Mae gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo). Mae’r ALNCo yn gyfrifol am reoli Anghenion Addysgol Arbennig (SEN) o fewn yr ysgol.
Mae’r ALNCo, gyda’r Prifathro a’r Corff Llywodraethu, yn chwarae rôl allweddol yn natblygiad polisi a darpariaeth SEN yn yr ysgol.
Mae’r ALNCo yn cymryd cyfrifoldeb o ddydd i ddydd dros y polisi SEN ac yn cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer plant unigol gyda SEN, gan weithio’n agos gyda staff, rhieni a gofalwyr ac asiantaethau eraill.
Mae’r ALNCo hefyd yn darparu cyfarwydd proffesiynol perthnasol i staff eraill yr ysgol gyda’r nod o sicrhau dysgu o ansawdd uchel ar gyfer plant gyda SEN.
Ymhlith prif gyfrifoldebau’r ALNCo mae:
- Goruchwylio gweithrediad polisi SEN yr ysgol o ddydd i ddydd
- Cynghori a chefnogi athrawon/aelodau eraill o staff yn yr ysgol/y lleoliad
- Goruchwylio/rheoli cynorthwywyr dysgu
- Cysylltu â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill (Awdurdod Lleol, Iechyd ayyb) yn ymwneud â phlant gydag Anghenion Addysgol Arbennig
- Cynnal asesiadau o gryfderau a gwendidau penodol plant
- Cydlynu darpariaeth ar gyfer plant gydag Anghenion Addysgol Arbennig gan gynnwys cynllunio cefnogaeth ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod dyletswyddau statudol yn cael eu bodloni – er enghraifft, cynnal Adolygiadau Blynyddol o Ddatganiadau
Goruchwylio cofnodion pob plentyn gydag anghenion addysgol arbennig gan sicrhau bod y wybodaeth berthnasol yn cael ei gasglu, ei gofnodi a’i diweddaru.