Cerbydau Gadawedig

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am archwilio a symud cerbydau gadawedig ar dir cyhoeddus a heolydd cyhoeddus.

Cyfrifoldeb y perchennog yw cerbydau gadawedig ar dir preifat. Fodd bynnag, os ydynt yn peri niwsans, gall y Cyngor gyflwyno rhybudd i’w symud.

Beth yw cerbyd gadawedig?

Er nad oes diffiniad cyfreithiol o gerbyd gadawedig, gall y Cyngor ystyried cerbyd yn un gadawedig os oes ganddo un neu gyfuniad o'r nodweddion dilynol:

  • Heb ei drethu heb unrhyw Geidwad Cyfredol ar gofnodion y DVLA
  • Gyda difrod sylweddol, mewn cyflwr gwael neu anaddas i fynd ar y ffordd
  • Wedi ei losgi'n ulw
  • Heb un neu fwy o'i blatiau rhif
  • Yn cynnwys gwastraff
  • Wedi bod yn yr unfan am gyfnod sylweddol
  • Cerbyd na ddychwelir iddo byth

Nid yw’r ffaith bod cerbyd mewn cyflwr gwael neu heb ei drethu yn unig o anghenraid yn golygu ei fod yn adawedig ac yn achlysurol gallai fod yn rhaid cynnal ymholiadau ychwanegol i sefydlu a yw’r cerbyd yn adawedig ai peidio cyn y gallwn ei symud.

Gallwch wirio os yw'r cerbyd wedi ei drethu ar hyn o bryd drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol:

https://vehicleenquiry.service.gov.uk/

Os yw’r cerbyd ar dir preifat mae’n rhaid i ni yn gyntaf gyflwyno rhybudd 15-niwrnod ar y perchennog. Unwaith bydd y cyfnod o 15 niwrnod yn dod i ben yna bydd y cerbyd yn cael ei drin fel pe bai ar y briffordd.

Os yw cerbyd yn peri rhwystr ar y briffordd, neu os tybir ei fod wedi ei ddwyn neu iddo fod â rhan mewn trosedd, hysbyswch yr achos i Heddlu Gwent ar 01633 838 1 1 1.

Os yw’r cerbyd heb ei drethu dylech hysbysu hyn i’r DVLA.

Rhoi gwybod am gerbyd gadawedig

I roi gwybod am gerbyd gadawedig ac er mwyn i ni weithredu’ch cwyn yn gyflym mae angen i ni wybod:-

  • lleoliad y cerbyd
  • pa mor hir mae e wedi bod yno
  • gwneuthuriad a lliw
  • y rhif cofrestru
  • os oes ganddo os yw wedi ei drethu ac os felly pryd y daw i ben
  • cyflwr cyffredinol y cerbyd

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

I roi gwybod am gerbyd gadawedig ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556 neu roi gwybod ar-lein drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Os oes rhybudd wedi ei osod ar eich cerbyd neu i hawlio cerbyd, ffoniwch, os gwelwch yn dda (01495) 357813.

I roi gwybod am gerbyd heb ei drethu cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r DVLA ar 08000 325 202.