleol wybod cyn gynted ag sy’n bosibl a pharhau i drafod eich pryderon. Gall SNAP Cymru eich helpu i barhau i ddatrys eich anghytundeb.

Manylion cyswllt

I gael mwy o wybodaeth gallech gysylltu gydag unrhyw un o’r cysylltiadau islaw:

  • Y Cydlynydd Anghenion Dysgu ychwanegol yn ysgol/lleoliad eich plentyn. Cysylltwch â swyddfa eich ysgol i ganfod pwy yw Cydlynydd ysgol eich plentyn;
  • Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Annibynnol SNAP Cymru Ffôn: 0808 801 0608.
  • Gwasanaeth cynhwysiant eich awdurdod lleol.
  • Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru

Ffôn:   0300 025 9800  E-bost: Tribunal.Enquiries@gov.wales

Os ydych yn anhapus gydag unrhyw beth, dylech roi gwybod beth yw eich barn cyn gynted ag sy’n bosibl. Dylech siarad yn gyntaf gyda’r athro dosbarth os ydych yn bryderus am gynnydd eich plentyn yn yr ysgol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i drin a datrys materion yn brydlon ac atal problemau rhag gwaethygu.'

Dogfennau Cysylltiedig