Gwybodaeth Rhieni/Gofalwyr a Phlant
Darperir cefnogaeth annibynnol i rieni ym Mlaenau Gwent gan SNAP Cymru (Prosiect Cynghori ar Anghenion Arbennig Cymru).
Elusen yw SNAP Cymru sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig. Mae'r gwasanaeth:
- Am ddim
- Yn gyfrinachol
- Yn annibynnol
Beth mae SNAP Cymru yn gallu gwneud?
- Siarad â chi am eich pryderon.
- Ymweld â chi adref os ydych eisiau iddynt.
- Eich helpu i ddeall sut gellir helpu'ch plentyn.
- Eich helpu i ysgrifennu'ch meddyliau am eich plentyn.
- Eich cefnogi mewn cyfarfodydd, yn yr ysgol, yn ystod ymweliadau a thrafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn os ydych yn dymuno.
- Rhoi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau yn eich ardal a sut gallwch ddod o hyd i'r gefnogaeth y gallech fod ei angen.
O AAA i ADY: Fforymau Rhieni a Gofalwyr Mae SNAP Cymru yn cynnal cyfres o fforymau rhieni a gofalwyr am ddim i deuluoedd plant ag ADY/plant anabl 0-25 oed ledled Cymru, yn dechrau y mis hwn ac yn parhau tan fis Ebrill 2023. Mae'r sesiynau'n cynnig cyfle i rieni a gofalwyr wneud y canlynol: · cael mwy o wybodaeth am weithredu'r system ADY yng Nghymru · rhannu eu barn a'u profiadau · cael mynediad at gymorth a chyngor gan dîm SNAP Cymru Bydd adborth o'r sesiynau yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnoddau a chefnogaeth i deuluoedd yn y dyfodol. Bydd y fforymau yn cael eu cynnal ar-lein ac wyneb yn wyneb, mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru. Helpwch ni i hyrwyddo'r digwyddiadau gyda rhieni a gofalwyr: Gallwch hefyd anfon e-bost at SNAP Cymru gydag unrhyw gwestiynau am y digwyddiad: fromsentoaln@snapcymru.org
|
Tudalennau Cysylltiedig:
-
Siaradwch â rhywun ar 0808 801 0608
-
E-bostiwch: helpline@snapcymru.org
-
Ewch i’w gwefan ar: www.snapcymru.org
Dogfennau Cysylltiedig
Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (2018)
Sefydliadau eraill a all helpu
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent- AskSARA