Ceffylau sy’n Pori’n Anghyfreithlon

Ceffylau sy’n Pori’n Anghyfreithlon

Cyngor i berchnogion tai a’r cyhoedd

Rydym weithiau’n cael adroddiadau am geffylau sydd wedi eu gadael ac sy’n pori’n anghyfreithlon ar ofodau agored yn y fwrdeistref. Mae’r adroddiadau hyn yn bennaf gan aelodau’r cyhoedd sy’n pryderu am eu lles.

Cawn hefyd alwadau gan dirfeddianwyr y cafodd ceffylau eu gadael ar eu tir.

Beth yw pori anghyfreithlon?

Pori anghyfreithlon yw pan gaiff ceffyl/ceffylau eu rhoi ar dir rhywun heb eu caniatâd. Mae hyn yn digwydd ar dir preifat a hefyd dir cyhoeddus.

Gall y ceffylau fod ar dennyn ar laswellt wrth ymyl y ffordd neu gael eu gadael i grwydro mewn caeau neu ofodau gwyrdd.

Pam ei fod yn broblem?

Lles anifeiliaid

Gall fod yn anodd i ddechrau i weld y problemau sy’n gysylltiedig gyda phori anghyfreithlon. Caiff llawer o geffylau eu cadw tu fas drwy’r flwyddyn ac maent yn llwyddo i ymdopi yn ystod y gaeaf. Mae ceffylau angen cael mynediad i fwyd, dŵr a chysgod (a all fod yn naturiol neu wneuthuredig).

Ym misoedd yr haf maent angen mynediad i gysgod, glaswellt ffres a bwyd ychwanegol a dŵr. Dylid rhoi bwyd ychwanegol (gwair, er enghraifft) mewn lleoliadau lle mae’r pori’n wael. Gall ceffyl dan ei bwysau fod yn arwydd nad yw ceffyl yn cael digon o fwyd.

Efallai nad yw ceffylau sy’n pori’n anghyfreithlon yn cael y sylw maent ei angen pan gânt eu hanafu neu os ydynt yn wael. Gall y ceffylau hyn fod heb angen sylfaenol rhaglen dda i gael gwared â llyngyr. Gall hyn ladd ceffylau os caiff ei adael heb ei drin.

Diogelwch

Weithiau mae risg y bydd ceffylau yn crwydro ar ffyrdd. Mae mwy o berygl o hyn gyda thir sy’n agos at ffyrdd prysur neu ardaloedd preswyl. Gall ladd y gyrrwr a’r ceffyl os yw car yn taro ceffyl.

Gall ceffylau sy’n teimlo dan fygythiad gicio neu frathu pobl sy’n mynd heibio os eir atynt. Bu hefyd achlysuron pan gafodd aelodau’r cyhoedd eu bygwth gan berchnogion ceffylau.

Beth i’w wneud mewn sefyllfa argyfwng?

Byddai ceffylau sy’n pori’n anghyfreithlon yn aml yn cael eu cyfrif fel anifeiliaid anwes a byddai’r RSPCA yn gyfrifol am eu lles. Os yw’n sefyllfa o argyfwng (e.e. y ceffyl yn wael, wedi anafu neu mewn perygl uniongyrchol) dylid ffonio llinell ffôn arbennig yr RSPCA ar 0300 1234 999. Bydd angen i chi roi cymaint o fanylion ag sy’n bosibl, yn cynnwys lleoliad y ceffyl ac unrhyw broblemau mynediad.

Os yw ceffyl yn rhydd ar y briffordd ac yn berygl i draffig, dylid cysylltu â’r Heddlu ar 999.

Beth ydyn ni’n wneud i fynd i’r afael â phori anghyfreithlon?

Nid ydym yn caniatáu i geffylau gael eu pori’n anghyfreithlon ar ein tir. Byddwn yn ceisio cysylltu â pherchennog y ceffyl lle mae ceffyl yn pori’n anghyfreithlon. Lle nad yw hyn yn bosibl, gosodir hysbysiad yn ymyl lle maent yn pori yn galw am symud y ceffyl(au).

Os na chânt eu symud, byddwn yn gwneud trefniadau i gael y ceffyl(au) wedi eu symud. Unwaith y cafodd ceffyl ei locio, dim ond os y rhoddir pasbort ceffyl ar gyfer yr anifail y gallwn ei ddychwelyd i’w berchnogion.

Mae gan yr Awdurdod Lleol hefyd bwerau dan Ddeddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 i atafaelu a llocio ceffyl sydd ar unrhyw briffordd neu mewn unrhyw le cyhoeddus arall yn ardal yr Awdurdod Lleol os oes ganddo sail resymol dros gredu fod y ceffyl yno heb unrhyw awdurdod cyfreithiol.

Beth am bori anghyfreithlon ar dir preifat?

Pan gaiff ceffyl ei adael ar dir preifat byddwn yn ceisio cysylltu â pherchennog y tir a’u hysbysu am y sefyllfa. Gallwn ddefnyddio ein pwerau dan Ddeddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 i symud ceffylau sy’n pori’n anghyfreithlon os yw tirfeddiannwr yn gofyn i ni wneud hynny. Byddwn yn defnyddio contractwyr preifat i symud y ceffylau hyn a bydd yn rhaid i’r tirfeddiannwr dalu unrhyw gostau mewn gwneud hynny.

Gwneud cwyn am geffyl sy’n pori’n anghyfreithlon

Os oes gennych gŵyn neu bryder am geffyl sy’n pori’n anghyfreithlon, cysylltwch â’r tîm Gorfodaeth Rheng Flaen ar y manylion cyswllt islaw os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen
Y Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6AA
Ffôn:  01495 357813
Ffacs: 01495 355834
E-bost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk