Darperir yr hysbysiad hwn er mwyn egluro pa wybodaeth sydd ei hangen ar y Cyngor er mwyn prosesu ceisiadau am wasanaethau o dan Gynhwysiant a Gwelliant Addysg. Mae angen i'r Cyngor gasglu, storio a phrosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni ei wasanaethau. Mae'r Cyngor yn rhoi mesurau ar waith i ddiogelu preifatrwydd unigolion trwy gydol y broses hon.
Pwy sy’n gyfrifol am eich gwybodaeth?
Mae pob gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw a'i phrosesu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data. I gael gwybodaeth am rôl y Rheolwr Data, Swyddog Diogelu Data a Manylion Cyswllt ar gyfer y Cyngor, cyfeiriwch at dudalen 'Diogelu Data' gwefan y Cyngor:https://blaenau-gwent.gov.uk/en/Council/data-protection-foi/data-protection-act/
Pa fath wybodaeth sydd ei hangen arnom?
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, ac os oes angen, eich teulu a phartïon eraill. Bydd y wybodaeth hon yn cynnwys:
• manylion amdanoch chi, er enghraifft, eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich dyddiad geni;
• gwybodaeth berthnasol arall sydd ei angen i brosesu eich cais, er enghraifft disgrifiad o'r gwasanaeth a ofynwyd amdanol.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i brosesu eich cais a / neu chyflawni’r camau angenrheidiol. Efallai y byddwn yn gwirio'r wybodaeth gyda tharddiadau eraill i sicrhau bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gywir.
Pam bod angen eich gwybodaeth arnom?
Mae'r Cyngor yn gofyn am y wybodaeth hon er mwyn darparu'r gwasanaethau yr ydych yn gofyn amdanynt, ac i gyflawni ei swyddogaethau statudol.
Gan bwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Er mwyn galluogi'r Cyngor i brosesu eich cais a chydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, byddwn, lle mae angen, yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau partner, a all gynnwys:
- ysgolion;
- darparwyr gofal cymdeithasol;
- darparwyr gofal iechyd;
- Llywodraeth Cymru;
- archwilwyr;
- gwasanaethau a gomisiynwyd;
- cyrff rheoleiddio allanol
Yn ychwanegol at yr uchod, bydd y Gwasanaeth Lles Addysg yn rhannu, pan fo angen, eich gwybodaeth gyda sefydliadau partner, gan gynnwys:
- byrddau cyfiawnder ieuenctid
- llysoedd
- CThEM
- treth y Cyngor
- buddion
- awdurdodau lleol eraill
- yr heddlu
- tai
- Gyrfa Cymru
Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn cyflawni unrhyw un o'i ddyletswyddau gorfodi statudol. Bydd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, a gallant hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am ganfod / atal twyll neu archwilio / gweinyddu arian cyhoeddus.
Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu?
Er mwyn cydymffurfio â GDPR, dim ond pan fo amod yn cael ei fodloni o dan Erthygl 6 o'r ddeddfwriaeth, rhaid prosesu data personol. Yn yr achos hwn, y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw:
• contract sydd gennym gydag unigolyn, neu oherwydd eu bod wedi gofyn i ni gymryd camau penodol cyn ymrwymo i gontract.
• bod yn rhaid inni gydymffurfio â'r gyfraith
• bod angen amddiffyn bywyd rhywun
• bod yn rhaid inni gyflawni tasg er budd y cyhoedd, neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.
Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?
Bydd y Cyngor ond yn cadw eich gwybodaeth cyn belled ag y bo angen. Mae manylion llawn am ba hyd y mae'r Cyngor yn cadw'ch gwybodaeth ar gael trwy gysylltu â'r Adran berthnasol sy'n gyfrifol am y gwasanaethau y mae eu hangen arnoch.
Canolfan gyswllt y Cyngor:info@blaenau-gwent.gov.uk / 01495 311556.
Darparu gwybodaeth gywir
Mae'n bwysig ein bod yn cadw gwybodaeth gywir a chyfoes amdanoch chi er mwyn asesu eich anghenion a darparu’r gwasanaethau priodol. Os yw eich manylion wedi newid, neu newid yn y dyfodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni ddiweddaru'ch cofnodion.
Gwneud Penderfyniadau Awtomatig
Seiliedir rhai penderfyniadau ar gyfrifiadur gan fod y Cyngor yn defnyddio systemau awtomataidd i gefnogi ei wasanaethau. Os caiff eich data personol ei brosesu trwy gyfrwng awtomataidd, fe'ch hysbysir am y canlyniadau a chrynodeb o'r meini prawf a ddefnyddir yn y broses hon. Mae'r canlyniadau yn destun penderfyniad terfynol gan y rheolwr gwasanaeth perthnasol.